Dod o hyd i hyblygrwydd a sgiliau bywyd gyda chynllun Twf Swyddi Cymru+

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ar ôl gadael yr ysgol, ymunodd Shannon Morris, 16 oed, o’r Barri, ag ACT a chofrestru ar raglen TSC+, gan ei fod yn cynnig yr hyblygrwydd yr oedd ei hangen arni i gydbwyso ei haddysg ochr yn ochr â’i chyfrifoldebau gofal.

Image of Shannon Morris standing outside ACT's premises

Shannon Morris

Ar hyn o bryd mae Shannon ar linyn Cynnydd Rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+), rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16–19 oed sy’n eu helpu i ennill y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i gael swydd neu ddilyn hyfforddiant pellach. Gan ddeall nad yw pob person yr un fath, mae rhaglen TSC+ yn gwbl unigryw ac wedi’i theilwra i ddiwallu anghenion y dysgwr unigol.

Yn ogystal â pharatoi ar gyfer byd gwaith, mae Shannon hefyd yn ail-afael yn ei chymwysterau Saesneg a Mathemateg, fel rhan o’i Sgiliau Hanfodol, tra hefyd chwilio am leoliad gwaith. Gyda llawer o lwybrau gwahanol ar gael iddi, mae Shannon yn chwilfrydig ac yn awyddus i roi cynnig ar bopeth.

“Rwy’n agored iawn i unrhyw beth ar hyn o bryd. Mae llawer o bethau y gallaf eu gwneud felly rwy’n cadw fy opsiynau ar agor. Rydw i wedi dysgu cymaint gydag ACT. Mae’n fy helpu i ddatblygu a dysgu sgiliau defnyddiol fel deall y broses gyfweld am swydd. Fe wnes i greu fy CV gydag ACT ac mae wedi bod mor ddefnyddiol cael y gefnogaeth a’r adborth am yr hyn y mae cyflogwyr yn disgwyl.”

Yn ogystal â dysgu sgiliau gwerthfawr ar raglen TSC+, mae ACT hefyd yn cynnig Diwrnodau Cyfoethogi i ddysgwyr. Mae’r rhain wedi’u cynllunio er mwyn i bobl ifanc gael profi amgylcheddau a sefyllfaoedd unigryw, er mwyn magu hyder. Gall Diwrnodau Cyfoethogi amrywio o ddysgu sgiliau gofal anifeiliaid a bwyd yn Jamie’s Farm yn Nhrefynwy, i deithiau dydd cyffrous ledled De Cymru.

“Mae ACT yn le cyffrous iawn. Mae fel teulu yma ac mae’n hawdd iawn cyflawni pethau ac mae fy nhiwtoriaid yn gefnogol iawn. Rydw i wedi dysgu sut i gyfathrebu’n llawer gwell ac rwy’n teimlo cymaint yn fwy hyderus wrth fynd am gyfweliad am swydd a gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ohonof yn y gweithle.”

Fel prif ofalwr i’w mam, mae Shannon yn gweld rhaglen TSC+ yn hyblyg iawn tuag at ei hymrwymiadau gofal ac mae’n mwynhau dysgu sgiliau bywyd go iawn gwerthfawr wrth baratoi ar gyfer cyflogaeth. Cymerodd Shannon ran hefyd yn rhaglen Sgiliau Bywyd Barclays, cwrs a gyflwynir mewn partneriaeth â Busnes yn y Gymuned, sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc i ddysgu am reoli a chydbwyso cyllid. Mae Shannon yn teimlo bod ACT yn cynnig profiad dysgu unigryw i bobl ifanc sy’n archwilio eu hopsiynau.

“Byddwn yn bendant yn argymell ACT i bobl ifanc eraill. Rwy’n credu ei fod yn lle gwych i fynd am arweiniad ac yn opsiwn da os nad ydych am ddilyn y llwybr traddodiadol yn y coleg. Rwy’n dioddef o bryder cymdeithasol felly mae’n fater o reoli hynny fel y gallaf barhau i symud ymlaen. Mae gen i lawer o gefnogaeth o’m cwmpas sy’n wych. Dydw i ddim yn siŵr beth rydw i eisiau ei wneud nesaf ond rwy’n gwybod bod llawer y gallaf ei wneud ac mae gen i lawer i’w gynnig.”

ACT Training – Twf Swyddi Cymru+

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —