Cwmni gwasanaethau hylendid blaenllaw yn cael budd o brentisiaethau

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

 Staff from phs Group, Large Employer of the Year finalist.

Staff o phs Group, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Dywed y darparwr gwasanaethau hylendid blaenllaw, phs Group, fod prentisiaethau wedi helpu’r cwmni i ddenu a chadw mwy o gydweithwyr, gwella cynhyrchiant a gwasanaeth cwsmeriaid, a chynyddu gwerthiannau.

Mae’r cwmni, a sefydlwyd yng Nghaerffili, yn cyflogi mwy na 3,000 o gydweithwyr ledled y wlad, gyda 130 ohonynt yn brentisiaid.  Dros y pum mlynedd diwethaf, mae phs Group wedi cyflogi 256 o brentisiaid, gyda 47 ohonynt wedi cael eu dyrchafu neu wedi symud i rôl newydd fel rhan o’u cynllun gyrfa.

Nod phs Group yw sicrhau bod o leiaf 5% o’r gweithlu yn rhan o raglen prentisiaethau, sy’n helpu i ddatblygu llwybrau gyrfa o lefel mynediad i uwch-reoli.

Mae phs Group bellach wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yng nghategori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Darperir prentisiaethau o Lefel 3 i Lefel 7, yn amrywio o Weinyddu Busnes a Gwasanaeth Cwsmeriaid i Reoli a Gwyddor Data, gan ALS Training, ACT a Choleg y Cymoedd. Cyflwynodd Coleg Penybont Wobr Partneriaeth Cyflogwyr i phs Group yn 2023 hefyd.

Mae phs Group, sy’n aelod o Rwydwaith Llysgenhadon Prentisiaethau, yn rhannu arferion gorau â chyflogwyr eraill ac mae wedi trosglwyddo £90,000 o’i ardoll prentisiaethau i gefnogi prentisiaid mewn 15 o fusnesau bach a chanolig.

Recriwtiodd phs Group Julie Harries fel arweinydd dysgu seiliedig ar waith yn 2019 er mwyn llywio a rheoli prentisiaethau, gan wella sgiliau a chyfleoedd ym mhob rhan o’r busnes a sicrhau cyfraddau cwblhau uchel.

Cred Julie fod prentisiaethau yn cyd-fynd yn berffaith â’r rhaglenni dysgu a datblygu mewnol sydd ar gael i gydweithwyr.

“Mae ein rhaglen prentisiaethau yn sicrhau bod gennym yr wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau cywir. Drwy’r 130 o bobl sydd gennym ar raglenni prentisiaeth, rydym wedi cynyddu arbenigedd cydweithwyr yn phs Group, sy’n ein helpu i wireddu ein gweledigaeth o fod yn bartner ac yn gyflogwr delfrydol.

“Drwy ddatblygu cydweithwyr, maent yn meddu ar fwy o gymhelliant a brwdfrydedd. Mae cyflogeion hapus yn effeithio ar y ffordd rydym yn gwasanaethu ein cwsmeriaid ac yn sicrhau’r canlyniadau gorau iddynt, sy’n hanfodol i gwmni y mae pobl wrth wraidd ei gynhyrchion a’i wasanaethau.”

Dywedodd Vanessa Hope, Rheolwr Datblygu Corfforaethol ALS Training: “Rydym wedi gweithio gyda phs Group ers sawl blwyddyn, ac mae ymrwymiad y cwmni i brentisiaethau, sy’n amlwg yng nghyfradd gyflawni uchel ei staff, bob amser wedi gwneud argraff arnom.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, phs Group a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i ddiwallu anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000

Back to top>>

More News Articles

  —