Teithio’n bell gyda rhaglen prentisiaethau gyntaf y DU

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Transport for Wales apprentices

Prentisiaid Trafnidiaeth Cymru

Cadw Cymru i symud drwy rwydwaith trenau cynaliadwy fu’r sbardun y tu ôl i raglen prentisiaethau arloesol a grëwyd gan Trafnidiaeth Cymru.

Sefydlwyd y cwmni nid-er-elw yn 2015 i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer creu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy o ansawdd uchel. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi croesawu dysgu seiliedig ar waith drwy recriwtio cannoedd o brentisiaid i wella perfformiad a chynaliadwyedd hirdymor.

Croesawodd Trafnidiaeth Cymru ei garfan gyntaf yn 2019, ac erbyn 2021, roedd y cwmni wedi cyflwyno’r rhaglen gyntaf yn y DU i yrwyr trenau dan hyfforddiant, wedi’i dylunio mewn cydweithrediad â’r corff dyfarnu, EA, a’i darparu mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd.

Mae’r rhaglen eisoes wedi annog llu o recriwtiaid newydd o wahanol gefndiroedd i ymuno â’r diwydiant rheilffyrdd, gyda’r nod o ddenu mwy na 100 o brentisiaid newydd y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.  Ar hyn o bryd, mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflogi 189 o brentisiaid ac mae wedi recriwtio mwy na 300 dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yng nghategori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Dywedodd Liam Matthews, Cydgysylltydd Prentisiaethau Rheilffyrdd Coleg y Cymoedd, “Drwy ddylunio rhaglen prentisiaethau bwrpasol, sicrhaodd Trafnidiaeth Cymru fod gyrwyr trenau dan hyfforddiant yn ennill cymhwyster cydnabyddedig, sef y cymhwyster NVQ Lefel 3 achrededig cyntaf mewn gweithrediadau gyrwyr trenau yn y DU”.

“Nid yn unig y mae’r cymhwyster hwn yn cynnig cydnabyddiaeth swyddogol i’r cyflogeion, ond mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy”.

Mae prentisiaethau bellach ar gael mewn 12 rhan o’r busnes, wedi’u darparu gan ALS Training, a chred Trafnidiaeth Cymru fod y rhaglenni hyn wedi cefnogi cynlluniau trawsnewid y cwmni yn uniongyrchol.

Gan ganolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant, maent hefyd wedi darparu cronfa gynaliadwy o dalent sy’n gydnaws â nodau ac amcanion y sefydliad, a amlinellir yn ei strategaeth gorfforaethol a’i gynllun cydraddoldeb strategol.

Mae cyflwyno strwythur cyflogau newydd i brentisiaid, sy’n gyson â’r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn dangos ymrwymiad i ddenu ymgeiswyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, gan sicrhau bod prentisiaethau ar gael i amrywiaeth ehangach o unigolion er mwyn hyrwyddo amrywiaeth ymhellach yn y gweithlu.

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Trafnidiaeth Cymru a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i ddiwallu anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000

Back to top>>

More News Articles

  —