Whitbread, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn cael budd o brentisiaethau

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Whitbread Group, Large Employer of the Year finalist

Whitbread Group, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Mae un o fusnesau lletygarwch mwyaf blaenllaw’r DU, Whitbread Group PLC, sydd â mwy nag 800 o westai, dros 400 o fwytai a mwy na 36,000 o gyflogeion, yn elwa ar ei ymrwymiad cryf i brentisiaethau.

Mae cyfradd cadw staff y busnes 10% yn uwch ar gyfer prentisiaid, sy’n gyfystyr â gwerth £5 miliwn yn llai o gostau, mwy o werthiannau a phrofiadau gwell i westeion.

Caiff prentisiaethau ar Lefel 2 i Lefel 5 eu darparu gan Lifetime Training, mewn partneriaeth â Chwmni Hyfforddiant Cambrian yng Nghymru, ar gyfer staff yn amrywio o gogyddion, gweithwyr cadw tŷ a derbynyddion i reolwyr ac arweinwyr tîm a phrosiect. Mae’r cyfraddau llwyddiant a rhagoriaeth yn sylweddol uwch na chyfartaleddau’r diwydiant.

Mae Whitbread Group PLC bellach wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yng nghategori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy na 270 o gyflogeion Whitbread Group wedi cwblhau prentisiaeth ac mae mwy na 2,000 wrthi’n dilyn un ledled y DU. Mae rhwydwaith o Hyrwyddwyr Prentisiaethau yn helpu i ddatblygu dysgwyr ym mhob rhan o’r busnes.

Mae prentisiaethau yn rhan annatod o raglen Force for Good Whitbread, sy’n rhoi’r cyfle i bob cyflogai ddysgu a datblygu. Mae dull ‘dim rhwystr’ i brentisiaid y sicrhau bod pob cyflogai yn gwireddu ei botensial.

Mewn arolwg a gynhaliwyd ledled y DU, dywedodd 86% o gyflogeion y cwmni fod prentisiaeth wedi gwella eu hyder yn eu rôl, ac roedd 90% o’r farn eu bod wedi meithrin sgiliau newydd. Roedd 47% wedi cael dyrchafiad neu wedi ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol o fewn blwyddyn i gwblhau eu prentisiaeth, ac roedd 20% o ddirprwy reolwyr gwestai wedi cael eu dyrchafu ar ôl cwblhau prentisiaeth.

Mae’r ymrwymiad hwn i ddysgu a datblygu wedi helpu Whitbread i ennill statws Cyflogwr Gorau am 13 o flynyddoedd yn olynol.

Dywedodd Richard Brooks-Harley, Rheolwr Darparu Prentisiaethau Whitbread Group: “Roedd ein sylfaenydd, Samuel Whitbread, yntau’n brentis, sy’n golygu bod prentisiaethau’n rhan greiddiol o’n DNA.”

Dywedodd Matthew Summerbell, Uwch-reolwr Gweithrediadau yn Lifetime Training, fod Whitbread yn hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth ymysg ysgolion a cholegau, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.

Ychwanegodd, “Mae’r cyfuniad o ddiwylliant prentisiaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid ac allgymorth cymunedol yn arwain at gyflawniadau a chanlyniadau cadarnhaol, ac mae prentisiaid ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu dyrchafu yn Whitbread a 30% yn fwy tebygol o aros gyda’r busnes.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Whitbread Group a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i ddiwallu anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000

Back to top>>

More News Articles

  —