Prentisiaethau wrth galon busnes adeiladu teuluol

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

TRF ltd workers in high-vis jackets standing in front of digger

TRJ Ltd apprentices

Mae trydedd genhedlaeth teulu bellach yn rhedeg busnes adeiladu llwyddiannus TRJ Ltd yn Rhydaman, a sefydlwyd gan y cyn-brentis T. Richard Jones ym 1935.

Tua 89 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cwmni’n dal i gyflogi prentisiaid, gan sicrhau llif cyson o dalent adeiladu ar gyfer y de-orllewin.

Yn ogystal â chyflogi 160 o bobl, gan gynnwys 16 prentis, mae TRJ Ltd yn darparu gwaith i oddeutu 100 o isgontractwyr lleol. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi cyflogi 43 o brentisiaid, ac mae’n cefnogi rhaglenni prentisiaethau a rennir a rhaglenni prentisiaethau traddodiadol trwy Cyfle Building Skills a Choleg Sir Gâr.

Bellach, mae TRJ Ltd ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn rownd derfynol Cyflogwr Canolig y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae prentisiaethau wrth wraidd y busnes, sy’n defnyddio’r dywediad ‘building on a firm foundation’I. Mae naw o gyn-brentisiaid bellach yn meddu ar rolau rheoli neu oruchwylio.

Darperir prentisiaethau o Lefelau Sylfaen i Uwch mewn Gwaith Coed, Gosod Briciau, Plastro, Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil, Mecaneg Planhigion, Gweithredwyr Aml-sgiliau, Mesur Meintiau, Rheoli Adeiladu a Phaentio ac Addurno. Fe’u cyflwynir gan Goleg Sir Gâr, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Penybont.

Mae cyfarwyddwr TRJ Cyf, Owain Jones, yn ymddiriedolwr CITB ac yn ymwneud â’r gwaith o ddatblygu model cyflawni newydd ar gyfer hyfforddiant adeiladu. Treialodd y cwmni Brentisiaeth Sylfaen mewn Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil, mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr a CITB. Cwblhawyd y cwrs gan 30 o brentisiaid.

Mae prentisiaid yn dysgu amrywiaeth o sgiliau adeiladu ar draws y busnes, gyda chymorth porth dysgu ar-lein. Y llynedd, cefnogodd y cwmni hefyd 60 wythnos o leoliadau profiad gwaith, sy’n rhan hanfodol o’r broses recriwtio.

“Mae dysgu a datblygu yn rhan allweddol o ymrwymiad y cwmni i ddatblygu gyrfaoedd ein gweithwyr,” meddai Stuart Thomas, swyddog gwerth cymdeithasol a hyfforddiant TRJ Ltd. “Dechreuodd y sylfaenydd ei yrfa fel saer prentis. Adeiladodd y cwmni gan bwysleisio wrth eraill bwysigrwydd addysg a datblygu.”

Dywedodd Gareth David, rheolwr gweithredol dysgu seiliedig ar waith Coleg Sir Gâr: “Mae TRJ bob amser wedi bod yn gefnogwr ac yn eiriolwr dros brentisiaethau. Mae tua chwarter y gweithlu naill ai’n brentisiaid ar hyn o bryd neu wedi bod yn brentisiaid yn y gorffennol.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, TRJ Ltd a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”‌

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Back to top>>

More News Articles

  —