NTFW yn gofyn am ran o’r adduned o £283m ar gyfer gofal iechyd i gefnogi prentisiaethau
Mae sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gefnogi prentisiaethau gan ddefnyddio rhywfaint o’r £283.126 miliwn y mae wedi’i addunedu ar gyfer addysg a hyfforddiant gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.
Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi croesawu datganiad yr wythnos hon gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan a oedd yn addunedu i gynnal lefel y cyllid ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Fodd bynnag, mae’r addewid yn cyd-ddigwydd â’r gostyngiad o £38m yng nghyllid prentisiaethau a gynigir yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, sydd heb ei chadarnhau gan Senedd Cymru hyd yma.
Mae’r NTFW, darparwyr hyfforddiant a gofal iechyd, a sefydliadau addysg ledled Cymru wedi rhybuddio y bydd gofal cleifion a gofal preswyl yn dioddef yn enbyd os gwneir y toriadau llym i’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru.
Amcangyfrifant y bydd nifer y prentisiaethau newydd a ddechreuir yn 2024-25 yn cael ei haneru i 10,000, gan effeithio’n ddifrifol ar y sector gofal iechyd yng Nghymru. Honnir bod y sector yn wynebu gostyngiad o 69% mewn cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau ar adeg pan na fu’r heriau i’r gweithlu erioed yn fwy.
Y rheswm yw bod y rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n dechrau prentisiaeth mewn gofal iechyd dros 25 oed ac y bwriedir i gyllid Llywodraeth Cymru flaenoriaethu dysgwyr iau.
Dywedodd cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton:
“Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal lefel y cyllid ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, sy’n bwysig er mwyn cefnogi gweithlu’r GIG. Fodd bynnag, mae braidd yn gibddall pan fo cyllideb prentisiaethau’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei thorri.
“Rydym yn annog y Gweinidog yn daer i helpu ei chydweithiwr, Gweinidog yr Economi Vaughan Gething, a defnyddio peth o’i chyllideb i sicrhau cefnogaeth i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n rhan bwysig o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru a hwnnw eisoes mewn argyfwng.””
Yn ôl dadansoddiad a wnaed yn ddiweddar gan NTFW, os bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu pobl ifanc o dan 25 oed, mae’n bosib na fydd cyfleoedd newydd am brentisiaethau i bobl 25 oed a hŷn yn 2024-25.
Amcangyfrifir y bydd 5,500 yn llai o brentisiaid yn y sector hwn, sy’n sector blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, gofal iechyd clinigol, nyrsio deintyddol, a gofal, dysgu a datblygiad plant.
Dywed yr NTFW ei bod yn eironig mai Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd wedi’i flaenoriaethu yn y gyllideb ddrafft drwy fuddsoddiad ychwanegol o £929m, yw’r union sector y bydd y toriad yng nghyllideb prentisiaethau yn effeithio waethaf arno.
More News Articles
« Prentisiaethau wrth galon busnes adeiladu teuluol — Prentisiaethau yn rhan annatod o dwf darparwr gofal plant yn y De »