Abigail yn cwblhau prentisiaeth ddwyieithog mewn meithrinfa lwyddiannus

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Abigail Hathway gyda rheolwr dros dro Meithrinfa Si-Lwli, Sophie Lewis, a’r asesydd Rhian Weeks o Educ8.

Mae Abigail Hathway yn ddiolchgar i’w rhieni am benderfynu rhoi addysg Gymraeg iddi o’r feithrinfa ymlaen.

Diolch i’w gallu i siarad Cymraeg, mae ganddi swydd wrth ei bodd ym Meithrinfa Si-Lwli, meithrinfa Gymraeg yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, enillydd gwobr Meithrinfa’r Flwyddyn yng Nghymru yn 2018.

Mae hefyd wedi cwblhau Prentisiaeth ddwyieithog mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant trwy’r darparwr dysgu Educ8 ac mae’n gobeithio symud ymlaen i wneud rhagor o gymwysterau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

“Fyddwn i ddim wedi cael y swydd yma taswn i ddim yn gallu siarad Cymraeg,” meddai Abigail, 27 oed, sy’n byw yn Nhonypandy. “Gan nad oeddwn i wedi siarad Cymraeg ers amser hir cyn cael y swydd, ro’n i’n cael trafferth â’r gwaith ysgrifennu ar gyfer y brentisiaeth, felly fe wnes i’r gwaith ysgrifennu yn Saesneg a’r gwaith llafar yn Gymraeg.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cael dewis gwneud y cymwysterau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rwy wrth fy modd yn cael siarad Cymraeg yn y feithrinfa a gyda ffrindiau. Yn yr ysgol, doedd siarad Cymraeg ddim yn cŵl, ond mae agweddau wedi newid ac mae’r gallu i siarad yr iaith yn agor llawer o ddrysau i chi.

“Penderfynodd fy rhieni roi addysg Gymraeg i mi er nad ydyn nhw’n siarad yr iaith. Rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw.”

Ar ôl gorffen ei Lefel A, bu Abigail yn y brifysgol yn astudio seicoleg am 18 mis ond bu’n rhaid iddi adael y cwrs oherwydd salwch. Yna dechreuodd weithio fel gofalwr, a bu’n gweithio gyda phlentyn anabl yn ei chartref am bedair blynedd cyn symud ymlaen i ofalu am oedolion ag anghenion arbennig am ddwy flynedd.

Cafodd y swydd ym Meithrinfa Si-Lwli dair blynedd yn ôl ac mae’n hapus iawn yno.

Mae rheolwr dros dro Meithrinfa Si-Lwli, Sophie Lewis, yn llawn canmoliaeth i Abigail. “Mae’n hyfryd ac mae ganddi berthynas wych â’r rhieni, y teuluoedd a’r plant. Mae’n amwg ei bod yn mwynhau’r swydd ac mae hynny’n braf.”

Fel Abigail, mae Sophie’n dod o gartref di-Gymraeg ond cafodd addysg Gymraeg a bu hynny’n help iddi gael ei swydd bresennol.

Cwblhaodd Brentisiaeth Uwch mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yn ddiweddar gan wneud y gwaith yn Gymraeg a dim ond ychydig o sgyrsiau gyda’r tiwtor yn Saesneg. Ei nod yn awr yw symud ymlaen i wneud cymhwyster arwain a rheoli a fydd yn help ar gyfer ei swydd.

“Rwy’n meddwl ei fod yn dda cael y plant i siarad Cymraeg o ddechrau eu haddysg,” meddai. “Fyddwn i ddim lle’r ydw i heddiw heb yr iaith Gymraeg.”

Dywedodd asesydd Abigail, Rhian Weeks o Educ8: “Roedd Abigail yn un hawdd iawn cydweithio â hi. A minnau’n siarad Cymraeg, ro’n i’n gallu mynd i’r feithrinfa, arsylwi a chofnodi popeth yn naturiol ac yn gyfforddus.

“Mae hi’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n greadigol a llawn dychymyg wrth gynllunio gweithgareddau ar gyfer y plant. Mae’n dda am feddwl y tu allan i’r bocs.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod prentisiaid yn cael cyfle i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd mae hynny’n golygu nad yw’n rhaid iddynt newid eu geirfa a bod modd cofnodi eu harferion gorau.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yw helpu darparwyr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau i geisio gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae NTfW yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru a nifer o randdeiliaid eraill i wella darpariaeth ac argaeledd cymwysterau Cymraeg a dwyieithog er mwyn gwireddu’r weledigaeth o Gymru ddwyieithog.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Dyma stori sy’n dangos pa mor bwysig ac anghenrheidiol yw cynnig y Gymraeg ym maes prentisiaethau. Wrth i ni geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle yn amhrisiadwy.

Er bod y ffigyrau yn dangos bod y nifer sydd yn astudio prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol isel, mae’n dda gweld datblygiadau cadarnhaol i wella’r cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd, byddwn fel swyddfa yn gweithio i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy’n gadael y system addysg a’r bobl sy’n dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn gallu defnyddio eu sgiliau; a bod sefydliadau hefyd yn gweld gwerth i’r iaith.”

More News Articles

  —