Asesydd yn ennill rôl ei breuddwydion ar ôl cwblhau pedwar cymhwyster

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

ACT Tutor Christie Davies

ACT Jobs Growth Wales+ Tutor, Christie Davies

Ar gyfer un o diwtoriaid mwyaf newydd ACT, mae ei dysgu wedi cwblhau’r cylch.

Dechreuodd yr asesydd gofal plant, Christie Davies ei thaith ddysgu pan gofrestrodd gyda Thwf Swyddi Cymru + yn ddeunaw oed, ac mae hi bellach yn dathlu ei phenodiad fel tiwtor yn yr un adran.

Gadawodd Christie yr ysgol i ddod o hyd i brentisiaeth ar ôl methu ei harholiadau oherwydd nifer o rwystrau personol. Gwelodd hysbyseb am leoliad gofal plant ac roedd yn gallu cael cymorth ariannol er mwyn teithio yn ôl ac ymlaen rhwng ei chartref yn Y Barri a’i lleoliad gwaith yn Ffynnon Taf.

Meddai: “Gorffennais fy Lefel 2 CCLD (Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygu) a symud ymlaen i Lefel 3 ac yna Gwaith Chwarae.

“Wedi hynny, symudais o feithrinfeydd i ysgolion gan fy mod eisiau magu dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad plant. Es at ACT eto i ennill fy nghymhwyster Lefel 3 STLS (Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion).

“Fe’m cefnogwyd trwy’r holl gymwysterau gan fy nhiwtoriaid gwych a oedd yn deall fy mod i eisiau bwrw ymlaen ac yn hapus i ddanfon gwaith ataf yn gynnar a threfnu ymweliadau ychwanegol yn ôl yr angen.”

Ar ôl cwblhau pedwar cymhwyster gydag ACT, llwyddodd Christie i ennill ei statws HLTA (Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch) gyda Chonsortiwm Canolbarth y De.

Ychwanegodd Christie: “Rhoddodd y cymwysterau gyfoeth o brofiad addysgu i mi, rwy’n gobeithio y bydd hyn i gyd yn fy helpu yn fy rôl newydd yn ACT ac y gallaf drosglwyddo’r gefnogaeth a gefais i.

“Y peth mwyaf buddiol am y rôl i mi yw’r gallu i roi’r cyfleoedd rydw i wedi’u cael yn ôl. Fy nghyngor i unrhyw un sy’n mynd i faes gofal plant fyddai i gael hwyl. Os ydych chi’n frwdfrydig ac yn caru’ch swydd, bydd pob diwrnod yn wych. Ond hefyd, byddwch yn drefnus, cadwch eich adroddiadau a’ch gwaith papur yn gyfredol a chofiwch gadw lles y plant wrth galon. Os ydych chi eisiau rhywbeth mwy – ymladdwch drosto fe bob tro.”

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Christie yn awyddus i beidio â gorffwys ar ei rhwyfau, er gwaethaf ei chyflawniadau helaeth.

Dywedodd: “Ar hyn o bryd rwy’n gweithio’n wirfoddol fel hyfforddwr cymorth cyntaf ar gyfer cadetiaid y môr. Rwy’n gobeithio cyfuno’r rolau a chefnogi addysgu ac asesu cymorth cyntaf i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal plant ond i wneud hynny rwy’n credu y bydd angen cymhwyster Addysg a Datblygiad Lefel 3 arnaf yn gyntaf.”

Back to top>>

More News Articles

  —