Darparwyr hyfforddiant yn croesawu’r newid i’r toriadau yng nghyllid prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

head shot of Lisa Mytton

Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW – “Mae ein haelodau’n dal i wynebu heriau enfawr”.

Mae darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith ledled Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth) eu bod am leihau’r toriad arfaethedig i’r rhaglen brentisiaethau.

Y bwriad yng nghyllideb ddrafft wreiddiol Llywodraeth Cymru oedd gwneud toriad o 24.5%, sy’n cyfateb i £38 miliwn, gan olygu bod 10,000 yn llai o brentisiaid yn gallu dechrau’r flwyddyn nesaf.

Yn dilyn ymgyrch unedig o dan arweiniad Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a ColegauCymru, gyda chefnogaeth cyflogwyr ledled Cymru, mae £5.25 miliwn wedi’i roi yn ôl yn y gyllideb.

Er bod y toriad yn y cyllid yn dal yn her enfawr, mae’r NTFW, sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru, wedi croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ailfeddwl, er mai o dan bwysau aruthrol yr oedd hynny.

“A hwythau’n dadlau’n gryf dros ddatblygu’r gweithlu, mae’r NTFW yn croesawu’r cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru am gyllid prentisiaethau,” meddai cyfarwyddwr strategol yr NTFW Lisa Mytton.

“Wrth ailfeddwl fel hyn, maent yn cydnabod pwysigrwydd prentisiaethau o ran rhoi cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr fel y caiff unigolion brofiad ymarferol a datblygu sgiliau arbenigol i ateb anghenion cyflogwyr ledled Cymru.

“Rydym wedi mynnu o’r dechrau bod prentisiaethau’n elfen hanfodol er mwyn adeiladu gweithlu medrus a chau’r bwlch sgiliau yn ein gwlad.

“Mae’r Ffederasiwn yn falch iawn bod yr holl amser a dreuliwyd yn lobïo Gweinidogion ac Aelodau’r Senedd am fanteision prentisiaethau i unigolion a busnesau fel ei gilydd wedi dwyn ffrwyth.

“Mae ein haelodau’n dal i wynebu heriau enfawr oherwydd y gostyngiad sylweddol yn y gyllideb. Er bod y rhagolygon ychydig yn fwy cadarnhaol na’r disgwyl, mae’n dal yn golygu y bydd llawer llai o bobl yn dechrau ar brentisiaethau y flwyddyn nesaf ac y bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn.

“Rydym yn canmol Llywodraeth Cymru a Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething am wrando arnom ac adolygu eu cyllideb ddrafft wreiddiol.

Fodd bynnag, rydym yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn prentisiaethau cyn gynted â phosibl er mwyn parhau â’r rhaglen bwysig hon a chadw’r gweithlu arbenigol a phroffesiynol sy’n llywio datblygiad sgiliau yng Nghymru. Hyd yn oed ar ôl newyddion heddiw rydym yn gwybod bod darparwyr hyfforddiant yn cynllunio nifer sylweddol o ddiswyddiadau.

“Rydym hefyd yn dymuno cofnodi ein gwerthfawrogiad o’r ffaith ein bod wedi cael cefnogaeth draws-bleidiol a chefnogaeth gan gyflogwyr Cymru ar gyfer blaenoriaethu cyllid prentisiaethau yn y gyllideb. Mae’n gyffrous meddwl am y potensial ar gyfer twf ac arloesi yma.

“Gyda’n gilydd, gallwn barhau i gefnogi datblygiad gweithlu medrus iawn sy’n sbarduno twf economaidd a ffyniant i bawb yng Nghymru.”

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —