Gall prentisiaid “anelu am yr entrychion” mewn bwrdd iechyd sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Emma Bendle, apprenticeship and widening access co¬-ordinator (centre) and staff and apprentices at Cardiff and Vale University Health Board.

Emma Bendle, cydlynydd prentisiaethau ac ehangu mynediad (canol) a staff a phrentisiaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae meithrin gallu proffesiynol ei staff presennol, gan recriwtio a hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol, yn cadw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar flaen y gad yn y sector iechyd.

Mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn uwchsgilio ei weithlu drwy ystod o brentisiaethau ers 2006, ond cyflymodd ei raglen yn sgil creu Academi Brentisiaethau yn 2018. O ganlyniad i hyn, mae bron i 900 o unigolion newydd wedi cofrestru, sy’n cynnwys recriwtiaid newydd i’r sector.

Mae’r dull deublyg hwn yn profi’n llwyddiant, ac mae bron i ddau ddwsin o brentisiaethau yn creu cyfleoedd i weithwyr sefydledig yn ogystal â newydd-ddyfodiaid ddatblygu gyrfa, ac mae ffrwd newydd o dalent yn helpu i fynd i’r afael â her recriwtio a chadw staff.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro bellach wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Macro-Gyflogwr y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

“Mae prentisiaethau’n gweithredu ar wahanol lefelau ac yn cael eu paru â’n rolau band i sicrhau eu bod yn addas a’u bod yn hwylus i’w cwblhau,” meddai Emma Bendle, cydlynydd prentisiaethau ac ehangu mynediad.

“Mae hyn yn rhoi cyfle i unigolion anelu am yr entrychion neu neidio i ffwrdd lle maen nhw’n teimlo’n gyfforddus i wneud, gan hyrwyddo dull mwy cynhwysol drwy ddiwallu anghenion unigolion sydd â sgiliau a gallu amrywiol.”

Mae llwyddiant y rhaglen brentisiaethau yn ymdrech sefydliadol ac yn rhan annatod o thema ‘Denu, Recriwtio a Chadw’ y Cynllun Pobl a Diwylliant, sy’n cael ei fonitro a’i ddiweddaru’n rheolaidd.

Mae partneriaethau wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu’r nifer fawr o raglenni sydd ar gael, ac mae Talk Training, Educ8, ALS Training a Choleg Caerdydd a’r Fro wedi ymuno â’r prif ddarparwr hyfforddiant, ACT, gan weithio ochr yn ochr â’r bwrdd iechyd.

“Mae’r ystod eang o sgiliau y mae’r bwrdd iechyd yn buddsoddi ynddyn nhw yn dangos ei fod nid yn unig yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau allweddol, ond hefyd ar wella strwythur ehangach y sefydliad a’i bobl,” meddai Susan Edwards, rheolwr datblygu busnes yn ACT.

“Rydyn ni wedi gweld droson ni’n hunain y cynnydd a gyflawnwyd drwy’r rhaglen brentisiaethau uchelgeisiol hon sy’n uwchsgilio’r gweithlu presennol, ac yn hybu talent newydd mewn sector sydd mor bwysig.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”‌

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Back to top>>

More News Articles

  —