Pwysigrwydd rhoi’r Gymraeg ar waith yn eich busnes
Fel darparwr addysg sy’n gweithio ar draws Cymru, mae ACT yn deall pwysigrwydd sicrhau bod y Gymraeg nid yn unig yn cael ei chydnabod yn ei sefydliad ond ei bod yn cael ei defnyddio’n weithredol p’un ai yn rhugl neu’n achlysurol.
Mae ACT yn gweithio gyda bron i 500 o ddysgwyr Cymraeg eu hiaith i gyflawni eu nodau gyrfa, ac felly rydym yn cynnig tiwtoriaid a staff cymorth sy’n siarad Cymraeg yn ogystal â chyfathrebu dwyieithog.
Buom yn siarad â Rachel Dwyer sydd ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ei phrentisiaeth Marchnata Digidol gydag ACT.
Mae Rachel yn rhiant sengl sy’n byw yn yr Eglwys Newydd ac yn gweithio fel cydlynydd marchnata ar ôl bron i ddegawd fel cynorthwyydd dysgu.
“Penderfynais fynd yn ôl i’r hyn roeddwn i’n gwneud cyn i mi gael y plant sef marchnata a hyrwyddo,” esboniodd. “Roeddwn yn falch o gael cynnig prentisiaeth gydag ACT er mwyn diweddaru fy sgiliau wrth weithio. Dwi tua hanner ffordd drwyddo ac yn mwynhau’n fawr. Mae fy asesydd yn amyneddgar gyda mi ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y ffaith y gallaf gofnodi fy nhystiolaeth mewn gwahanol ffyrdd.”
Yn wreiddiol o Orllewin Cymru, magwyd Rachel ar aelwyd ddwyieithog.
“Mae fy iaith a’m diwylliant yn bwysig i mi,” meddai. “Rwy’n teimlo’n gryf y dylem wneud defnydd mor gynhwysol â phosib o’r Gymraeg ac annog dysgu a defnydd ohoni. Mae’r gallu i siarad Cymraeg a Saesneg wedi fy helpu mewn cymaint o ffyrdd ac rwy’n defnyddio’r ddwy iaith yn feunyddiol.”
Ni ddylid ystyried hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel ymarfer ticio bocs. Mae busnes sy’n ymgorffori’r iaith ar draws ei weithgareddau yn meithrin ymdeimlad o gymuned a chynwysoldeb, gan gydnabod ei gwerth.
Ychwanegodd Rachel: “Alla i ddim dychmygu bod heb yr iaith Gymraeg, mae mor bwysig yn ddiwylliannol. Mae cenedlaethau wedi cael eu rhwystro rhag siarad ein hiaith a hoffwn weld cwmnïau’n parchu ein hanes a helpu i oresgyn hyn.”
Er y gall y dasg o weithredu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chefnogi siaradwyr Cymraeg o fewn sefydliad ymddangos yn anodd, yn aml mae pethau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr.
‘Mae ond angen bod yn agored iddo,’ meddai Rachel. “Mae gweld ein hiaith yn cael ei chynrychioli, cael fy nghyfarch â ‘bore da’ neu jest gwybod fy mod i’n gallu sgwrsio gyda rhywun neu gael mynediad at eu gwasanaethau drwy gyfrwng fy iaith yn bositif iawn.
“Dwi’n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig i gwmnïau fod yn ymwybodol o’n hanes – mae pethau allweddol fel y Llyfr Gleision, y Welsh Not a Tryweryn yn helpu pobl i ddeall pam ein bod ni mor amddiffynnol o’n hiaith.”
Dywedodd Becky Morris, Pennaeth Gwelliant Parhaus ACT:
“Mae ACT yn credu’n gryf bod y Gymraeg yn rhan werthfawr o hunaniaeth a diwylliant pob unigolyn yng Nghymru ac wedi ymrwymo i gefnogi ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’.
“Mae’n bwysig bod pob dysgwr sy’n rhan o rwydwaith ACT yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg – waeth beth fo’u man cychwyn, a datblygu a chynnal eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
“Mae cydweithwyr ar draws ein rhwydwaith yn gweithio’n galed i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn cefnogaeth bwrpasol, gan ddarparu hyblygrwydd o ran defnyddio’r Gymraeg mewn asesiadau, gan ddatblygu sgiliau ymhellach mewn ffyrdd sy’n gweddu orau i’w dull dysgu.”
More News Articles
« Mewnwlediad ar recriwtio a chadw staff yng nghynhadledd Gogledd Cymru — Ôl-osod – Cadw Contractau’n Lleol »