Bron pob dysgwr ACT yn argymell darparwr hyfforddiant

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Becky Morris, Head of Continuous Improvement ACT Training

Becky Morris, Pennaeth Gwelliant Parhaus ACT

Prif ddarparwr hyfforddiant Cymru ACT yn derbyn canmoliaeth uchel yn yr arolwg llais y dysgwr diweddaraf.

Mae prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, ACT, wedi cyhoeddi canlyniadau rhagorol o’i Arolwg Llais y Dysgwr diweddaraf, gan gasglu adborth gan bron i 5,000 o ddysgwyr.

Mae’r arolwg hwn, sy’n gonglfaen ymrwymiad ACT i welliant parhaus a boddhad dysgwyr, yn datgelu lefel uchel o ddatblygiad sgiliau myfyrwyr.

Cynyddodd yr ymatebion i’r arolwg eleni, gyda 4876 o gyflwyniadau ar draws rhwydwaith ACT a’i bartneriaid, sy’n gynnydd o dros fil ers y llynedd (3721). O fewn ACT yn unig, rhoddodd 1663 adborth, i fyny o ychydig dros fil (1196) y llynedd. O’r nifer hwnnw, dywedodd 99% eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg a chyda pharch yn ACT.

Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Cyfradd argymell: Byddai 94% o ddysgwyr ACT yn argymell eu cyrsiau i eraill.
  • Gwella Sgiliau: Nododd 86% o ddysgwyr bod eu sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd wedi gwella trwy weithdai Sgiliau Hanfodol ACT.

At ei gilydd, byddai 96 y cant o ddysgwyr yn graddio ACT yn gadarnhaol fel darparwr hyfforddiant.

Roedd Cynrychiolydd y Dysgwyr, Lily Pandeles,sydd a rôl allweddol yn eirioli dros ddysgwyr ar draws rhaglenni ACT, yn falch o’r canlyniadau cychwynnol.
Dywedodd: “Mae’n anhygoel gweld gymaint o ddysgwyr yn rhannu eu barn a rhoi adborth i ni. Rydym am i ddysgwyr deimlo eu bod wedi’u grymuso drwy gydol eu taith ddysgu a gwybod bod eu lleisiau’n bwysig.”

Pennaeth Gwelliant Parhaus, Becky Morris, sy’n arwain yr adran Ansawdd yn ACT. Esboniodd pam fod yr arolwg mor bwysig i’r sefydliad.
“Fe wnaethon ni sefydlu ein harolwg o ddysgwyr rhwydwaith ACT gyda’r nod o gasglu adborth gan ddysgwyr ar draws ACT a’n darparwyr partner,” meddai. “Mae fy nhîm yn dadansoddi’r data ar lefel rhwydwaith, darparwr, adran ac ymarferydd er mwyn nodi beth mae dysgwyr yn teimlo ein bod yn gwneud yn dda a lle mae angen i ni wella.

“Mae’r wybodaeth hon yn rhan hanfodol o’n prosesau sicrhau ansawdd, a llais y dysgwr yw un o’r mesurau pwysicaf yn ein proses hunanwerthuso hefyd.

“Mae pob un o’n dysgwyr yn bwysig, mae eu llais yn bwysig, ac rydym yn gwerthfawrogi’r rôl bwysig y mae ein dysgwyr yn ei chwarae wrth lunio’r hyn rydym yn gwneud, a sut rydym yn mynd ati.”

Mae’r canlyniadau hyn yn cadarnhau ymroddiad ACT i ddarparu hyfforddiant a chymorth o ansawdd uchel, gan sicrhau bod profiad pob dysgwr yn gadarnhaol ac yn gyfoethog. Mae ACT yn parhau i arwain y ffordd mewn dysgu seiliedig ar waith, wedi’i sbarduno gan adborth amhrisiadwy a chyfranogiad gweithredol ei ddysgwyr.

ACT Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —