Alan yn benderfynol o ddefnyddio’i brofiad personol i helpu eraill

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Gan fod Alan Morgan mor ddiolchgar am y gefnogaeth “wych” a gafodd pan oedd yn ddigartref, yn ddi-waith ac yn dioddef o iselder, mae’n awyddus i helpu pobl eraill sy’n wynebu yr un heriau.

Diolch i’r Cynllun Ailddechrau, rhaglen gyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, daeth Alan, 55 oed, i gysylltiad â’r darparwr hyfforddiant Itec yn Abertawe a chael help i adfer ei frwdfrydedd, ei hyder a’i synnwyr cyfeiriad.

Ar hyn o bryd, mae ar leoliad gwaith 16 wythnos fel derbynnydd yn y YMCA yn Abertawe, mae Alan wedi ymgeisio am swydd fel gweithiwr cymorth cynorthwyol yn yr hostel.

“Ar ôl bod yn ddigartref fy hunan a gweld sut mae’n gallu digwydd, mae gen i syniad sut mae pobl yn teimlo ac rwy’n awyddus i dalu yn ôl,” meddai Alan, sydd â fflat yn yr Uplands, Abertawe erbyn hyn.

“Mae sefyllfa pawb yn wahanol ond hoffwn i wneud rhywbeth i helpu pobl sydd mewn sefyllfa debyg i’r man lle’r oeddwn i. Rwy’n hoffi sgwrsio â phobl a’u cynghori.”

Gadawodd Alan yr ysgol ag 11 Lefel O a dwy Lefel A a bu’n gweithio i gwmni masnachwyr amaethyddol ac mewn swyddi gweinyddol i gwmnïau siopau cyn treulio saith mlynedd fel paciwr gydag Amazon.

Erbyn hyn, mae’n credu iddo ddechrau dioddef o iselder bum mlynedd yn ôl. Wnaeth e ddim ceisio cymorth ac, ymhen tipyn, teimlai ei fod wedi colli rheolaeth. Collodd bob awydd a mynd mor ynysig fel na fyddai hyd yn oed yn ateb ei ffôn symudol.

Mae Itec wedi helpu Alan i adennill ei hyder ar y Cynllun Ailddechrau. Cafodd help i weld ei wir botensial trwy bennu targedau personol a’u cyflawni. Yn ogystal, cafodd gefnogaeth iechyd meddwl a chyngor ar ddyledion.

Bu ar gyrsiau meithrin hyder, gwasanaethau cwsmeriaid a deall gofalwyr ifanc hefyd. Yn y gorffennol, roedd yn osgoi swyddi lle’r oedd yn dod wyneb yn wyneb â phobl ond, erbyn hyn, mae’n mwynhau ei waith yn y dderbynfa gymaint nes ei fod wedi cynnig dal ati i wirfoddoli pan ddaw’r lleoliad gwaith gyda’r YMCA i ben, tan iddo gael swydd.

“Mae fy mywyd yn well o lawer nawr nag y mae wedi bod ers 20 mlynedd,” meddai Alan. “Mae gen i fflat hyfryd a chymdogion gwych.

“Roedd Debbie Jones a phawb yn Itec a’r Ganolfan Waith yn ddymunol ac yn gefnogol. Roedd yn help mawr i mi gael diweddaru fy CV a chael help i weld y sgiliau sydd gen i. Roeddwn i bob amser yn teimlo’n well ar ôl ein cyfarfodydd.”

Mae Alan yn llawn canmoliaeth i’r gefnogaeth a gafodd gan y Cynllun Ailddechrau. Ei gyngor i bobl sy’n wynebu heriau tebyg i’r rhai a gafodd ef yw i “gyfaddef eich problemau a gofyn am help”.

Mae Debbie Jones, cynghorydd cyflogaeth gydag Itec, wrth ei bodd bod pethau’n mynd yn dda i Alan. “Mae ganddo rywle i fyw a swydd ac mae’n hollol wahanol i’r person oedd e pan gwrddais i ag e gynta – yn isel iawn ei ysbryd ac yn dioddef o orbryder,” meddai.

“Rwy bob amser yn sôn am Alan fel enghraifft o rywun sydd wedi dal ati. Mae bob amser oleuni ym mhen draw’r twnnel. Erbyn hyn mae e’n helpu pobl eraill sy’n ddigartref ac sydd â phroblemau iechyd meddwl.”

Mae’r Cynllun Ailddechrau’n yn rhoi lefel uwch o gefnogaeth i bobl sy’n ddi-waith ers amser hir ac sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, i’w helpu i ailddechrau gweithio trwy chwalu rhwystrau i waith.

Itec Skills and Employment

Back to top>>

More News Articles

  —