Anrhydeddu tri phrentis o Gymru yn rownd derfynol WorldSkills ym Mrasil

Postiwyd ar gan karen.smith

Elijah Sumner

Elijah Sumner

Mae tri phrentis dawnus o Gymru wedi dod adref gydag anrhydedd ar ôl cynrychioli Tîm y Deyrnas Unedig yn rownd derfynol y gystadleuaeth WorldSkills ym Mrasil.

Cafodd Elijah Sumner, technegydd moduron o Fae Caerdydd, Owain Jones, saer coed o Flaenau Ffestiniog ac Eleni Constantinou, merch drin gwallt o Gaerffili, Fedaliwn Rhagoriaeth ar ôl pum niwrnod o gystadlu brwd yn São Paulo yn erbyn bron 1,000 o bobl ifanc fwyaf medrus y byd.

Cafodd y tri eu cydnabod am eu sgiliau arbennig – pob un ohonynt yn sgorio dros 500 pwynt, sef y safon ryngwladol.

Cynhelir WorldSkills, sef y gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn y byd, bob dwy flynedd mewn gwahanol wledydd er mwyn dathlu sgiliau a rhannu arferion gorau rhwng diwydiannau a gwledydd. Cynhaliwyd cystadlaethau mewn meysydd mor amrywiol â dylunio gwefannau, cynnal a chadw awyrennau, trin gwallt a masnacheiddio gweledol.

Roedd Elijah, 20 oed, sy’n gweithio i Halfords, yn cystadlu yn erbyn 39 o dechnegwyr moduron. “Ro’n i’n teimlo bod cael fy newis ar gyfer Team UK yn dipyn o gamp ynddo’i hunan ond rwy wrth fy modd o gael dod adref â Medaliwn Rhagoriaeth a gwybod bod pobl eraill yn gwerthfawrogi fy sgiliau,” meddai. “Does dim llawer o bobl yn gallu rhoi rhywbeth fel hyn ar eu CV!”

Owain Jones

Owain Jones

Roedd Owain, 21 oed, sy’n hunangyflogedig, yn cystadlu yn erbyn 19 o seiri. “Rwy mor falch o sut yr aeth pethau. Wna i byth anghofio’r profiad a ges i yn y gystadleuaeth.”

Mae Eleni, 21 oed, yn gweithio yn salon ei theulu, Tino Constantinou Hairdressing, ac roedd yn cystadlu yn erbyn 31 ym maes trin gwallt. “Rydyn ni i gyd wedi dysgu cymaint yn ystod y broses – gwybodaeth a sgiliau newydd y gallwn fynd â nhw gyda ni wrth symud ymlaen yn ein gyrfa,” meddai.

Eleni Constantinou

Eleni Constantinou

Enillodd Tîm y Deyrnas Unedig dair medal aur, pedair arian a dwy efydd yn ogystal â 23 medaliwn rhagoriaeth. Roedd hynny’n golygu bod y Deyrnas Unedig yn seithfed o’r holl wledydd yn WorldSkills. Degfed oeddent yn ystod y gystadleuaeth ddiwethaf a gynhaliwyd yn Leipzig yn 2013.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Cymru, Julie James: “Mae hyn yn gamp aruthrol! Rydyn ni mor falch o’r cystadleuwyr o Gymru. Mae’n amlwg bod perffeithio’u sgiliau fel hyn wedi golygu llawer o waith caled a phenderfyniad. Mae’r ffaith eu bod wedi llwyddo i ddangos eu gallu fel hyn o dan bwysau mewn awyrgylch cystadleuol iawn yn cadarnhau eu dawn eithriadol.

“Dechreuodd llawer o’r cystadleuwyr ddysgu eu crefft mewn colegau leded Cymru ac mae cael cydnabyddiaeth fel hyn yn fyd-eang yn dangos pa mor fedrus yw’r dysgwyr, y prentisiaid a’r darparwyr hyfforddiant sydd gennym ni yma.”

Bydd y broses o ddewis y Team UK nesaf, a fydd yn cystadlu yn WorldSkills Abu Dhabi yn 2017, yn dechrau yn The Skills Show 2015, a gynhelir yn yr NEC Birmingham rhwng 19 a 21 Tachwedd. Cewch ragor o wybodaeth a chyfle i gadw tocyn am ddim i’r achlysur yn www.findafuture.org.uk

More News Articles

  —