Cynhadledd i sôn am adeiladu system sgiliau gyda’r gorau yn y byd yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Bydd cynhadledd flynyddol darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn ceisio gweld beth y gellir ei wneud i sicrhau bod system sgiliau Cymru gyda’r gorau yn y byd.

Bydd siaradwyr rhyngwladol o fri yn cyfrannu at y mater yn y gynhadledd a drefnir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 29 Hydref.

“Cydnabyddir yn eang bod y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi cymryd camau breision dros y blynyddoedd diwethaf o ran trawsnewid, ansawdd y ddarpariaeth, a’r parodrwydd cyffredinol i ymateb, er mwyn bodloni gofynion unigolion, cyflogwyr a gwneuthurwyr polisïau,” meddai Peter Rees, cadeirydd NTfW.

“Fodd bynnag, wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae’n bwysig bod y sector cyfan yn ymdrechu i adeiladu system sgiliau sydd gyda’r gorau yn y byd ac sy’n ymateb hyd yn oed yn well i anghenion unigolion a chyflogwyr.

“Mae arnom angen system y mae pawb yn ymddiried yn ei rhaglenni ac yn eu gwerthfawrogi, gyda gweithlu o’r safon uchaf, sy’n sicrhau bod rhagoriaeth ym maes addysg a dysgu yn ganolog i bopeth a wnânt.

“Mae gan y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru lawer o bethau y gall ymfalchïo ynddynt eisoes ond bydd y gynhadledd eleni’n ceisio canfod beth arall y gellir ei wneud er mwyn sicrhau bod gennym system sgiliau gyda’r gorau yn y byd.”

Y prif siaradwyr yw’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James; Ewart Keep, Cyfarwyddwr y Ganolfan Sgiliau, Gwybodaeth a Pherfformiad Cyfundrefnol yn Adran Addysg Prifysgol Rhydychen a Helen Hoffmann, swyddog addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghyfarwyddiaeth Gyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol, Sgiliau a Symudedd Llafur.

Mae Mr Keep wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ym maes polisi defnyddio sgiliau ac mae wedi cydweithio hefyd â llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yr Alban, Awstralia a Seland Newydd. Mae wedi cyhoeddi llawer am brentisiaethau, dysgu gydol oes, y cysylltiad rhwng sgiliau a pherfformiad economaidd, agweddau rheolwyr at fuddsoddi mewn sgiliau, a sut y mae polisïau cyhoeddus ar addysg a hyfforddiant yn cael eu creu a’u gweithredu.

Bu Ms Hoffman yn gynghorydd mewn materion cyhoeddus yn UEAPME, y sefydliad Ewropeaidd i gyflogwyr mewn busnesau bach a chanolig a chrefftau, ac mae’n gweithio ar sgiliau ar gyfer polisïau ieuenctid, yn enwedig mewn addysg alwedigaethol, hyfforddiant a phrentisiaethau.

Thema’r gynhadledd fydd ‘Golwg 20:20 – Tuag at System Sgiliau gyda’r Gorau yn y Byd’ a bydd yn cynnwys nifer o weithdai. Dyma bynciau rhai o’r gweithdai ‘Ymgorffori’r ‘Weledigaeth ar gyfer Rhagoriaeth mewn dysgu seiliedig ar waith’, Integreiddio dwyieithrwydd mewn gweithlu sydd gyda’r gorau yn y byd, Tuag at weithlu proffesiynol – paratoi ar gyfer y cofrestru, Gwneud i wybodaeth am y farchnad lafur weithio, a Prentisiaethau i bawb – Galluogi pawb i gyflawni eu gwir botensial.

Mae’r gynhadledd yn costio £195 i aelodau NTfW a £325 i eraill a bydd gostyngiaed o 10 y cant am drefnu lle cyn 11 Medi ar lein yn www.ntfw.org/wel/cynhadledd-ntfw/ffurflen-i-gadw-lle-a-rhaglen/.

More News Articles

  —