Arddangos Doniau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bydd PeoplePlus Cymru’n arddangos doniau Cymreig lleol y mis Mawrth hwn yn ystod Wythnos Prentisiaethau sy’n cael ei chynnal ar Fawrth 4ydd-8fed. Mae meithrinfa Buds to Blossoms yn un o lawer o gyflogwyr sydd wedi dewis gwella sgiliau eu staff drwy ddysgu yn y gwaith. Wedi cael ei henwebu ar gyfer ein gwobrau Dysgwr y Flwyddyn fel un o brif Gyflogwyr Prentisiaid, mae Buds to Blossoms yn enghraifft berffaith o sut y gall prentisiaethau gael effaith sylweddol a chadarnhaol nid yn unig ar fusnesau ond hefyd yr unigolion sy’n gweithio yno.
“Mae People Plus wedi cael effaith enfawr ar y lleoliad ac wedi helpu aelodau niferus o staff i gymhwyso” meddai Lee Fowler, cyfarwyddwr a chyd-berchennog Buds to Blossoms. “Fel busnes, rydym wedi teimlo bob amser ein bod yn cael cefnogaeth gan People Plus a’r asesydd sy’n tueddu i fod yn diwtor i’n holl staff, Tina Seaborne.”

Ar hyn o bryd, mae pedwar aelod o staff Buds to Blossoms yn cwblhau eu cymwysterau gyda PeoplePlus. Mae’r holl ddysgwyr wedi dechrau gyda gwahanol yrfaoedd a chefndiroedd ac yn y pen draw wedi canfod eu ffordd i sector gofal plant.

Georgia Young – Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar, “Fe wnes i fwynhau’r cwrs a byddwn yn argymell yn gryf iawn cwblhau prentisiaeth drwy People Plus. Gydol fy mhrentisiaeth roeddwn yn gallu ennill cyflog ac ar yr un pryd yn gweithio tuag at rywbeth a fydd, yn ei hanfod, yn fy ngalluogi i symud ymlaen yn fy ngyrfa ym maes gofal plant. “

Katie Blanchard – Prentis, “Mae’r brentisiaeth yn mynd rhagddi ar hyn o bryd ac rydw i’n mwynhau yn fawr iawn. Mae gen i rwydwaith cefnogi gwych, sef fy nghydweithwyr a’m hasesydd”

Tom Brain – Dirprwy Reolwr, “Roedd modd i mi orffen fy mhrentisiaeth mewn oddeutu 8 mis gyda chymorth gwych gan fy asesydd ac wrth gwrs fy nhîm. Ar unwaith, yr oeddwn i’n frwd iawn ynghylch gofal plant ac rwy’n credu i’r brwdfrydedd yma roi’r dycnwch a’r penderfyniad imi gyflawni fy nghymhwyster yn yr amser hwnnw.” Cafodd Tom ei ddyrchafu’n Ddirprwy Reolwr fis Ionawr eleni.

Kaitlin Shorthouse – Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar, “Gweithio yn y feithrinfa oedd fy swydd gyntaf erioed pan oeddwn yn 17 oed. Dechreuais weithio’n wirfoddol i ddechrau ac yna cefais gynnig prentisiaeth lefel 3 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD) gan Lee. Doedd fy merch fach Ivy-Mae ond 6 mis oed pan ddechreuais i’r brentisiaeth felly roedd yn berffaith i mi; roedd modd i mi ennill cymhwyster, gweithio yn y swydd ac roeddwn yn ddigon lwcus i allu mynd ag Ivy gyda mi i’r gwaith.”

Mae’r holl ddysgwyr wedi gwneud cynnydd yn eu gyrfaoedd drwy ennill eu cymwysterau drwy brentisiaethau. Maent yn enghraifft berffaith o’r ffordd y mae prentisiaethau yn cynnig amgylchedd dysgu hyblyg lle y gall unigolion ddysgu ar eu cyflymder eu hunain wrth ennill cyflog.

“Mae prentisiaethau’n galluogi pobl i ennill arian a dysgu proffesiwn ar yr un pryd. Mae gan rai o’n staff sydd wedi cyflawni prentisiaeth deuluoedd a chyfrifoldebau- pe byddai angen i’r bobl hyn fod wedi mynd i goleg i ennill eu cymhwyster mae’n bosibl na fyddent wedi gallu gwneud hynny; mae prentisiaeth yn caniatáu i hyn ddigwydd.” Lee Fowler, Cyfarwyddwr yn Buds to Blossoms.

More News Articles

  —