Arweinydd ffederasiwn hyfforddiant yn rhybuddio am anawsterau cyllido ar y gorwel

Postiwyd ar gan admin

Mae’n rhaid i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru fod yn barod i chwilio am gyllid o lefydd heblaw Llywodraeth Cymru ac Ewrop yn y dyfodol, gan gydweithio i sicrhau swyddi a darparu sgiliau.

Dyna fydd neges y prif weithredwr, Arwyn Watkins, wrth aelodau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn eu cynhadledd flynyddol yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd yfory (dydd Gwener).

Bydd yn apelio ar yr aelodau i beidio â “chwsg-gerdded i’r dyfodol” gan gredu y bydd Llywodraeth Cymru’n dal i ddarparu cyllid ar y lefel bresennol. “Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu y bydd llawer llai o arian cyhoeddus ar gael i’w fuddsoddi,” fydd ei neges wrth yr aelodau.

“Mae ein cydweithwyr mewn Sefydliadau Addysg Bellach eisoes wedi cael gwybod gan y Gweinidog Addysg y gallai fod gostyngiad o bump y cant yn y gyllideb mewn termau real ym mlwyddyn ariannol 2014-15. Mae hynny’n cyfateb i ostyngiad o rhywle rhwng £15 ac £20 miliwn yn yr arian a fydd ar gael i’w fuddsoddi mewn addysg a sgiliau.

“Er mwyn i’r rhwydwaith gyflawni’r hyn y mae’n dymuno ei wneud ym maes dysgu seiliedig ar waith, bydd raid i ni ddod o hyd i gyllid o ffynonellau gwahanol. Bydd raid i ni sicrhau bod arian ar gael gan gyflogwyr, dysgwyr neu gan noddwyr corfforaethol sy’n credu bod arnynt gyfrifoldeb cymdeithasol i fuddsoddi canran o’u helw er mwyn gwireddu dyheadau ieuenctid y wlad i feithrin sgiliau.

“Mae pawb ohonom yn gwybod bod ffyrdd ar gael o wneud i’r buddsoddiad cyhoeddus fynd ymhellach, ond mae hynny’n golygu cymryd camau sydd y tu allan i’n rheolaeth ni. Ond rwy’n credu y dylem fynnu bod hynny’n digwydd.”

Bydd yn galw ar yr holl gyrff dyfarnu ac Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i gydweithio ag NTfW ar gytundeb cyffredin a fydd yn cydnabod yr hyn y mae dysgwyr eisoes wedi’i gyflawni ac yn targedu arian yn fwy penodol at gyflenwi sgiliau.

Bydd yn dweud, “Fel rhwydwaith, gwyddom ein bod yn wych am gyflenwi’r agweddau craidd ar ein comisiynau dysgu seiliedig ar waith. Mae ein cyfraddau llwyddiant ymhlith yr uchaf yn y Deyrnas Unedig ac rydym hyd yn oed ymhlith y goreuon yn y byd.”

Bydd hefyd yn apelio ar Estyn i dalu sylw i’r newid parhaus ym myd dysgu seiliedig ar waith pan gaiff y Fframwaith Arolygu Cyffredin ei ddrafftio trwy “arolygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu deall, dysgwyr yn eu gwerthfawrogi a’r rhwydwaith yn eu hyrwyddo”.

Mae’n bosib mai cylch buddsoddi nesaf Cronfa Gymdeithasol Ewrop fydd y cymorth mawr olaf a gaiff Cymru o Ewrop ac felly dywedodd fod angen i bawb gydweithio i sicrhau ei fod yn gwneud gwahaniaeth i’r wlad.

“Gadewch i ni gydweithio i gyflawni’r hyn sy’n cael ei werthfawrogi a gollwng yr hyn nad yw,” fydd ei eiriau wrth y gynhadledd. “Mae angen i ni gael gwared ar ddyblygu gwaith, sicrhau buddsoddiad ychwanegol lle ceir tystiolaeth glir bod y farchnad yn methu y tu allan i raglen graidd dysgu seiliedig ar waith, gwarchod rhwydwaith cyflenwi ac iddo sicrwydd ansawdd, a chydweithio i godi’n dyheadau fel na fydd Cymru’n gymwys ar gyfer pedwerydd cylch o fuddsoddiad o’r ESF i wella’r sylfaen sgiliau.

“Dros y ddau gylch diwethaf o gyllid Ewropeaidd, mae ein rhwydwaith wedi dweud yn gyson bod gormod o lawer o ddyblygu gwaith a bod rhaglenni craidd yn cystadlu â’i gilydd am yr un buddiolwyr.”

Mae’r NTfW mewn sefyllfa dda i weld pa fath o bolisïau sgiliau y gellid eu gwella gan ei fod yn gweithio ledled Cymru ac yn ymwneud o ddydd i ddydd â chyflogwyr a dysgwyr.

“Rydym yn rhwydwaith safonol gyda threfn wedi’i sefydlu. Rydym wedi dangos ein bod yn gallu gweithio gyda pholisïau mewn ffordd sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau unigolion, yn gwneud cyflogwyr yn fwy cynhyrchiol ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau,” fydd ei eiriau.

“Yn ogystal â rhwydwaith sefydledig, rwy’n siwr y gallwn gael trafodaeth aeddfed ar lefel ranbarthol fel y gall y rhanbarthau sicrhau swyddi a meithrin sgiliau, gan wneud yn siwr bod y rhan fwyaf o unrhyw fuddsoddiad ychwanegol a ddaw o Ewrop yn cael ei fuddsoddi mewn cyflenwi ac nid mewn seilwaith.”

Disgwylir tua 150 o bobl yn y gynhadledd, ‘Meithrin Doniau: Adeiladu Gweithlu’r Dyfodol yng Nghymru’. Mae’r thema’n ystyried sut y gall darparwyr dysgu seiliedig ar waith gydweithio â rhanddeiliaid allweddol i ddiwallu anghenion yr economi ac anghenion cyflogwyr Cymru, yn enwedig fusnesau bach a chanolig eu maint.

Ar ôl y gynhadledd, cynhelir cinio Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Mae’r gynhadledd a’r gwobrau’n cael eu noddi gan Pearson PLC a’r partner yn y cyfryngau yw Media Wales.

Bydd Ken Skates AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn un o’r prif siaradwyr. Bydd yn gwneud ei araith fawr gyntaf ers iddo gael ei benodi i’w swydd yn Llywodraeth Cymru. Ymhlith y siaradwyr eraill mae pennaeth materion allanol Ffederasiwn y Busnesau Bach, Iestyn Davies; prif weithredwr Edge Foundation, Jan Hodges a Dirprwy Gyfarwyddwr Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc gyda Llywodraeth Cymru, Teresa Holdsworth.

More News Articles

  —