Dathlu Llwyddiant y Goreuon yn Seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan admin

Yr Enillwyr

 Yr Enillwyr

Cafwyd cyfle i ddathlu’r dechnoleg ddiweddaraf mewn busnesau blaengar, rhaglenni prentisiaethau pwrpasol sydd wedi’u cynllunio i ateb anghenion diwydiant, a llwyddiant ysbrydoledig unigolion mewn seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd neithiwr (Hydref 18).

Roedd seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn dwyn ynghyd y goreuon ymhlith dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant Cymru sydd wedi dangos ymroddiad llwyr i ddatblygu sgiliau a gwella busnesau.

Trefnwyd y gwobrau, sy’n dathlu rhagoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Cawsant eu noddi gan Pearson, gyda chymorth Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae’r gwobrau’n cydnabod llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau ac wedi dangos mentergarwch, creadigrwydd a gwir ymrwymiad i wella sgiliau er budd economi Cymru.

Mae prentisiaethau wrth galon effeithiolrwydd busnesau ac maent yn darparu pobl dalentog sydd â’r sgiliau angenrheidiol fel y gall cyflogwyr ffynnu a chystadlu. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dyma’r enillwyr: Cyflogwr Bychan y Flwyddyn: Gwesty Maes Manor, y Coed-duon. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: Mabey Bridge Ltd, Cas-gwent. Macro-gyflogwr y Flwyddyn: Airbus Operations Ltd, Brychdyn. Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn: ISA Training, Pen-y-bont ar Ogwr. Gwobr i Ddarparwr Prentisiaethau am Ymatebolrwydd Cymdeithasol: Acorn, Casnewydd.

Prentis Uwch y Flwyddyn: Alex Birbeck, Airbus Operations Ltd, Brychdyn. Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Paula Blundell, Ysgol Mynydd Isa, ger yr Wyddgrug. Prentis y Flwyddyn: April Davies, Dolfor, y Drenewydd. Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn: Nick Petrakis, ‘nickymichaels’, Caerdydd. Noddwr Gwobr gan Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru.

Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Dominic Evans, Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Lucy Price, Bangor. Twf Swyddi Cymru – Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn: Ffion Malwala, Prestatyn. Dysgwr y Flwyddyn – Camau at Waith: Nicola Sanigar, y Barri. Noddwr Gwobr gan Hyfforddiant ACT.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates: “Mae’r Gwobrau Prentisiaethau yn gyfle i ni ddathlu’r gwahanol sgiliau sydd gan ein pobl ifanc i’w cynnig a’r ymroddiad a ddangosir gan gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr haeddiannol.

“Roedd yn bleser gwirioneddol cael cyfarfod â phobl ifanc sy’n gweithio mor galed, sydd mor uchelgeisiol ac sydd wedi cyflawni cymaint, a’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant sydd wedi mynd yr ail filltir i helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu potensial. Maen nhw’n haeddu eu canmol ac yn ysbrydoliaeth i bobl eraill.

“Mae’r cyhoeddiad am y gyllideb yn ddiweddar wedi cadarnhau y daw £12.5 miliwn yn ychwanegol i ymestyn ein rhaglen Twf Swyddi Cymru am bedwaredd flwyddyn. Mae hyn yn golygu y gallwn greu dros 4,000 o swyddi ychwanegol ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed yn 2015-16. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £20 miliwn arall yn 2015-16 i gefnogi prentisiaethau. Mae hyn yn newyddion gwych i’n pobl ifanc a’n cyflogwyr ni a bydd yn golygu y gallwn wneud gwahaniaeth mawr.”

Dywedodd Arwyn Watkins, prif weithredwr NTfW: “Mae’r enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn enghreifftiau ardderchog o’r ffordd y gall cyflogwyr, prentisiaid, darparwyr hyfforddiant a Llywodraeth Cymru gydweithio i ddatblygu gweithlu effeithiol.

“Hoffwn ganmol Llywodraeth Cymru am ymrwymo i brentisiaethau o hyd a rhwydwaith yr NTfW am barhau i gyflenwi rhaglenni dysgu seiliedig ar waith o safon uchel sydd wedi rhoi Cymru yn y brif gynghrair. Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ffenest siop hollbwysig wrth i ni ymdrechu i sicrhau bod llwybrau dysgu galwedigaethol yn cael yr un parch â’r rhai academaidd.”

Yr Enillwyr:

Daeth dwy wobr i Airbus Operations Ltd, sef un o’r gwneuthurwyr awyrennau mwyaf yn y byd, sy’n cynhyrchu adenydd ym Mrychdyn. Enillodd y cwmni y wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn ac enillodd un o’r gweithwyr, Alex Birbeck, 21 oed, wobr Prentis Uwch y Flwyddyn.

Rhaglen Brentisiaethau Airbus yw conglfaen ei strategaeth sgiliau. Mae’n llwyddo i gadw doniau y tu mewn i’r cwmni a’u datblygu gan sicrhau bod gweithlu medrus iawn gan un o brif wneuthurwyr awyrennau y byd. Mae’r busnes yn cyflogi 350 o brentisiaid ac yn dal i arwain yn y sector.

Yn ddiweddar, llwyddodd Alex o Fwcle i gwblhau Prentisiaeth Uwch mewn Peirianneg ac mae’n anelu at ennill Gradd mewn Peirianneg Awyrofod. Mae wedi cyfrannu’n bersonol at brosiectau fel Dylunio Awyrennau Teithiau Hir, lle’r oedd angen ateb peirianyddol i gwestiwn am set adenydd awyren A330.

Gwesty Maes Manor, y Coed-duon, oedd enillwyr gwobr Cyflogwr Bychan y Flwyddyn. Maent wedi llwyddo i godi morâl a chynhyrchiant ers iddynt sefydlu rhaglen brentisiaethau bron ddwy flynedd yn ôl. Erbyn hyn, mae’r gwesty’n cyflogi 10 prentis.

Aeth gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn i gwmni Mabey Bridge Ltd o Gas-gwent a lansiodd Raglen Brentisiaethau wyth mlynedd yn ôl i sicrhau cyflenwad cyson o wneuthurwyr i’r busnes llwyddiannus. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi dros 600 o bobl, yn cyflenwi dyfeisiau pontio dur, tyrau tyrbinau gwynt a gwaith dur strwythurol platiog trwm. Mae’n un o brif gwmnïau’r byd yn y maes.

Ar ôl dod yn agos at y brig y llynedd, daeth tro ISA Training o Ben-y-bont ar Ogwr i gipio’r clod eleni wrth gael ei enwi’n Ddarparwr Prentisiaethau y Flwyddyn. ISA Training yw darparwr hyfforddiant annibynnol mwyaf Cymru ym maes trin gwallt a harddwch. Mae trosiant y busnes yn £3.5 miliwn erbyn hyn, ddeg gwaith yn uwch na 15 mlynedd yn ôl; mae nifer y dysgwyr wedi codi o 100 i dros 800 a nifer y cyflogwyr mae’n gweithio gyda nhw wedi codi o 35 i dros 400.

Acorn o Gasnewydd enillodd y Wobr i Ddarparwr am Ymatebolrwydd Cymdeithasol. Menywod agored i niwed o leiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, pobl sy’n gweithio yn y gymuned a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig – mae’r rhain ymhlith dros fil o ddysgwyr y mae’r cwmni wedi’u helpu i gwblhau gweithgareddau dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ar ôl ennill gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn y llynedd, mae Nick Petrakis, 27 oed, sydd â stori ysbrydoledig i’w hadrodd, wedi ychwanegu at ei gasgliad o dlysau eleni trwy gael ei enwi’n Brentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn. Mae wedi cyflawni uchelgais oes trwy agor salon drin gwallt lwyddiannus, ‘nickymichaels’ yng Nghyncoed, Caerdydd.

April Davies, merch benderfynol 21 oed o Ddolfor ger y Drenewydd aeth â gwobr Prentis y Flwyddyn ac mae’n esiampl ardderchog i ferched ifanc a hoffai weithio ym myd amaeth – sy’n dal yn llawn dynion. Nid ar fferm y magwyd April a hi oedd yr unig ferch ar ei chwrs dysgu seiliedig ar waith ond erbyn hyn mae’n gweithio i Dairy Dreams a Common Piece Farm, yr Ystog.

Aeth gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn i Paula Blundell, 40 oed, o Fryn-y-Baal ger yr Wyddgrug. Mae gan Paula un plentyn ac mae wedi profi nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu. Mae’n gynorthwyydd addysgu a goruchwylydd canol dydd yn Ysgol Mynydd Isa ac yn dweud bod cwblhau Prentisiaeth Sylfaen wedi agor byd newydd iddi.

Mae Dominic Evans, 18 oed, wedi arfer gweld ochr wahanol i’r Celtic Manor, Casnewydd gan ei fod yn gogydd dan hyfforddiant yno ond cafodd le ar y llwyfan neithiwr fel enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu).

Mae Lucy Price, 17 oed, yn cael ei chydnabod yn weithiwr eithriadol sydd â dyfodol disglair o’i blaen yn salon gwallt TH1 ym Mangor a hi oedd enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Lefel 1).

Ffion Malwala, 24 oed, a enillodd wobr Twf Swyddi Cymru – Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn. Symudodd Ffion o Gaerdydd i Brestatyn ar ôl graddio i ddilyn gyrfa mewn dylunio graffig gyda Daydream Designs.

Nicola Sanigar, 35 oed, mam i bedwar o’r Barri a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn Camau at Waith. Mae Nicola wedi ennill cymwysterau gofal plant ac wedi cael swydd yn y Daisy Day Nursery.

Hefyd yn y rownd derfynol roedd: Cyflogwr Bach y Flwyddyn (hyd at 49 o weithwyr): Spirit Hair Team, Ystrad Mynach ac Amgueddfa Stori Caerdydd, Caerdydd. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (hyd at 5,000 o weithwyr): Cyngor Sir Ddinbych, Rhuthun a G. E. Aviation, Nantgarw. Macro-gyflogwr y Flwyddyn (dros 5,000 o weithwyr): BT, Caerdydd a Chyngor Sir y Fflint, yr Wyddgrug.

Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn: Coleg Cambria (Consortiwm Sgiliau Canolbarth a Gogledd Cymru), Wrecsam a Vocational Skills Partnership (Cymru) Ltd, Abercynon. Gwobr i Ddarparwr am Ymatebolrwydd Cymdeithasol: Coleg Cambria (Consortiwm Hyfforddi Canolbarth a Gogledd Cymru), Wrecsam.

Prentisiaeth Sylfaen y Flwyddyn: Joshua Jenkins, DRB Group, Cei Connah ac Ashley Jones, R. J. Auto Centre, Gorseinon. Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn a Phrentis y Flwyddyn: Emma Brooks, Jolly Tots Nursery, Llandrindod ac Aron Wyn Jones, Rehau Ltd, Blaenau Ffestiniog. Prentis Uwch y Flwyddyn: Daniel Holland, Airbus UK, Brychdyn ac Ann Roberts, Cymdeithas Cymorth Hafod, Cwmbrân.

Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Tamar Girdlestone, Amlwch a Shannon Mason, Caerdydd. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Jordan Jackson, Caerffili a Chloe Lodder, Cwmbrân. Dysgwr y Flwyddyn – Camau at Waith: Sean Parsons, Casnewydd a Kevin Price, Hengoed. Twf Swyddi Cymru – Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn: Gareth Carpenter, Casnewydd a Craig Wadley, Pencoed.

Prif Noddwyr:

Pearson

Noddwyr:

Media Wales Leadership and Management Wales Federation of Small Businesses
ACT Acorn GE Aviation
Skills for Justice Coleg Cambria MVRRS
Flintshire County Council Celtic Manor

More News Articles

  —