Rhaglen Aspire 2Be yn Helpu Dysgwraig i Gael Swydd Cynorthwyydd Addysgu

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Gemma Young, Cynorthwyydd Addysgu yn nosbarth meithrin Ysgol Gynradd Swffryd.

Mae dysgwraig ymroddedig sy’n dilyn cwrs Cefnogi Addysgu a Dysgu gan Aspire 2Be wedi canmol y rhaglen am ei helpu i symud i swydd amser llawn Cynorthwyydd Addysgu.

Dechreuodd Gemma ddilyn y cwrs ar ôl i gydweithiwr sôn wrthi am y cyfle a’i chyflwyno i dîm Aspire 2Be. A hithau’n awyddus i symud ymlaen yn ei gyrfa newydd, ymunodd â’r rhaglen i’w helpu i bontio i swydd yn nosbarth meithrin Ysgol Gynradd Swffryd.

“Mae’r cwrs wedi bod yn amhrisiadwy ar fy nhaith broffesiynol,” meddai Gemma. “Yn ogystal â dysgu llawer i mi, mae’n fy ngalluogi i gymhwyso sgiliau newydd i fy swydd o ddydd i dydd. Rwy’n dysgu strategaethau newydd ac yn eu rhoi ar waith trwy’r amser ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Un elfen allweddol o’r rhaglen a fu’n arbennig o fuddiol i Gemma oedd yr uned ar hybu ymddygiad cadarnhaol mewn plant a phobl ifanc. A hithau’n gweithio’n agos gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cafodd fewnwelediad newydd i broblemau ymddygiad a strategaethau effeithiol i fynd i’r afael â nhw.

“Llwyddodd yr uned hon i agor fy llygaid i ddeall pam y mae plant yn ymddwyn mewn ffyrdd penodol a beth yw’r ffordd orau i’w cefnogi,” esboniodd. “Mae’r hyn a ddysgais wedi cael effaith uniongyrchol ar fy ngwaith yn yr ystafell ddosbarth, gan fy helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol a chynhwysol.”

Tra bu’n astudio, mae Gemma wedi cael cymorth cadarn yn ei gweithle. O fentora i adolygu cynnydd a chyflwyno tystiolaeth, mae ei chydweithwyr a’r uwch-dîm arwain wedi cydnabod gwerth y cymhwyster a’i effaith ar ei datblygiad proffesiynol.

“Mae fy ngweithle wedi bod yn eithriadol o gefnogol,” meddai. “Mae anogaeth fy nhîm wedi gwneud y byd o wahaniaeth. Maen nhw wedi bod gyda mi ar bob cam o fy nhaith ddysgu, ac mae’n amlwg eu bod yn gweld manteision y cymhwyster.”

Roedd Gemma’n llawn canmoliaeth i’w hyfforddwr, Andy, sydd wedi rhoi arweiniad ar hyd y cwrs.

“Mae Andy wedi bod yn anhygoel—bob amser yno i fy nghefnogi ac egluro pethau mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i mi. Mae ein sesiynau’n ddifyr a dydyn nhw byth yn teimlo’n faich; maen nhw’n llawn gwybodaeth a rydw i’n eu mwynhau.”

Un o brif fanteision y rhaglen, yn ôl Gemma, yw ei hyblygrwydd. Mae’r gallu i wneud gwaith cwrs o amgylch ei hymrwymiadau eraill, gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn o’i gwaith bob dydd, wedi bod yn allweddol i’w llwyddiant.

“Mae gallu cyflwyno enghreifftiau o fy swydd—fel lluniau o’r ystafell ddosbarth—wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae’n gwneud y profiad o ddysgu’n llawer mwy perthnasol.”

Mae’r cwrs eisoes wedi talu ar ei ganfed i Gemma, gan ei bod newydd gael swydd fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 mewn Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) newydd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

“Allwn i ddim bod yn hapusach,” meddai. “Dyma’r llwybr gyrfa roeddwn i’n anelu ato, ac mae’r cwrs wedi fy helpu i gyrraedd yno. Ym mis Medi, bydda i’n symud o bedair swydd ran-amser i un swydd amser llawn – mae’r profiad wedi newid fy mywyd.”

Mae’r cymhwyster Cefnogi Addysgu a Dysgu gan Aspire 2Be yn dal i rymuso gweithwyr proffesiynol fel Gemma, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth y mae arnynt eu hangen i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd a chael dylanwad hirdymor ym myd addysg.

Aspire 2Be

Educ8

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —