BBC Cymru yn lansio cyfleoedd Prentisiaethau newydd mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

bbc_launch_banner

Mae BBC Cymru Wales wedi lansio tri chynllun hyfforddiant a phrentisiaeth newydd er mwyn taflu’r rhwyd yn ehangach nag erioed o’r blaen wrth edrych am staff newydd. Mae’r darlledwr hefyd yn cynnig cefnogaeth amrywiol i’r rhai sydd eisiau dysgu mwy am yrfa gyda’r BBC a gwneud cais am swydd, gyda ffocws ar annog mwy o bobl o gefndiroedd a dangynrychiolir i ymgeisio.

Mae’r cyfleoedd newydd yn cynnwys y canlynol:

  • Dyddiau Darganfod, sy’n cyflwyno cyfranogwyr i BBC Cymru, gan roi syniad iddynt o beth i’w ddisgwyl pe baent yn dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth gyda’r BBC
  • Rhaglen Camau Cyntaf sy’n cynnig cyfle i gyfranogwyr dreulio tridiau gyda BBC Cymru, ac yn neilltuo mentor i’r cyfranogwyr, yn ogystal â gweithdai i baratoi ymgeiswyr ar gyfer y broses ymgeisio am brentisiaeth gyda’r BBC
  • Cynigir Deg Prentisiaeth Newyddiaduraeth Ddigidol yng Nghymru yn 2019 gyda BBC Cymru Wales. Dyma bartneriaeth rhwng y BBC a Choleg Caerdydd a’r Fro ac mae unrhyw un sydd dros 18 oed yn gymwys i wneud cais.

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru:

“Mae’r BBC eisiau recriwtio’r bobl orau a’r rhai mwyaf disglair. Nod y cynlluniau yma yw rhoi gwybodaeth i bobl o bob cefndir am yr hyn ‘da ni’n ei wneud a’u cefnogi os byddan nhw’n penderfynu gwneud cais am brentisiaeth. Bwriad y cyfleodd yma yw agor y drysau led y pen a gwneud y BBC mor gynhwysol â phosib fel bod pobl dalentog a chreadigol o bob cefndir yn teimlo eu bod nhw’n gallu gwneud cais i weithio yma.”

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro:

“Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro gryn hanes o weithio gyda’r BBC i ddarparu cyfleoedd yn seiliedig ar waith ar gyfer pobl ifanc ym maes Cyfryngau Creadigol a Digidol ac mae’r prentisiaeth newydd yma’n gyfle rhagorol i ddatblygu ein perthynas gydag un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin twf yn ogystal â datblygu potensial ar draws yr holl gymunedau ‘da ni’n eu gwasanaethu ac felly mae croeso mawr i ymrwymiad y BBC i sicrhau bod y prentisiaethau newydd yma’n hybu mwy o amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru ac mae’n bleser cael bod yn rhan o hynny.”

Mae Dyddiau Darganfod eisoes ar droed ledled Cymru, gyda dyddiadau mewn lle ym Bangor, Bae Colwyn a Glannau Dyfrdwy yn ogystal â Chasnewydd, Caerdydd ac Abertawe. Yn y cyfamser, bydd y broses ymgeisio’n agor ym mis Ionawr er mwyn derbyn y criw cyntaf o Brentisiaid Newyddiaduraeth Ddigidol BBC Cymru a fydd yn dechrau ym mis Medi 2019. Bydd y 10 swydd lawn amser yma, sy’n lleoliadau dwy flynedd, yn ychwanegol at 25 o brentisiaethau y mae’r BBC yn eu cynnig eisoes bob blwyddyn. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno gan Goleg Caerdydd a’r Fro mewn partneriaeth â BBC Academy.

Newyddion Coleg Caerdydd a’r Fro

More News Articles

  —