Cyflogwyr yn cydweithio i roi cyfleoedd i Brentisiaid
Mae tua 180 o gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu yn ne-orllewin Cymru yn cefnogi Rhaglen Rhannu Prentisiaethau sy’n rhedeg ers 11 mlynedd ac sydd wedi ennill gwobrau.
Mae Sgiliau Adeiladu Cyfle o Rydaman yn cyflogi 125 o brentisiaid a rennir, sy’n golygu ei fod yn un o’r cyflogwyr mwyaf o’i fath ym Mhrydain. Mae’r rhaglen yn datblygu’n barhaus i ateb anghenion y diwydiant adeiladu.
Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i brentisiaid ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth trwy symud rhwng cwmnïau bach a mawr sy’n gweithredu mewn gwahanol rannau o’r diwydiant.
Ymhlith ei fframweithiau mae gosod brics, gwaith saer, gwaith trydan, plastro, plymio, cynnal a chadw ac adnewyddu, paentio ac addurno, a gwaith technegol. Mae’r prentisiaid yn dilyn cyrsiau mewn colegau rhanbarthol ac yn cael cynnig gwaith ymarferol mewn gwahanol grefftau dros gyfnod o ddwy flynedd.
Cychwynnwyd y rhaglen yn 2007 fel partneriaeth a ddatblygwyd yn Sir Gaerfyrddin ac, yn 2013, cafodd ei ehangu i gynnwys Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Y llynedd, enwyd Sgiliau Adeiladu Cyfle yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru ac enillodd Wobr y Frenhines am Fenter: Arloesi.
Ym mis Ionawr 2019, bwriedir lansio rhaglen fentora ar gyfer cyflogwyr i geisio sicrhau bod rhagor o bobl sy’n dechrau gweithio yn y diwydiant adeiladu yn aros yno’n hirach. Mae cynlluniau ar y gweill i hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg ar safleoedd adeiladu hefyd.
Er mwyn creu llwybr i brentisiaid symud ymlaen i swyddi rheoli, fel goruchwylwyr a rheolwyr safleoedd adeiladu, mae Sgiliau Adeiladu Cyfle yn cynnig Prentisiaeth Dechnegol erbyn hyn.
Mae’r rhaglen yn falch o’i record ar amrywiaeth yn y gweithle, gyda 10 o ferched yn brentisiaid ar hyn o bryd, yn cynnwys tair sy’n gweithio tuag at y Brentisiaeth Dechnegol.
Mae’r rhaglen yn ymfalchïo yn ei chyfradd gadw o 95% ac mae llawer o’r prentisiaid gwreiddiol wedi symud ymlaen i ddechrau eu busnesau eu hunain a chynnig lleoliadau i genhedlaeth newydd o brentisiaid.
“Yn fy marn i, mae mwy i Brentisiaeth na’r ddwy flynedd y mae’r prentisiaid yn dilyn y rhaglen,” meddai Anthony Rees, rheolwr rhanbarthol Sgiliau Adeiladu Cyfle. “Mae’n fan cychwyn ar gyfer dysgu gydol oes.
“Mae prentisiaethau’n dod â gwaed newydd i’r diwydiant adeiladu ac mae angen i bob busnes harneisio doniau newydd, ffres a chreadigrwydd. Mae Prentisiaethau’n darparu gweithwyr medrus i ddiogelu dyfodol busnes.”
Nod Rhaglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru yw darparu’r gweithwyr medrus y mae ar gyflogwyr eu hangen at y dyfodol. Mae cymwysterau sy’n gysylltiedig â hyfforddiant ymarferol yn creu prentisiaid medrus a chynhyrchiol sydd â’r sgiliau i addasu i dechnoleg ac arferion gweithio newydd.
Dylai cyflogwyr sy’n dymuno cynnig Prentisiaethau lenwi ffurflen mynegi diddordeb ym Mhorth Sgiliau Busnes Cymru https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: “Trwy gymryd rhan mewn Prentisiaethau yng Nghymru, mae cyflogwyr yn creu gweithlu sy’n gallu ymateb yn well i’r gofynion, sy’n fwy brwdfrydig ac sy’n meddu ar y sgiliau allweddol a’r profiad angenrheidiol. Mae prentisiaethau’n helpu busnesau i fod yn fwy proffidiol ac yn helpu cyflogwyr i fod yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Newyddion Sgiliau Adeiladu Cyfle
More News Articles
« BBC Cymru yn lansio cyfleoedd Prentisiaethau newydd mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro — Cogydd dan hyfforddiant yn cymhwyso ar gyfer Rownd Derfynol Cenedlaethol »