Llysgennad Prentisiaethau dwyieithog yn saernïo gyrfa mewn gwaith coed

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Ben Pittaway yn gwneud Prentisiaeth ddwyieithog mewn Gwaith Coed gyda’r nod o gael gyrfa yn y diwydiant adeiladu.

Ben standing in the workshop

Mae’r Llysgennad Prentisiaethau Ben Pittaway yn mwynhau ei waith fel prentis saer coed.

Cafodd Ben, 21, o Bort Talbot, brofiad fel plastrwr ar ôl gadael yr ysgol ond penderfynodd ar ôl ychydig y byddai gwaith coed yn ei siwtio’n well a dechreuodd weithio i gwmni D. C. Carpentry and Joinery yn y dref dros ddwy flynedd yn ôl.

Erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth ddwyieithog Lefel 3 mewn Gwaith Coed ar Safle gyda City & Guilds, wedi’i chyflenwi gan Pathways Training, Grŵp Colegau NPTC yn Abertawe.

Gan ei fod mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, mae wedi’i benodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

“Rwy wrth fy modd yn y gwaith o fod yn brentis saer coed,” meddai Ben. “Rwy’n hoffi’r rhyddid o weithio yn rhywle gwahanol bob dydd, cwrdd â phobl wahanol a chael y cyfle i roi angerdd yn fy ngwaith.

“Fues i’n gwneud gwaith plastrwr am 18 mis ond sylweddolais nad dyna ro’n i am ei wneud. Mae gen i lawer i’w ddysgu o hyd ond rwy’n edrych ymlaen at yrfa dda.”

Mae Ben wedi pasio cwrs i fod yn gymwys i osod drysau tân o dan oruchwyliaeth ac mae’n gobeithio dal i ddysgu sgiliau newydd.

Mae’n ymfalchïo ei fod wedi’i ddewis yn Llysgennad Prentisiaethau ac meddai: “Mae siarad Cymraeg yn bwysig i mi achos y Gymraeg yw’n hiaith genedlaethol ni. Rwy o blaid rhoi’r cyfle i ddysgwyr wneud prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog. Mae fy asesydd, Wyn Williams, yn cynnal yr asesiadau yn ddwyieithog.

“Os oes rhywun yn ystyried gwneud prentisiaeth ddwyieithog, fy nghyngor i yw iddyn nhw fynd amdani. Dyna’r ffordd orau o ddysgu popeth am y gwaith y byddwch yn ei wneud ac ennill cyflog ar yr un pryd.”

Dywedodd Mr Williams, sy’n ddarlithydd gwaith coed yng Ngrŵp Colegau NPTC yn Abertawe, bod Ben wedi dechrau dysgu ar gwrs aml-grefft cyn dewis anelu am yrfa mewn gwaith coed.

“Mae Ben yn gweithio’n galed, mae’n dysgu sgiliau’n gyflym ac mae’n cymryd camau breision ymlaen,” meddai.

Dywedodd Darren Cockings, rheolwr gyfarwyddwr D. C. Carpentry and Joinery: “Mae Ben yn ifanc, yn frwdfrydig ac mae’n symud ymlaen yn dda â’i grefft. Mae’n gwneud gwaith amrywiol yn cynnwys gosod drysau tân, ystafelloedd ymolchi a cheginau.

“Mae’n un o’r ychydig bobl sy’n siarad Cymraeg yn y busnes ond bydden ni’n croesawu rhagor achos mae’n lles i’r busnes ac mae llawer o’n cleientiaid yn awyddus i weithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.

nptcgroup.ac.uk/cy/prentisiaethau

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —