Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022 yn llwyddiant mawr, yn ôl Hyfforddiant Cambrian

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

‘Diolch i’r cynnwys gwych a’r agwedd gydgysylltiedig, roedd Wythnos Prentisiaethau Cymru eleni yn llwyddiant mawr i ni yma yn Hyfforddiant Cambrian.’

Manager of Lake Vyrnwy Hotel, Llanwddynand Apprentice

Anthony Rosser and Marcel, Lake Vyrnwy Hotel, Llanwddyn

Aeth David Richards, rheolwr marchnata Hyfforddiant Cambrian, ymlaen i ddweud, ‘Mae bob amser yn wych gweld diwydiant, neu hyd yn oed wlad gyfan, yn dod ynghyd gydag un nod cyffredin, ac fe ddangosodd ymgyrch yr Wythnos Brentisiaethau ledled Cymru eleni bod cyfathrebu pendant wir yn gallu gwneud gwahaniaeth’.

Daeth Hyfforddiant Cambrian a llu o ddarparwyr hyfforddiant eraill o bob rhan o Gymru ynghyd i hyrwyddo manteision Prentisiaid wrth fusnesau ledled Cymru ac i ddangos i’r don nesaf o Brentisiaid sut y gallent elwa o wneud Prentisiaeth.

Defnyddiodd Hyfforddiant Cambrian asedau craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Wythnos gan ychwanegu eu straeon eu hunain a negeseuon wedi’u targedu. Gwelsant gynnydd o (tua) 500% mewn ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol, cynnydd o 100% mewn traffig i’r wefan, cynnydd o 350% yn yr ymweliadau â’u tudalen Swyddi a chynnydd o 100% mewn ymholiadau uniongyrchol. Felly, rhwng popeth, roedd yn llwyddiant mawr.

Cofiwch gadw golwg ar holl newyddion diweddaraf Hyfforddiant Cambrian drwy ddilyn eu cyfryngau cymdeithasol neu fynd draw i cambriantraining.com ac os oes gennych gwestiwn am brentisiaethau, anfonwch neges at info@cambriantraining.com

Hyfforddiant Cambrian

More News Articles

  —