Hyfforddiant Cambrian yn Dathlu 30 Mlynedd mewn Busnes trwy ddod yn Ymddiriedolaeth Eiddo i’r Gweithwyr

Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, gyda Chris Gilmour, Rheolwr AD Manwerthu, Kepak, Malwino Caetano, Cydlynydd Hyfforddiant, Kepak, ac aelodau o Uned Busnes Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod CHC.
Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC) yw un o’r darparwyr mwyaf blaenllaw o brentisiaethau dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu yn y Trallwng, Powys, ym 1995 fel is-gwmni Mid Wales Tourism i ddarparu sgiliau galwedigaethol er mwyn cefnogi datblygiad sector twristiaeth yr ardal. Saith blwyddyn yn ddiweddarach yn 2002, ar ôl allbryniant rheolwyr daeth y cwmni yn gwmni annibynnol, ag arweiniwyd gan dîm profiadol a oedd yn ymrwymo i gynnal ei ganolfan yng Nghanolbarth Cymru wrth ehangu’n ddaearyddol.
Heddiw, y cwmni yw’r darparwyr mwyaf o brentisiaethau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru ac yn darparu prentisiaethau ar draws ystod eang o sectorau dros Gymru gyfan. Mae ei bencadlys yn y Trallwng ac mae ganddo bum swyddfa ar draws Gogledd, Canolbarth a De Cymru.
“Yn bendant. gweithlu CHC yw galon ein busnes a’r rheswm am ei lwyddiant,” meddai Arwyn Watkins OBE, Cynghorydd Goruchwylio Gweithredol, Grŵp CHC.
“Wrth i’r Cwmni dathlu 30 mlynedd mewn busnes, meddai’r cyfranddalwyr blaenorol ei bod hi’n amser priodol i CHC ddod yn ymddiriedolaeth sy’n 100% yn eiddo i’r gweithwyr; gan ganiatáu i bob aelod o staff gael diddordeb personol ym mhennawd llwyddiannus nesaf o fusnes y cwmni,” fe barhaodd.
Slogan y cwmni yw ‘Ymgysylltu, Ysbrydoli, Llwyddo‘. Ei nod yw ymgysylltu â dysgwyr, gan gynnwys pobl ifanc a chyflogwyr, mewn rhaglenni prentisiaethau. Mae hyn er mwyn eu hysbrydoli nhw i gyflawni yn eu gyrfaoedd a nodau bywyd, a chaniatáu i fusnesau llwyddo a chreu cyflogaeth gynaliadwy o ansawdd uchel.
Yn y 30 mlynedd diwethaf, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi darparu mwy na 20,000 rhaglen prentisiaeth ledled Cymru mewn mwy na 4,500 o fusnesau.
“Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn credu mewn arwain trwy enghraifft,” meddai Faith O’Brien, Rheolwr Cyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian. “Nid ydym yn hyrwyddo prentisiaethau yn unig; rydym yn ymgysylltu’n weithredol. Mae ein hymrwymiad yn cael ei ddangos trwy ein staff ein hunain yn cymryd rhan yn y sectorau rydym yn darparu a thrwy raglenni prentisiaethau, gan sicrhau ein bod yn parhau i ymgysylltu â’r daith dysgu rydym yn hyrwyddo.
“Rydym wedi cefnogi ein staff ein hunain i ymgymryd â phrentisiaethau dysgu seiliedig ar waith. Rwyf wedi cwblhau pedwar prentisiaeth, mae tair o’n bedwar Cyfarwyddwr yn gyn-brentisiaid ac mae 60% o’n gweithle yn brentisiaid presennol neu flaenorol.”
Mae prentisiaethau yn drawsnewidiol wrth gyflawni dyheadau personol a phroffesiynol. Maent yn helpu adeiladu gweithlu medrus a chynhyrchiol i gefnogi twf a llwyddiant economi Cymru.
Mae CHC yn credu’n gryf y dylai prentisiaethau fod ar gael i bawb. Mae gan y cwmni prentisiaid o 16 oed sydd dim ond wedi gadael ysgol, hyd at brentisiaid dros 50. Mae CHC hefyd wedi hyrwyddo’r Rhaglen Prentisiaethau a Rennir â Chymorth sydd wedi’i greu er mwyn cefnogi unigolion yng Nghynru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad i’r gweithle.
“Yn ddiweddar buom ni’n dathlu nifer o fusnesau, swyddogion hyfforddi, a phrentisiaid yn ein Gwobrau CHC,” meddai Faith. “Mae’r gwobrau hwn yn rhoi sylw i gyflawniadau rhagorol unigolion a sefydliadau sydd wedi rhagori yn ein rhaglenni prentisiaethau ledled Cymru.”
Roedd dau enillydd yn benodol yn enghreifftiau cryf o werth dilyn y llwybr prentisiaeth i’r dysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru. Cafodd Cameron Long ei enwi Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Mae Cameron yn awtistig ac yn wynebu anawsterau o ganlyniad i amhariad ar y clyw a’i symudedd. Yn ddiweddar, fe gwblhaodd ei Brentisiaeth Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cymorth a Glanhau Masnachol ar Raglen Prentisiaethau a Rennir â Chymorth, ac o ganlyniad wedi sicrhau swydd gydag Elite Clothing Solutions.
Derbyniodd Kepak y wobr Cyfraniad Rhagorol i Brentisiaethau. Cafodd y wobr ei ddewis ar sail effaith rhaglen prentisiaethau’r cwmni ar y gymuned leol, eu harloesedd, arweinyddiaeth, cynaliadwyedd a’u cymynrodd. Mae’r cynhyrchwr cig a weithredir yn fyd-eang yw’r safle prosesu cig mwyaf yng Nghymru gan gyflogi dros 850 aelod o staff, ac yn chwarae rôl allweddol mewn cadwyni cyflenwi bwyd yn y DU. Mae’n cynnig cymwysterau prentisiaethau o Lefel 2 i Lefel 5 mewn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod, Gweithgynhyrchu Bwyd a Rheoli.
Ers sefydlu’r rhaglen prentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, mae Kepak wedi adrodd gostyngiad o 15% mewn trosiant staff ac wedi gwella ymgysylltiad staff ar draws y Busnes. Mae prentisiaethau’n helpu i gau’r bylchau sgiliau hanfodol, adeiladu rheolwyr y dyfodol, a lleihau costau recriwtio drwy ddatblygu talent o fewn y busnes. Mae’r busnes yn cyfrannu dros £200 miliwn i’r economi lleol bob blwyddyn. Maent yn cyfrannu at ddiogelwch gwaith ym Merthyr Tudful ac yn cryfhau dyfodol un o sectorau bwyd pwysicaf yng Nghymru.
“Athroniaeth busnes CHC yw ‘Breuddwydio. Dysgu. Byw.’. Gan ei fod yn Ymddiriedolaeth sy’n 100% yn eiddo i’r gweithwyr, mae CHC yn edrych ymlaen at hyfforddi a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid yng Nghymru i gyflawni eu breuddwydion gyrfa.”
More News Articles
« Sut i droi rheolwyr damweiniol yn arweinwyr medrus — Gwneud synnwyr o AI ym myd dysgu seiliedig ar waith »

