Carrie-Anne yn blodeuo er gwaetha’i thrafferthion a’n cyrraedd y rhestr fer am Wobr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Carrie-Anne – yn blodeuo diolch i raglen Ymgysylltu yr Hyfforddeiaeth.

Mae Carrie-Anne Anthony wedi byw gydag epilepsi ers blynyddoedd. Pan oedd yn tyfu i fyny, ger Aberdâr, byddai’n gorfod mynd i’r ysbyty’n rheolaidd oherwydd y ffitiau cyson a rhoddwyd hi mewn coma unwaith am bedwar mis.

Gan ei bod yn colli cymaint o’r ysgol, collodd gysylltiad â’i ffrindiau, collodd ei hyder ac roedd yn dioddef sgil-effeithiau meddygol fel colli ei chof tymor byr.

Ond, trwy weithio gyda’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus Aberdâr, daeth tipyn o sefydlogrwydd i fywyd Carrie-Anne. Bu ei nyrs epilepsi a’i thad-cu yn hyfforddi’r staff fel y gallent roi ei meddyginiaeth iddi.

Erbyn hyn, mae’r ferch ifanc dawedog a swil yn blodeuo trwy ei Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu). Mae wedi gwneud modiwlau mewn Sgiliau Cyflogadwyedd, Sgiliau Hanfodol ar gyfer Gwaith a Bywyd, Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol a chymhwyster Mynediad 3 Cyngor Diogelwch Prydain.

Mae wedi gwneud ffrindiau ac wedi dod yn un o’r dysgwyr mwyaf llafar, gan symud ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1.

Erbyn hyn, cafodd taith ddysgu Carrie-Anne ei chydnabod gan ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Y cam nesaf i Carrie-Anne fydd rhagor o leoliadau rheolaidd mewn ysgol gynradd leol, a’i nod yw gweithio llawn amser ym myd gofal plant.

Dywedodd ei Thiwtor yng Nghanolfan PeoplePlus Aberdâr, Aaron Peacock: “Mae gan Carrie-Anne ddigon o blwc, penderfyniad a brwdfrydedd i oresgyn y rhwystrau a fydd bob amser yn ei hwynebu. Rwy wedi gweld newid enfawr ynddi ac mae bob amser yn gwenu.”

Meddai Carrie-Anne: “Mae PeoplePlus wedi helpu i fy nhynnu allan o fy nghragen. Fe gollais i fy mam i epilepsi a bu’r cyflwr yn rhan enfawr o fy mhlentyndod ond, diolch i’r Hyfforddeiaeth, rwy’n gwneud pethau yn awr na fyddwn i wedi breuddwydio rai blynyddoedd yn ôl y gallwn eu gwneud.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Carrie-Anne a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —