Prentisiaid cwmni o Gaerdydd yn anelu’n uchel

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cydlynydd Adnoddau Dynol/Arweinydd Rhaglen Brentisiaethau British Airways Maintenance Cardiff, Nerys Jones, gyda rhai o’r prentisiaid Ryan Martinson, Gatis Druvaskalns, Kiran Alias, Christian Davies, James Grim ac Andrew Howell.

Mae prentisiaid British Airways Maintenance Cardiff (BAMC) yn anelu’n uchel yn y diwydiant awyrennau.

Bu’r cwmni’n addasu ei drefniadau dysgu seiliedig ar waith dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae ei raglen brentisiaethau’n creu llif o dalent er budd y sector cyfan.

Yn awr, mae’r cwmni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru fis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Ers i BAMC gyflwyno’r rhaglen brentisiaethau 10 mlynedd yn ôl, bu’n cydweithio â’r darparwr hyfforddiant, Coleg y Cymoedd, i gynnwys modiwlau diwydiant-benodol sy’n cynnig profiad gyda’r gorau yn y byd i’w brentisiaid yn lle mathau hyfforddiant nad oedd yn berthnasol i’r sector.

Mae’r cwmni’n credu’n gryf mai BTEC Lefel 3 a diploma estynedig NVQ mewn Peirianneg Awyrenegol yw’r llwybr gorau i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn cynnal a chadw awyrennau, er mwyn iddynt ddod yn beirianwyr cymwys a medrus.

“Yn ogystal â darparu’r sgiliau technegol y mae ar ein prentisiaid eu hangen, mae ein rhaglen ni’n rhoi profiadau bywyd iddynt,” meddai Nerys Jones, Cydlynydd Adnoddau Dynol/Arweinydd y Rhaglen Brentisiaethau.

“Er enghraifft, mae ein prentisiaid wedi cael profiad o wahaniaethau ddiwylliannol a thechnolegol rhwng sefydliadau peirianyddol trwy ymweliadau cyfnewid â Chengdu a gwahanol wledydd yn Ewrop.

“Ein nod yw cynnig prentisiaeth iddynt a fydd yn agor y drws i unrhyw sefydliad cynnal a chadw arall. Yn aml, gwelwn fod ein cyn-brentisiaid yn dod yn ôl atom a’n bod yn elwa ar y profiad a gawsant gyda chwmnïau eraill.”

O ganlyniad i berthynas gadarn BAMC gyda Choleg y Cymoedd, mae 86 o brentisiaid wedi graddio dros y pum mlynedd diwethaf.

“Mae BAMC wedi buddsoddi’n sylweddol er mwyn datblygu profiad sydd gyda’r gorau yn y byd i brentisiaid,” meddai Stephen Manning, Asesydd NVQ Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg y Cymoedd.

“Trwy gydweithio’n agos, rydym wedi llwyddo i addasu’r fframwaith prentisiaethau er mwyn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau sy’n wirioneddol werthfawr yn y diwydiant ac a fydd yn ddefnyddiol iddynt yn y dyfodol.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, BAMC a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —