Agor meithrinfa yw breuddwyd Catrin sy’n Llysgennad Prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Wrth wneud prentisiaeth ddwyieithog, mae Catrin Morgan yn gwireddu ei huchelgais o weithio gyda phlant bach a hoffai agor ei meithrinfa ei hunan rhyw ddiwrnod.

Catrin Morgan sitting by window

Catrin Morgan, sy’n brentis.

Mae Catrin, 18, o Bontarddulais, yn gweithio tuag at Brentisiaeth ddwyieithog Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant (Ymarfer) gyda City & Guilds, wedi’i chyflenwi gan Pathways Training sy’n rhan o Grŵp Colegau NPTC. Mae’n gobeithio symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch er mwyn gwireddu ei huchelgais.

Dechreuodd mewn swydd ran-amser yng Nghylch Meithrin Pontarddulais yn Eglwys Gymunedol Bont Elim fis Medi diwethaf. Cyn hynny, roedd wedi gwneud cymhwyster Gofal Plant, Lefel 2 yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe gyda lleoliad ym meithrinfa Prifysgol Abertawe.

Gan ei bod mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, mae Catrin wedi’i phenodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

“Rwy’n mwynhau fy mhrentisiaeth yng Nghylch Meithrin Pontarddulais yn fawr,” meddai Catrin, sydd hefyd â swydd ran-amser yn siop Primark. “Rwy wedi bod eisiau gweithio gyda phlant erioed achos rwy wrth fy modd yn eu gweld yn datblygu ac yn gallu eu helpu.

“Gobeithio y gallaf weithio fy ffordd i fyny i lefel uwch a chael swydd lawn amser yn y Cylch. Fy nod yw agor fy meithrinfa fy hunan rhyw ddiwrnod.”

Wrth sôn am ei rôl fel Llysgennad Prentisiaethau, dywedodd ei bod yn awyddus i roi gwybod i bobl am fanteision prentisiaethau a dwyieithrwydd.

“Mae gwneud prentisiaeth yn ardderchog achos rwy’n gallu dysgu mwy mewn diwrnod nag y byddwn i mewn wythnos yn y coleg,” meddai Catrin. “Trwy fod yn Llysgennad, rwy’n gallu helpu i sôn wrth bobl eraill am fanteision dysgu yn y gweithle fel prentis os nad ydyn nhw’n siŵr beth i’w wneud.

“Rwy’n credu bod gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn rhoi mwy o gyfleoedd i chi ac rwy’n hoffi siarad a dysgu Cymraeg yn y Cylch.”

Mae Eira Mainwaring, rheolwr Cylch Meithrin Pontarddulais, yn un o bedwar o staff sydd naill ai wedi gwneud prentisiaeth neu’n gweithio tuag at un.

“Mae Catrin wedi ffitio i mewn yn dda iawn ac mae’r brentisiaeth yn gam tuag at weddill ei gyrfa,” meddai. “Mae prentisiaeth yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill cyflog wrth ennill cymhwyster a chael gwybod beth y mae swydd yn ei olygu mewn gwirionedd.

“Fe ddechreuais i wirfoddoli ddeng mlynedd yn ôl. Yna, fe wnes i brentisiaeth gyda’r Mudiad Meithrin ac arweiniodd hynny at Brentisiaeth Uwch. Roedd y cyfle i wneud prentisiaeth a chael profiad ymarferol yn y gweithle yn ddewis gwych i mi.”

Dywedodd Claire Quick, tiwtor ac asesydd Catrin o Pathways Training: “Mae Catrin yn nyddiau cynnar ei phrentisiaeth ac mae wedi gwneud yn dda iawn yn ei hasesiadau. Mae’n gweithio gyda phlant dwy a thair oed ac mae ei sgiliau a’i hyder yn datblygu gyda chefnogaeth Eira a’i staff.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.

nptcgroup.ac.uk/cy/prentisiaethau

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —