Yr iaith Gymraeg yn bwysig i Lysgennad Prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn hollbwysig er mwyn hybu’r iaith ledled Cymru, yn ôl y prentis trydanwr, Ifan Wyn Phillips.

Ifan standing by work van.

Y prentis, Ifan Wyn Phillips, wrth ei waith.

Mae Ifan, 21 oed, o Grymych, Sir Benfro, yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Gosodiadau Trydan trwy EAL, a gyflenwir yn ddwyieithog gan Goleg Sir Benfro, ar ôl cwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen fis Medi diwethaf.

Gan ei fod mor frwd dros hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog, mae wedi’i benodi’n Llysgennad Prentisiaethau am y drydedd flwyddyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae hefyd yn llysgennad y Gymraeg i Goleg Sir Benfro.

Fis Hydref diwethaf, enillodd Wobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r wobr yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis at y bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaethau.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Yn rhinwedd ei benodiad yn Llysgennad, bu Ifan ym Mharc y Scarlets, Llanelli, yn siarad â disgyblion ysgolion uwchradd am ei waith a manteision prentisiaethau. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau meddiannu Instagram a drefnir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r NTfW yn ystod yr Wythnos Brentisiaethau yng Nghymru.

“Rwy’n mwynhau helpu i hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog ac roedd yn braf cael gwobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am fy ngwaith,” meddai.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn hysbysebu’r iaith a’i hyrwyddo er mwyn denu cymaint o bobl ag sy’n bosibl i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Mae’n cadw’r iaith a’r traddodiadau’n fyw ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Ifan yw’r drydedd genhedlaeth i weithio ym musnes y teulu, cwmni contractwyr trydan D. E. Phillips a’i Feibion, a sefydlwyd yn Sir Benfro gan ei dad-cu. Mae’n gweithio ar dai, busnesau a ffermydd.

Dewisodd wneud prentisiaeth er mwyn ymuno â busnes y teulu gan nad oedd y brifysgol yn apelio ato. “Mae’n well gen i weithio â fy nwylo ac mae’r brentisiaeth yn gyfle i weithio, dysgu ac ennill cyflog,” esboniodd.

Mae Coleg Sir Benfro’n helpu Ifan ac eraill i barhau i ddysgu yn y Gymraeg. Mae aelod o’r staff sy’n siarad Cymraeg yn helpu â’r adolygiadau ac yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr siarad Cymraeg.

Mae Janice Morgan, swyddog datblygu’r Gymraeg yn y Coleg, wedi cymryd rôl ychwanegol fel tiwtor cefnogi dwyieithrwydd, a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Mae Ifan yn dal yn llysgennad gwych dros y Gymraeg ar ran y coleg ac mae’n manteisio ar bob cyfle a gaiff. Dyna a arweiniodd at ennill y wobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,” meddai Janice. “Mae wedi dod yn fwy hyderus ers iddo gael ei benodi’n Llysgennad y Gymraeg.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.

pembrokeshire.ac.uk

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —