Wythnos Dechnoleg Cymru 2025 – uno arloesedd, talent, a chyfle

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Visitors at Wales Tech Week 2024

Marciwch eich calendr – mae disgwyl mawr am un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous calendr technoleg y byd.

Cynhelir Wythnos Dechnoleg Cymru 2025 rhwng 24 a 26 Tachwedd 2025 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW) yng Nghasnewydd.

Wythnos Dechnoleg Cymru yw uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol fwyaf Cymru. Mae’n dathlu ecosystem dechnoleg lewyrchus y genedl a chaiff ei phweru gan Technology Connected. Mae’n ddigwyddiad unigryw sy’n dod â meddyliau disgleiriaf gwahanol sectorau ynghyd i arddangos technoleg flaengar ac i archwilio dyfodol diwydiannau fel gofal iechyd, gêmau fideo, archwilio’r gofod, ynni cynaliadwy a mwy.

Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn llwyfan delfrydol i weld grym technoleg a phobl yn dod ynghyd. Gyda’i phwyslais ar arloesi, cydweithredu a rhoi mewnwelediadau i ddiwydiant, mae’r uwchgynhadledd ddeinamig hon yn gyfle unigryw i ddysgu, darganfod tueddiadau technolegol newydd a dod i gysylltiad â phobl o’r un anian. Mae’n ddathliad o bopeth y gall technoleg ei gyflawni wrth lunio byd ar gyfer yfory.

Uchafbwyntiau allweddol

  • Talent4Tech: Digwyddiad unigryw ym maes gyrfaoedd technolegol â’r nod o ddenu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr technolegol proffesiynol medrus. Os ydych yn gyflogwr sy’n dymuno recriwtio neu’n fyfyriwr sy’n awyddus i blymio i fyd technoleg, mae Talent4Tech yn cynnig profiad trochi, sy’n addysgiadol ac yn ysbrydoledig.
  • Cyfleoedd i arddangos – I fusnesau sy’n dymuno dod yn fwy amlwg, mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn gyfle unigryw i arddangos eu brand i gynulleidfa ryngwladol dros y tridiau. Cânt ymwneud ag arweinwyr byd-eang, penderfynwyr, ac arloeswyr technoleg er mwyn hybu twf eu busnes a meithrin partneriaethau gwerthfawr.
  • Cyrhaeddiad byd-eang – Trwy ganolbwyntio ar Gymru fel arweinydd byd-eang ym maes technoleg, mae’r uwchgynhadledd yn tynnu sylw at sectorau a gydnabyddir yn rhyngwladol fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch, AI, FinTech, MedTech, a blockchain, gan hybu ymgysylltiad a buddsoddiad.
  • Profiad trochi – Bydd arddangoswyr yn elwa o gyfleoedd arddangos wyneb yn wyneb a rhithwir, gan sicrhau profiad gwirioneddol hybrid sy’n ehangu’ch cyrhaeddiad y tu hwnt i’r digwyddiad.

Pam ddylwn i ddod i Wythnos Dechnoleg Cymru 2025?
Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn fwy na dim ond digwyddiad. Mae’n ddathliad o botensial aruthrol y sector technoleg. Dyma lwyfan i arweinwyr ac arloeswyr ddod at ei gilydd a chyfnewid syniadau a allai newid ein ffordd o fyw, o weithio ac o gysylltu â’n gilydd.

Trwy gymryd rhan, cewch fynediad at ddatblygiadau technoleg blaengar, buddsoddiad byd-eang a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr, fel y gallwch aros ar y blaen mewn byd lle mae technoleg yn datblygu’n gyflym.

Ewch i Wales Tech Tech Week: Wythnos Dechnoleg Cymru i gael gwybod rhagor.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —