
Partneriaid yn cyfarfod er mwyn cydweithio i daclo prinder sgiliau yng Nghymru
Mae aelodau allweddol o’r diwydiant cymwysterau ac asesu yng Nghymru wedi cyfarfod â rheoleiddwyr a darparwyr hyfforddiant gyda’r bwriad o gydweithio’n agosach i daclo’r prinder sgiliau sy’n poeni bron hanner busnesau’r wlad.
Trefnwyd cinio cyntaf y diwydiant yng Nghymru yng Nghaerdydd gan Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB). Cafodd ei gefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a’i noddi gan Agored Cymru, sy’n darparu mwy na 400 o gymwysterau yng Nghymru.
Bu Simon Pirotte, prif weithredwr Medr, corff cyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, yn sôn am bwysigrwydd addysg ar adegau o ansicrwydd.
Pwysleisiodd fod Medr yn canolbwyntio ar helpu i ddarparu’r sgiliau y mae ar fusnesau eu hangen a lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Cyfeiriodd Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru, y corff rheoleiddio cymwysterau, at fanteision cydweithio a’r angen i weithio gydag ansicrwydd er mwyn i Gymru lwyddo.
Drannoeth, aeth llawer oedd yn bresennol yn y cyfarfod i gynhadledd flynyddol yr NTFW, Prentisiaethau: Hybu Twf Economaidd a Chynlluniau i Arloesi yn y Dyfodol, lle cafwyd cyfle i gryfhau cysylltiadau rhwng busnesau, darparwyr hyfforddiant a chyrff sy’n datblygu ac yn asesu cymwysterau yng Nghymru.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i adnewyddu’r berthynas rhwng FAB a’r NTFW sy’n rhannu ymrwymiad i gryfhau’r broses o gyflenwi sgiliau yng Nghymru.
Dywed FAB ei fod yn awyddus i sicrhau bod rhagor o’i aelodau’n ymwybodol o’r cyfleoedd yng Nghymru a’r newidiadau cadarnhaol sydd ar y gweill, yn cynnwys mabwysiadu AI, dull cydlynol o ariannu addysg ôl-16, a chydweithio ym maes rheoleiddio yng Nghymru.
Yn ogystal, mae FAB yn ymgyrchu dros sicrhau bod gwahanol wledydd y DU yn fwy parod i gydnabod eu cymwysterau ei gilydd, rhywbeth y mae Llywodraeth San Steffan yn rhoi mwy o flaenoriaeth iddo erbyn hyn.
Dywedodd Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru:
“Mae’r diwydiant cymwysterau ac asesu yn hanfodol er mwyn goresgyn problem prinder sgiliau yng Nghymru a chefnogi pobl ifanc i gael gwaith.
“Mae’r diwydiant wedi ymrwymo i chwarae ei ran a gwneud gwahaniaeth. Roedd y cyfarfod yn gyfle pwysig i godi proffil y diwydiant a chynyddu dealltwriaeth.”
Dywedodd Rob Nitsch, prif weithredwr Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu:
“Roeddwn wrth fy modd â’r ymateb i ginio cyntaf y diwydiant yng Nghymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a’r parodrwydd cyffredinol i gydweithio i daclo’r heriau mawr sy’n wynebu busnesau Cymru o ran sgiliau. Mae’n wych gweld y diwydiant yn arloesi ac yn cydweithio ac mae hynny’n argoeli’n dda ar gyfer dyfodol dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru.
“Mae’r cinio wedi gosod y llwyfan ar gyfer hyd yn oed ragor o gydweithio yn y dyfodol ac mae’n rhaid i mi ddiolch i’r NTFW ac Agored Cymru am eu cefnogaeth.”
More News Articles
« Elinor yn mwynhau amrywiaeth ei phrentisiaeth ym myd marchnata — Wythnos Dechnoleg Cymru 2025 – uno arloesedd, talent, a chyfle »