Cydweithio i Ysbrydoli Pobl Ifanc ar Lwybr Gyrfa
Trafodaeth bord gron wych wedi’i chadeirio gan Leigh Hughes, gyda Vaughan Gething AoS, Gyrfa Cymru, ysgolion a chyflogwyr o bob rhan o’r rhanbarth
Ar 21 Medi, cynhaliodd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC) Drafodaeth Bord Gron lwyddiannus ar y thema “Cydweithio i Ysbrydoli Pobl Ifanc ar Lwybr Gyrfa”.
Cynhaliodd CCRSP y digwyddiad mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru a Llywodraeth Cymru.
Roedd llawer o gyflogwyr a sectorau ynghyd â darparwyr addysg a hyfforddiant yn rhan o’r drafodaeth bord gron. Prif ddiben y sesiwn oedd ystyried a yw’r gyrfaoedd sydd ar gael ar hyn o bryd yn addas i’r diben, yn enwedig wrth gysylltu ysgolion â chyflogwyr er mwyn ysbrydoli pobl ifanc wrth chwilio am yrfaoedd a mynd i’r afael ag anghenion y gweithlu yn y dyfodol.
Bu Leigh Hughes, Cadeirydd PSPRC yn hwyluso trafodaeth ymhlith y rhanddeiliaid ac roedd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AoS, yn bresennol hefyd i glywed drosto’i hunan am y gwahanol lwyddiannau a heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw.
Soniwyd am yr amrywiaeth o ‘Ddigwyddiadau Darganfod Gyrfa’ a oedd yn cael eu cynnal ledled y rhanbarth lle’r oedd modelau rôl ac eiriolwyr yn rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am lwybrau gyrfa. Nodwyd gwaith Addewid Caerdydd, Screen Alliance Cymru (SAW) a Phrosiect Hwyluso STEM Blaenau Gwent fel modelau o arfer da.
O ran yr heriau, soniodd ysgolion fod problemau’n codi wrth weithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru a bod rhai o’r farn nad oedd mynd â phlant allan o’r ystafell ddosbarth yn beth da. Soniwyd hefyd am anawsterau a gafwyd yn ymgysylltu â chyflogwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig.
Roedd yn amlwg bod awydd cryf i wella dulliau o ddarparu profiadau cysylltiedig â gwaith a gyrfaoedd a ffyrdd o ‘ddylanwadu ar y rhai sy’n dylanwadu’ ar benderfyniadau pobl ifanc. Soniwyd hefyd am gyfle i sicrhau gwell cysylltiad â’r gwaith a wneir gan ysgolion a sefydliadau addysg bellach.
Yn olaf, roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i Gyrfa Cymru rannu trosolwg o’r gwaith pwysig sy’n cael ei ysgogi gan eu Hymgynghorwyr Ymgysylltu Busnes (BEAs) a’u Cynllun Partner Gwerthfawr (VPI). Yn hyn o beth, mae PSPRC a Gyrfa Cymru wedi bod yn cydweithio i sicrhau bod digwyddiadau a seminarau amrywiol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w cynghorwyr am yr economi ranbarthol sy’n newid yn gyson.
Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
More News Articles
« Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi Llysgenhadon Prentisiaethau — Yma, mae Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, yn esbonio sut y gall busnesau oresgyn anawsterau cyflogi trwy fuddsoddi yn eu staff presennol »