Ceris, y prentis peirianneg â’i llygaid ar yrfa gyffrous yng Ngwynedd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ceris Alaw Jones has eyes set on civil engineering career.

Gyrfa gyffrous ym myd peirianneg sifil yw’r nod i Ceris Alaw Jones sydd wrth ei bodd o gael dilyn prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Ceris, 21, o Benygroes, ger Caernarfon, yn gweithio i Gyngor Gwynedd gan ddilyn Prentisiaeth mewn Peirianneg Sifil (Priffyrdd a Bwrdeistrefol) a ddarperir gan Goleg Cambria.

Yn ogystal, penodwyd hi yn Llysgennad Prentisiaid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru, a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Mae Ceris yn mwynhau bod yn llysgennad ac mae mewn sefyllfa dda i sôn wrth bobl sy’n ystyried gwneud prentisiaeth am ei phrofiad hi.

Bwriad gwreiddiol Ceris oedd bod yn ddylunydd nwyddau a dewisodd wneud cwrs gradd. Fodd bynnag, ar ôl wyth mis, penderfynodd nad oedd y cwrs yn addas iddi a daeth adref.

Bu’n gweithio yng nghanolfan alwadau Cyngor Gwynedd am rai misoedd a, thra oedd yno, cafodd gyfle i fynd yn brentis peirianneg sifil. Erbyn hyn, mae’n edrych ymlaen at ennill cymhwyster a fydd, gobeithio, yn arwain at swydd lawn amser gyda’r awdurdod.

“Dwi wedi cymryd diddordeb mawr mewn peirianneg erioed,” meddai Ceris, sy’n gweithio ym maes priffyrdd a strwythurau. “Mae ‘na lawer o beirianneg ym maes dylunio nwyddau ac mae fy chwaer yn beiriannydd rhwydweithiau gyda Chyngor Gwynedd.

“Dwi’n mwynhau’r brentisiaeth yn fawr. Mae’n ddifyr iawn ac mae’n cŵl gweld sut mae pethau’n gweithio. Mae ‘na lawer o agweddau ar yrfa mewn peirianneg sifil yr hoffwn i gael profiad ohonyn nhw.”

Gobaith Ceris yw symud ymlaen i wneud gradd a gwireddu ei huchelgais o fod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.

“Dwi’n credu ei bod yn bwysig bod fy mhrentisiaeth ar gael yn ddwyieithog, achos Cymraeg yw ein hiaith gyntaf ni yng Ngwynedd,” meddai Ceris. “Gwlad fach yw Cymru a dwi’n meddwl ei bod yn bwysig cadw’n hiaith unigryw yn fyw.

“Mae dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r gallu i siarad dwy iaith yn help mawr wrth wneud cais am swydd yng Nghymru.”

Mae wrth ei bodd o gael ei dewis yn Llysgennad Prentisiaid ac meddai: “O fy mhrofiad i, mae prentisiaeth yn well o lawer na mynd i’r brifysgol.

“Dwi’n hoffi ennill cyflog wrth ddysgu yn y gwaith. Rydych chi’n cael profiad gwaith gwerthfawr ac mae cyflogwyr yn chwilio am hynny.

“Dwi’n mwynhau bod yn llysgennad a rhannu cyngor a phrofiad o fod yn brentis. Wrth chwilio am brentisiaeth, dwi’n credu ei bod yn bwysig i chi wneud ymchwil a gofyn i gyflogwyr posibl pa gyfleoedd sydd ar gael i chi.”

Dywedodd Alun Lloyd Williams, Uwch Swyddog Dysgu a Datblygu Cyngor Gwynedd: “Ym marn Cyngor Gwynedd, mae’n hanfodol bwysig bod yr holl brentisiaethau a gynigiwn ar gael yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae pobl yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd ac mae’n rhan hanfodol o’n bywyd ni yma. Mae’n wych bod Ceris yn Llysgennad Prentisiaid sy’n ysbrydoli eraill trwy rannu ei phrofiadau â phobl eraill sy’n ystyried gwneud prentisiaeth.”

Dywedodd Llinos Roberts, Pennaeth yr Iaith Gymraeg yng Ngholeg Cambria: “Rydym ni yng Ngholeg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu ein rhaglenni dwyieithog ac i hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel sgìl werthfawr ym myd gwaith.

“Rydym wrth ein bodd bod Ceris yn hybu’r gwaith hwn yn ei rôl fel Llysgennad, gan weithio’n galed i berswadio prentisiaid eraill i ddatblygu eu sgiliau er mwyn bod yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan: “Mae’n wych bod prentisiaid yn cael y cyfle i ddilyn eu rhaglen hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.
 
“Mae’n bwysig bod gwasanaethau fel hyn yn cael eu cynnig yn ddwyieithog oherwydd mae’n cryfhau’r defnydd a wneir o’r iaith o ddydd i ddydd ac yn sicrhau bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgìl werthfawr ym myd gwaith.
 
“Rydym wedi darparu cyllid i gefnogi Cynllun Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae’n ardderchog gweld pobl yn elwa o’r cynllun. Rwy’n dymuno’n dda i’r prentisiaid sy’n dilyn rhaglenni hyfforddi ac yn gobeithio y cân nhw yrfaoedd hir a llwyddiannus.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —