Hazel Kim, Senior Project Manager, Chinese Autism Support Group Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, NTfW Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol, Anabledd Dysgu Cymru
A ninnau’n agosáu at Wythnos Fyd-eang Derbyn Awtistiaeth (28 Mawrth i 3 Ebrill) rydym yn sylweddoli bod llawer i’w wneud a’i ddysgu am awtistiaeth o hyd. Dylem gael ein calonogi gan y ffaith fod bron 60% o’r prentisiaid hynny sy’n ystyried eu hunain yn anabl (yn 2020/21), yn nodi eu bod yn niwrowahanol.
Bu Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW, Humie Webbe, yn lansiad Llyfryn Dwyieithog Tsieinëeg/Saesneg Cymdeithas y Tsieineaid yng Nghymru (CiWA) ar Awtistiaeth. Nod y llyfryn yw rhoi gwybodaeth syml am awtistiaeth i deuluoedd Tsieineaidd a rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd ac addysg. Paratowyd y llyfryn gan Uwch-reolwr Prosiect CiWA, Hazel Lim, ac mae’n cynnwys ffeithiau i chwalu mythau ac i helpu pobl i ddeall awtistiaeth yn well. Mae hefyd yn amlygu’r stigma a wynebir gan deuluoedd Tsieineaidd lle mae awtistiaeth yn dal yn gysyniad cymharol newydd. Dywed Hazel, ‘Mae angen i gymdeithas newid i fod yn fwy parod i dderbyn pobl awtistig’.
Dywedodd Humie: “Mae’r CiWA yn un o’r sefydliadau rydym am gydweithio â nhw i barhau i geisio deall sut i leihau rhwystrau a denu pobl ag anableddau dysgu o gefndiroedd amrywiol i wneud prentisiaethau”.