Chwalu Rhwystrau i Brentisiaethau trwy Fentora!

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Chwith-Dde: Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW a Tobiloba Owolabi

Ym mis Mai 2018, bron i flwyddyn yn ôl, helpodd y Tîm Cymorth Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig (EYST) i gydgynhyrchu un o’n Digwyddiadau Ymgysylltu â Phrentisiaid (AEE) cyntaf i dargedu menywod o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) oedd yn awyddus i elwa ar gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a gwaith.

Roedd y digwyddiad yn tynnu sylw at y gwahanol heriau y mae menywod BAME yn eu hwynebu wrth geisio cael gwaith, a phwysigrwydd canfod modelau rôl a mentoriaid addas yn y gymuned i ddangos beth y gellir ei gyflawni.

Felly, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW, Humie Webbe, wedi dod yn fentor ar gynllun mentora newydd EYST, BAME Routes to Public Life, sy’n cynnig cyfleoedd i unigolion ddysgu sgiliau cyflogaeth oddi wrth bobl BAME eraill sy’n amlwg mewn bywyd cyhoeddus.

Mae Humie wedi’i pharu â Tobiloba Owolabi, mam sengl sydd wedi cael trafferth dod o hyd i waith ers iddi ddod i Brydain o Nigeria dros bum mlynedd yn ôl. Mae Tobi’n awyddus i gael prentisiaeth gyda Llywodraeth Cymru ac meddai, ‘Rwy’n teimlo mai prentisiaeth yw’r ffordd ymlaen achos un o’r rhesymau na allaf gael swydd dda yw nad oes gen i brofiad o weithio yma. Felly, os gwnaf i gychwyn fel prentis, bydd yn ffordd i mi gael fy nhroed yn y drws a chael profiad i’m helpu i symud ymlaen.

Mae Humie’n teimlo’n gyffrous am ei gwaith mentora ac meddai ‘Mae’n anrhydedd mawr cael mentora rhywun a’u harwain ar eu taith mewn gyrfa. Rwy’n siŵr y daw Tobi’n llysgennad gwych dros brentisiaethau!’

Bydd y prosiect mentora’n rhedeg o fis Chwefror tan fis Gorffennaf 2019 ac ymhlith y mentoriaid amlwg eraill mae Vaughan Gething (AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol); yr Athro Emmanuel Ogbonna (Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd); a Tonia Antoniazzi (AC) i enwi dim ond ychydig.

Dywedodd Swyddog Ymchwil a Pholisi EYST, Ginger Weigard: “Rydym mor lwcus o gael Humie fel mentor. Bydd yn gallu rhoi cwrs carlam i Tobi ym myd polisi yng Nghymru trwy gwrdd â phobl go iawn. Bydd hyn yn ychwanegu at sgiliau Tobi ym maes cyfathrebu cyhoeddus. Fel mentor, mae Humie yn gwneud cyfraniad ardderchog at feithrin arweinwyr y dyfodol yng Nghymru.”

Bydd Tobi’n cysgodi Humie mewn rhai o gyfarfodydd a digwyddiadau NTfW a bydd yn cael sesiynau mentora un-i-un. Mae pawb ohonom yn dymuno’n dda i Tobi ar ei thaith i fod yn brentis!

eyst.org.uk

More News Articles

  —