Llwyddiant i bawb yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ben Thomas enillydd gwobr aur am hyfforddi

Yn ystod y mis, bydd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n dod i ben ac mae myfyrwyr, prentisiaid a phobl ifanc ar hyd a lled y genedl wedi cael llwyddiant yn ei sgil.

Fe wnaeth 1200 a mwy o fyfyrwyr gystadlu mewn 51 o gystadlaethau ym mhob cwr o Gymru, a chafwyd 71 medal aur ar draws y categorïau.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Cymru, yn gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir mewn colegau ledled y wlad, a’i nod yw dathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithwyr medrus a thalentog ar gyfer y gweithlu yng Nghymru.

Bu myfyrwyr, prentisiaid a phobl ifanc yn cystadlu ar draws amrywiaeth eang o alwedigaethau gwahanol o weldio i gyfrifyddiaeth, o ffotograffiaeth i drin gwallt.

Mae’r rhai a fu’n llwyddiannus yn cael y cyfle i fod ar y rhestr fer ar gyfer Carfan y DU, gan gystadlu yn erbyn pobl ifanc mwyaf talentog y byd yn rownd derfynol cystadleuaeth ryngwladol WorldSkills a gynhelir yn Shanghai, Tsieina yn 2021.
Bu Ben Thomas, sy’n 21oed, ac yn astudio cwrs hyfforddi ffitrwydd lefel dau, yn cystadlu’n erbyn 17 o fyfyrwyr eraill o bob cwr o Gymru.

Meddai Ben: “Roedd cystadlu yng nghystadleuaeth yr hyfforddwr y llynedd yn llwyddiant mawr i mi ac wedi dod â mi’n agosach at gyflawni fy nod o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl.

“Y llynedd, ro’n i’n cael trafferthion gyda fy iechyd corfforol a meddyliol ac fe wnes i droi at ffitrwydd. Fe ges i hyfforddwr personol, Zac Hearne, a helpodd fi i golli tair stôn mewn tri mis. Cafodd hyn effaith gadarnhaol mawr ar fy iechyd meddwl.

“Mae gallu gwneud yr un gwahaniaeth gyda phobl eraill yn rhywbeth dwi am ei gyflawni yn y dyfodol drwy hyfforddiant personol.

“I fi, mae’r cyfan yn ymwneud â gwthio pobl i gyflawni pethau mawr a dangos i bobl eu bod yn gallu gwneud unrhyw beth os ydyn nhw’n rhoi eu meddwl ar waith ac anelu’n uchel.”

Kaisha Madeley, enillydd gwobr aur ym maes awto-dechnoleg

Bu Kaisha Madeley, 18 oed, sy’n astudio cerbydau, yn cystadlu’n erbyn 31 o fyfyrwyr eraill o bob cwr o Gymru.
Meddai Kaisha: “Mae cystadlu ym maes technoleg ceir wedi fy nysgu i weithio ar fy mhen fy hun ac mae gen i hyder yn fy ngallu i gwblhau tasgau gan ddysgu sut i ganolbwyntio mewn amgylchedd cystadleuol yr un pryd.

“Roedd y tasgau’n cynnwys rhai diagnostig ar injans, archwilio cerbyd, asesu namau trydanol a thynnu gêrs.
“Fe ddechreuais i fy mhrentisiaeth gyda Gwasanaethau Ambiwlans a Thân Cymru wythnos ar ôl y gystadleuaeth ac mae’r profiad a gefais yn y gystadleuaeth wedi fy helpu’n fawr pan fyddaf yn archwilio a thrwsio cerbydau ambiwlans ar y safle.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddigwyddiad o bwys sy’n caniatáu i bobl ifanc o Fôn i Fynwy brofi eu sgiliau, gan feithrin eu rhagoriaeth a’u profiadau mewn meysydd amrywiol gyda’r cyfle i gystadlu ar lefel y DU ac yn rhyngwladol wedyn.

“Roedd yn rhoi cyfle hefyd i gyflwyno’r holl dalent sydd gennym ni yma yng Nghymru, a dathlu’r cwmnïau Cymreig hynny sy’n meithrin ac yn elwa cymaint ar weithwyr medrus a dawnus. Mae sicrhau bod gan Gymru’r sgiliau angenrheidiol i sicrhau llwyddiant economaidd yn flaenoriaeth bersonol gen i erioed a Llywodraeth Cymru’n ehangach, ac mae’n wych gweld sgiliau’n cael cydnabyddiaeth fel hyn.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cystadlu eleni a llongyfarchiadau hefyd i’r rhai a gipiodd fedal aur. Pob lwc i’r enillwyr yng ngham nesaf y gystadleuaeth ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn ffynnu yn yr yrfa o’u dewis.”

Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau ybg Nghymru

More News Articles

  —