Cwmni gêrs arbenigol o’r Canolbarth yn ennill gwobr genedlaethol o bwys

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr cynhyrchu Compact Orbital Gears, Rob Price gyda’r prentisiaid Ruben Clements, Rowan Morgan, Ollie Leadbetter a Luke Jones, sydd wedi cwblhau ei brentisiaeth.

Mae cwmni peirianneg o’r Canolbarth, sydd wedi datblygu gweithlu hyblyg â sgiliau amrywiol gan ddod yn enw blaenllaw yn y diwydiant gêrs arbenigol ers dros hanner canrif, wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys.

Enillodd Compact Orbital Gears, sy’n cyflogi 43 yn Rhaeadr Gwy, wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Mae’r cwmni’n dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu gêrs pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni glân. Y gallu hwn i gynnig cynnyrch wedi’i gynllunio’n arbennig yw’r allwedd i lwyddiant y cwmni.

Dywedodd Tricia Evans, rheolydd ariannol Compact Orbital Gears, fod y cwmni’n hapus iawn o gael ei gydnabod am ei ymrwymiad i ddarparu prentisiaethau o safon uchel.

“Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi ennill y wobr achos mae’n cydnabod ymroddiad pawb yn y cwmni sy’n ymwneud â’r Rhaglen Brentisiaethau,” meddai.

“Mae’n gamp enfawr i gwmni bach o’r Canolbarth ddod i’r brig am gyflogi prentisiaid yn y gymuned ac mae’n glod i bawb sy’n ymwneud â’r rhaglen, yn cynnwys Myrick Training a Grŵp Colegau NPTC.

“Mae prentisiaid yn hollol hanfodol i’n busnes ni. Rydym yn gorfod meithrin ein gweithwyr medrus ein hunain yma yn y Canolbarth, gan gefnogi’r gymuned leol.”

Roedd y gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori ar 17 Mehefin.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 5,645 o bobl ledled y Canolbarth wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Sefydlwyd Compact Orbital Gears yn yr 1960au ac mae’n ymfalchïo yn ei weithlu medrus, ei ysbryd teuluol a’i hanes maith o gyflogi prentisiaid o’r Canolbarth.

Ar hyn o bryd mae gan y cwmni dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach. Mae Myrick Training a Grŵp Colegau NPTC, Campws y Drenewydd yn darparu cymwysterau ym meysydd peirianneg, a busnes a gweinyddu.

Mae’r penderfyniad i ganolbwyntio ar ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn talu’r ffordd i Compact Orbital Gears mewn cyfnod o brinder ledled Prydain. Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n cynnig hyfforddiant technegol, gyda chyfarwyddyd arbenigol gan weithwyr profiadol yn y cwmni sy’n rhannu eu sgiliau a’u gwybodaeth gyda’r prentisiaid.

Gan fod Compact Orbital Gears yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu, mae’r staff yn tueddu i aros yn hir a nod hirdymor y cwmni yw cyflwyno peiriannau cyfrifiadurol, modern, a fydd yn ddelfrydol ar gyfer helpu prentisiaid i ddatblygu.

Ym marn y cwmni, mae twf organig yn allweddol i’w lwyddiant, ac mae’n cynnig lleoliadau gwaith i raddedigion ac i ddarpar beirianwyr o ysgolion yr ardal.

Wrth longyfarch Compact Orbital Gears, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —