Un o Wobrau Prentisiaethau Cymru i Bethany, swyddog gwasanaethau profedigaeth

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bethany Mason, enillydd gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Mae prentis swyddog gwasanaethau profedigaeth o’r enw Bethany Mason wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys oherwydd ei pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb o dan amgylchiadau anodd.

Mae Bethany, 21, o Llantrisant, yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.

Ers i’r ferch ifanc swil ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel prentis clerc mewnbynnu data yn 2016, mae Bethany, wedi llwyddo i oresgyn nifer o heriau anodd, gan wneud gwahaniaeth enfawr i staff Amlosgfa Glyn-taf ger Pontypridd a’r teuluoedd galarus sy’n defnyddio’r amlosgfa.

Mae wedi ymroi i’w datblygiad personol, gan gwblhau Prentisiaeth Sylfaen ac, erbyn hyn, mae bron â chwblhau NVQ lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, y ddau gymhwyster wedi’u darparu gan Goleg y Cymoedd, Campws Nantgarw.

Wrth ymateb i’w llwyddiant, dywedodd Bethany: “Mae’n wych cael ennill y wobr sy’n dangos bod gwaith caled yn werth y drafferth. Rhaid i fi ddiolch i fy rheolwyr a fy hyfforddwyr am eu holl gefnogaeth.

“Rwy’n bwriadu manteisio ar bob cyfle a gaf yn y dyfodol a byddwn i’n sicr yn argymell prentisiaeth achos mae’n eich helpu i ddatblygu’r sgiliau y mae arnoch eu hangen yn eich gwaith.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Trwy gydweithio’n agos â’i rheolwr, Ceri Pritchard, mae Bethany wedi meithrin sgiliau arwain ac wedi helpu i sicrhau bod Amlosga Glyn-taf yn rhedeg yn esmwyth trwy ddigideiddio a chanoli cofnodion claddu a chynlluniau mynwentydd ar gyfer mynwentydd Rhondda Cynon Taf.

Yn ogystal, helpodd i gyflwyno porth digidol i ganfod cerddoriaeth ar gyfer gwasanaethau amlosgi, ynghyd â gweddarllediadau a theyrngedau gweledol. Bu’r rhain yn eithriadol o bwysig wrth gynnal angladdau o dan gyfyngiadau’r pandemig.

Mae ei gwaith wedi helpu’r amlosgfeydd i redeg yn fwy effeithlon ac wedi helpu trefnwyr angladdau a phobl sy’n ymchwilio i hanes eu teulu.

Ychydig ar ôl iddi gael secondiad i’r tîm gwasanaethau profedigaeth yn Amlosgfa Llwydcoed, aeth dau o gydweithwyr Bethany’n sâl a bu’n rhaid iddi ddysgu sgiliau newydd yn gyflym er mwyn iddi hi a’i rheolwr allu rheoli’r llwyth gwaith cymhleth a chynnig gwasanaeth da a dymunol i deuluoedd.

“Yn ogystal â rhoi’r sgiliau i mi wneud fy ngwaith mewn ffordd broffesiynol a chydwybodol, mae’r brentisiaeth wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol a delio â gwahanol sefyllfaoedd,” meddai Bethany.

“Mae wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder, fy hunan-fri a’m sgiliau ac rwy’n ymfalchïo yn safon fy ngwaith.”

Wrth longyfarch Bethany, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —