Prentisiaethau dan sylw yng nghynhadledd flynyddol ffederasiwn hyfforddiant

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Rôl hanfodol prentisiaethau wrth ddatblygu gweithlu o’r safon uchaf i sicrhau twf economaidd yng Nghymru fydd yn cael y prif sylw mewn cynhadledd wanwyn a drefnir gan y corff Cymreig sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Cynhelir cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ar y thema ‘Prentisiaethau: Hybu twf economaidd a chynlluniau i arloesi yn y dyfodol’, yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Mawrth.

Agored Cymru, y corff dyfarnu ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yw noddwr pennaf y gynhadledd. Mae City & Guilds yn noddwr cyswllt.

“Mae’n bleser gan Agored Cymru fod yn noddwr pennaf Cynhadledd NTFW. Creu cymwysterau galwedigaethol dwyieithog o’r radd flaenaf a fframweithiau prentisiaethau i sbarduno twf economaidd ac annog arloesi yng Nghymru yw ein blaenoriaeth strategol, meddai Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru, a fydd yn un o’r siaradwyr.

“Rydym yn falch o gael gweithio gyda darparwyr mor ymroddedig ac angerddol i sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth a’r sgiliau i wireddu eu dyheadau o ran gyrfa ac i gyfrannu at economi lewyrchus a ffyniannus.”

Ymhlith y siaradwyr mae Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Luke Fletcher, AS, cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Brentisiaethau, Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol polisi gyda Medr, a Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru.

Bydd y siaradwyr eraill yn cynnwys Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW ac Angharad Lloyd Beynon, rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau City & Guilds yn y cenhedloedd ac Iwerddon.

Caiff gweithdai eu rhedeg gan Estyn, Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu, Cymwysterau Cymru, Panda Education and Training, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Cyngor y Gweithlu Addysg a Future Digital Education.

Rhoddir sylw hefyd i brentisiaid a chyn-brentisiaid a fydd yn sôn am eu profiad eu hunain o’r ffordd mae prentisiaethau wedi helpu eu gyrfaoedd.

“Yn ein heconomi fyd-eang sy’n esblygu’n barhaus, mae’n hollbwysig cael gweithlu medrus a hyblyg,” meddai cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton. “Mae prentisiaethau’n chwarae rhan hanfodol yn pontio’r bwlch sgiliau, gan gynnig profiad ymarferol, a meithrin y gallu i arloesi.

“Gobeithio y bydd pawb sydd â diddordeb mewn dysgu seiliedig ar waith yn ymuno â ni i archwilio gallu prentisiaethau i drawsnewid bywydau ac i drafod strategaethau i sicrhau’r effaith fwyaf ar ein heconomi a’n cymdeithas.

“Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni ddatblygu llif cyson o dalent – o brentisiaethau trwodd i addysg uwch – er mwyn sicrhau’r twf economaidd y mae ar Gymru ei wir angen.

“Byddwn yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a Medr i roi eu blaenoriaethau ar waith.”

Bargen Gynnar
Rhoddir gostyngiad bargen gynnar i rai sy’n cadw lle erbyn dydd Gwener, 14 Chwefror.

Pecynnau Nawdd
Cynigir pecynnau nawdd ar sawl lefel a pho gyntaf y gwnewch drefniant i noddi, mwyaf o gyfleoedd a gewch.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —