Rhaglen Brentisiaethau’n ennill gwobr genedlaethol i gwmni cyfreithiol sy’n tyfu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr gyfarwyddwr Convey Law, Lloyd Davies, gyda Sophia Ramzan sy’n diwtor prentisiaid a Sean McCarthy, prentis.

Enillodd cwmni cyfreithwyr Convey Law o Gasnewydd un o Wobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar ôl plesio’r beirniaid â’i gynlluniau uchelgeisiol i dyfu hyd at 50% eleni gyda help Rhaglen Brentisiaethau ddyfeisgar.

Y cwmni hwn, sy’n bwriadu dysgu dros 50 o drawsgludwyr newydd dan hyfforddiant dros y flwyddyn nesaf â’i Raglen Brentisiaethau fewnol, a enillodd wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo rithwir ar 17 Mehefin.

Aeth Convey Law ati i ddatblygu llwybr prentisiaethau “trawsnewidiol” ar ôl cael anhawster i recriwtio digon o drawsgludwyr ar gyfer twf y busnes.

Mewn ymateb i’r wobr, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Convey Law, Lloyd Davies: “Mae pawb ohonom yn teimlo’n wylaidd iawn o gael ein cydnabod am waith gwych ein tîm yn datblygu ein rhaglen brentisiaethau a’n cyrsiau hyfforddi.

“Pan wnaethom ni benderfynu gweithredu gan na allem gyflogi digon o staff profiadol fel y gallem dyfu, doeddem ni ddim yn breuddwydio y byddai ein hacademi hyfforddi a’n cyrsiau hyfforddi yn ein harwain ar hyd llwybr mor anhygoel a fyddai’n rhoi cymaint o foddhad i ni. Mae’n golygu ein bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o bobl yma yng Nghymru.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Gwelodd Convey Law ei bod yn fwy buddiol hyfforddi ei weithwyr ei hunan yn y dulliau diweddaraf a’u helpu i ddatblygu mewn ffordd sy’n adlewyrchu gwerthoedd a dulliau gweithredu’r cwmni.

Yn 2014, sefydlodd y cwmni The Conveyancing Academy, sydd â phartneriaeth gyllido â Choleg Caerdydd a’r Fro, i ddarparu cyrsiau i’r diwydiant trawsgludo ehangach yng Nghymru a Lloegr.

Caiff prentisiaid wneud Prentisiaeth Trawsgludwr Gweithredol a Phrentisiaeth Uwch Technegydd Trawsgludo cyn cymhwyso yn Drawsgludwr Trwyddedig Rheoledig Lefel 6 wrth weithio mewn amgylchedd trawsgludo proffesiynol am dair neu bedair blynedd.

“Rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o bractisiau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr yn mabwysiadu ein Llwybr Trawsgludo ni dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hynny’n hwyluso’r ffordd i filoedd o Drawsgludwyr Trwyddedig ifanc ennill cymwysterau proffesiynol,” meddai James Smith, rheolwr datblygu busnes yn The Conveyancing Academy.

O ganlyniad i fuddsoddi yn ei Raglen Brentisiaethau ei hunan cafodd Convey Law ganlyniadau ardderchog gyda sgoriau Trustpilot a dulliau eraill o fesur gwasanaeth i gleientiaid yn codi o 78% i 90%.

Bu’r rhaglen yn help i’r cwmni gyrraedd ei dargedau recriwtio gyda nifer y trawsgludwyr yn codi o 25 yn 2019 i 55 yn 2020. Dyblwyd nifer y prentisiaid o 15 i 30 mewn blwyddyn.

Wrth longyfarch Convey Law, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —