Gwobr genedlaethol i ddysgwraig a symudodd o Affrica i gychwyn bywyd newydd yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Jessica Apps, Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu)

Mae merch ifanc sy’n anelu at yrfa fel athrawes ar ôl symud o Affrica i gychwyn bywyd newydd yn ne Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys.

Jessica Apps, 19, o Forgeside, Blaenafon, a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.

Er bod ganddi gymwysterau cyfatebol i TGAU pan ddaeth i Brydain o Botswana, doedd Jessica ddim yn cael mynd i goleg ac felly collodd ei hyder ac roedd yn teimlo’n unig tan iddi ymuno â Sgiliau Cyf sydd wedi’i disgrifio fel esiampl ddisglair.

Roedd dilyn Rhaglen Ymgysylltu Creadigol ar Hyfforddeiaeth yn fodd i Jessica ddatblygu ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol a bu hynny’n hwb i’w hyder. Yn ogystal, gwnaeth Wobr Efydd Dug Caeredin a gwneud llawer o ffrindiau newydd.

Yn awr mae’n astudio ar gyfer Lefel A mewn Cymdeithaseg, Ffotograffiaeth a Llenyddiaeth yng Ngholeg Gwent ac mae’n gobeithio mynd i’r brifysgol i astudio cymdeithaseg a mynd yn athrawes.

Mewn ymateb i’w llwyddiant, dywedodd Jessica: “Mae’r wobr hon yn golygu cymaint i mi. Roeddwn yn nerfus iawn cyn symud i Gymru ac ro’n i’n poeni a oeddwn i’n gwneud y peth iawn. Mae’r wobr yn dangos fy mod i yn gwneud rhywbeth yn iawn.

“Mae Sgiliau Cyf a fy nheulu wedi fy nghefnogi a fy ysgogi i gyflawni fy mhotensial. Roedd gwneud Hyfforddeiaeth yn sicr yn werth chweil gan ei fod wedi newid fy mywyd yma yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol ym mis Medi.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Mae Jessica, a symudodd i Gymru gyda’i mam a’i chwaer iau, yn awyddus i barhau i wirfoddoli gyda Sgiliau Cyf er mwyn helpu pobl ifanc eraill sy’n teimlo wedi ymddieithrio oddi wrth addysg a gwaith fel yr oedd hi ar un adeg.

“Alla i ddim diolch digon i Sgiliau am fy helpu i ddatblygu i’r person ydw i heddiw,” meddai. “Rwy wedi bod yn awyddus i helpu pobl erioed ac rwy wir yn mwynhau gwirfoddoli gyda’r cwmni. Mae hynny wedi rhoi hwb i fy awydd i fod yn athrawes.”

Wrth longyfarch Jessica, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —