Cwmni awyrofod o Lannau Dyfrdwy yn llwyddo ddwywaith yng Ngwobrau VQ

Postiwyd ar gan karen.smith

VQ Awards winners and finalists 2017

VQ Awards winners and finalists 2017

English | Cymraeg

Cafodd Electroimpact UK Ltd, busnes peirianneg awyrofod o Lannau Dyfrdwy, lwyddiant dwbl yn seremoni’r Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) neithiwr (nos Fawrth).

Enillodd y cwmni o Benarlâg wobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn ac enillodd Matthew Booth, ei bennaeth gweithgynhyrchu, wobr Hyfforddwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd, y noson cyn Diwrnod VQ ar Fehefin 7.

Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru a Cymwysterau Cymru sy’n trefnu Gwobrau VQ – gwobrau sy’n dathlu’r rheini sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i lwyddo. Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop sy’n ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.

Enillydd gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (lefel canolradd) oedd Alys Evans, 18, o Gilfach Goch, myfyrwraig Teisennau a Melysion yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw. Aeth gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (lefel uwch) i Julie Mundy o Seren Cyf, Blaenau Ffestiniog, a enwebwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae buddsoddi mewn dysgu seiliedig ar waith wedi helpu Electroimpact UK Ltd i gynyddu maint ei weithdy 50 y cant yn fwy na’r bwriad ac wedi arwain at wobrau cenedlaethol a rhyngwladol i’w brentisiaid medrus.

Bedair blynedd yn ôl penderfynodd y cwmni ymroi yn llwyr i sicrhau bod ei weithwyr yn gallu ennill cymwysterau galwedigaethol. Cwblhaodd Matthew Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth ei hun fel y gallai arwain drwy esiampl cyn cyflwyno’r hyfforddiant i brentisiaid a gweithwyr.

Mae pump o’r 10 gweithiwr yn ystafell beiriannau’r cwmni, sy’n cyflogi 150 o staff, yn gweithio tuag at ennill cymwysterau galwedigaethol.

“Mae hyfforddiant galwedigaethol wedi ein galluogi i greu gweithlu hynod fedrus. Mae ein prentisiaid medrus wedi mynd yn eu blaenau i ennill cystadlaethau cenedlaethol ynghyd â rhai rhyngwladol wrth gynrychioli ein cwmni a’n gwlad,” ychwanegodd Matthew.

Bu gan Electroimpact UK Ltd brentisiaid yng nghystadlaethau WorldSkills dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ennill dwy fedal aur, un arian ac un efydd. Aeth un prentis i rownd derfynol EuroSkills yn Sweden, gan ennill medaliwn rhagoriaeth.

Mae’r cwmni wedi gweithio â’r darparwr hyfforddiant Coleg Cambria i roi ei hyfforddiant. “Mae Electroimpact yn fodel o sut y dylai cwmni ddefnyddio hyfforddiant galwedigaethol,” meddai Vicky Barwis, un o gyfarwyddwyr Coleg Cambria.

“Er eu bod yn rhan o gr?p bychan, mae’r prentisiaid yn cael hyfforddiant o’r radd flaenaf a mentora a hyfforddiant ychwanegol er mwyn rhagori mewn cystadlaethau sgiliau yn ogystal â sicrhau marciau uchel yn eu cymwysterau.”

Dechreuodd Matthew, o Frymbo ger Wrecsam, ei yrfa fel prentis gwneuthurwr offer 20 mlynedd yn ôl, a dilynodd hyfforddiant wrth ddatblygu ei yrfa. Mae wedi cael ei achrediad EngTech drwy IMechE ac wedi gweithio hefyd gyda SEMTA, corff sy’n hyrwyddo pynciau STEM yn y DU, i ddatblygu cymhwyster Meistr Crefft.

Mae brwdfrydedd a sgiliau Alys Evans wrth bobi ac addurno cacennau wedi ei harwain ar lwybr gyrfa llwyddiannus, a hwnnw wedi mynd â hi i Barcelona i wneud profiad gwaith mewn siop deisennau Siapaneaidd/Catalanaidd.

Mae hi’n gweithio tuag at ennill cymhwyster lefel tri mewn Teisennau a Melysion yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw, ac yn breuddwydio am redeg ei busnes symudol ei hun yn gwerthu cacennau a theisennau bach, ynghyd â siop deisennau a becws.

Mae hi wedi ennill llu o wobrau aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, yn ogystal â medal aur City & Guilds am gyflawniad rhagorol a medal aur Cake International yn Llundain.

Enillodd wobr o £1,000 hefyd i’w helpu i ddatblygu ei sgiliau pobi ac addurno a pharatoi at yrfa yn y diwydiant yn y dyfodol.

Dywedodd Lesley Cottrell, hyrwyddwr entrepreneuriaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Alys yn parhau i’n rhyfeddu. Nid talent pobi yn unig sydd ganddi, ond craffter busnes hefyd.”

Dywedodd Alys: “Rwyf wrth fy modd yn pobi, yn addurno ac yn helpu pobl eraill i wella eu sgiliau, a byddai’n freuddwyd cael rhedeg fy musnes symudol fy hun yn gwerthu cacennau a theisennau bach, ynghyd â siop deisennau a becws.”

Mae Julie Mundy, 52, wedi troi’r siom o golli ei swydd yn gyfle i ddilyn gyrfa newydd lewyrchus gyda Seren Cyf, sy’n helpu oedolion sydd ag anableddau dysgu.

Mae’r fam i dri o Finffordd, ger Porthmadog, yn arweinydd ar dîm o wyth yn yr uned ailgylchu dodrefn a thecstilau a gaiff eu casglu o’r gymuned yn ardal Blaenau Ffestiniog, ac mae ei brwdfrydedd dros ddysgu gydol oes wedi’i harwain i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Systemau a Rheoli Gweithrediadau.

Bum mlynedd yn ôl, pan oedd hi’n un o’r gweithwyr a gollodd eu swyddi yn Gelert ym Mhorthmadog, fe’i gorfodwyd i ddod o hyd i waith newydd. “Roedd yn gyfle i ddod o hyd i rywbeth roeddwn i wir am ei wneud, oherwydd wnes i ddim meddwl go iawn am yrfa wrth fagu fy mhlant,” meddai.

“Roedd y cyfle i ailgylchu dodrefn yn Seren Cyf yn apelio’n fawr, ac roeddwn i hefyd am helpu pobl sydd ag anawsterau dysgu.”

Mae hi’n falch mai hi yw’r ddysgwraig gyntaf gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian i gwblhau’r Diploma Lefel 4 mewn Systemau a Rheoli Gweithrediadau, a hithau wedi gwneud hynny mewn llai na dwy flynedd.

Cafodd yr holl enillwyr, ynghyd â’r rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol, eu llongyfarch gan Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth. “Mae cael gwobr VQ – gwobr yn y maes Cymwysterau Galwedigaethol – yn symbol o ymroddiad i’ch proffesiwn chi,” meddai. “Mae’r gwobrau yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr, dysgwyr a hyfforddwyr yng Nghymru sydd eisoes yn cymryd camau ychwanegol i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Os yw economi Cymru i barhau i dyfu, yna rhaid inni sicrhau bod gweithwyr, unigolion, darparwyr hyfforddiant a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau cywir i sicrhau llwyddiant, a hynny er mwyn rhoi i Gymru weithlu o’r radd flaenaf.

“Ni fu cymwysterau galwedigaethol erioed mor bwysig i’r economi ac i unigolion, gan eu bod yn darparu’r gweithwyr hyfforddedig a thalentog y mae busnesau mor awyddus i’w cael, a chan eu bod hefyd yn sicrhau bod gan unigolion y sgiliau i lwyddo yn y byd addysg a’r byd gwaith.”

Y lleill a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd: Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Canolradd): Jason Hyam, 34, o Gaerdydd, sy’n gweithio i Arthur J. Gallagher, Llantrisant, a enwebwyd gan Acorn Learning Solutions a Maria Brooks, 29, o’r Ford Motor Company, Pen-y-bont ar Ogwr, a enwebwyd gan Goleg Penybont. Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Uwch): Christine Thomas o adran rheoli gwastraff Cyngor Dinas Casnewydd a enwebwyd gan Safe and Secure Training a Mitchell Rees, 21, o Ferthyr Tudful, a enwebwyd gan Goleg Penybont. Hyfforddwr VQ y Flwyddyn: Gwenno Jones, 28, o Portal Training, Caerdydd a Lisa Winter o Arthur J. Gallagher, Llantrisant, a enwebwyd gan Acorn Learning Solutions, Casnewydd. Cyflogwr VQ y Flwyddyn: Arthur J. Gallagher, Llantrisant, a enwebwyd gan Acorn Learning Solutions a Mainetti, Wrecsam, a enwebwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.

Yn y llun:
Enillwyr a Rhestr fer Gwobrau VQ 2017

More News Articles

  —