Y dwsin sydd ar restr fer Gwobrau VQ ar fin darganfod eu ffawd

Postiwyd ar gan karen.smith

Mitchell Rees a finalist for the VQ Learner of the Year (Higher) award.

Mitchell Rees sydd ar y rhestr fer am y Wobr VQ Dysgwr (Uwch) y Flwyddyn.

English | Cymraeg

Bydd y deuddeg sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn darganfod nos Fawrth (Mehefin 6) a ydynt wedi ennill un o Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) eleni – gwobrau sy’n dathlu’r rheini o bob rhan o Gymru sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i lwyddo.

Byddant yn cystadlu am y gwobrau mawreddog mewn pedwar categori, a hynny mewn seremoni sydd i’w chynnal yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd, y noson cyn Diwrnod VQ ar Fehefin 7.

Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru a Cymwysterau Cymru sy’n trefnu Gwobrau VQ. Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop sy’n ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.

Mae Gwobrau Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos dilyniant a rhagoriaeth glir mewn dysgu galwedigaethol ac sydd wedi cyflawni’n sylweddol yn eu meysydd.

Y rheini sydd yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (lefel canolradd) – sef y wobr i ddysgwyr sydd â chymwysterau hyd at lefel tri – yw:

Alys Evans, 18, o Gilfach Goch, sy’n gweithio tuag at ennill cymhwyster lefel tri mewn Teisennau a Melysion yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw, ac yn breuddwydio am redeg ei busnes symudol ei hun yn gwerthu cacennau a theisennau bach, ynghyd â siop deisennau a becws. Mae hi wedi ennill llu o wobrau aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, yn ogystal â medal aur City & Guilds am gyflawniad rhagorol a medal aur Cake International yn Llundain.

Enwebwyd Jason Hyam, 34, o Gaerdydd, sy’n gweithio i Arthur J. Gallagher yn Llantrisant, gan Acorn Learning Solutions. Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol, mae Jason wedi symud o fod yn weinyddwr cyfrifon llwyddiannus i fod yn rheolwr busnes sy’n delio ag yswiriant masnachol, ac mae bellach yn astudio am Ddiploma mewn Yswiriant.

Mae Maria Brooks, 29, o’r Ford Motor Company ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a enwebwyd gan Goleg Penybont, yn mynd am y dwbl, ar ôl iddi gael ei henwi’n Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau y llynedd. Ymunodd â’r Ford Motor Company yn 2011 ar ôl ei chael yn anodd datblygu gyrfa mewn cemeg fforensig, sef ei phwnc gradd. Ym mis Awst, mae’n disgwyl cwblhau prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw Trydanol, ac ar yr un pryd mae’n dilyn BEng mewn gradd Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu a HENC mewn Peirianneg Drydanol yng Ngholeg Penybont.

Y rheini sydd yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (lefel uwch) – sef y wobr am gymwysterau lefel pedwar ac uwch – yw:

Christine Thomas, sydd wedi gweithio i adran rheoli gwastraff Cyngor Dinas Casnewydd ers 27 mlynedd, gan ddatblygu o fod yn glerc iau i fod yn rheolwr gorfodi a masnach. Mae hi wedi cwblhau prentisiaeth a phrentisiaeth uwch mewn Systemau a Rheoli Gweithredol gyda’r darparwr hyfforddiant Safe and Secure Training, ac wedi dod yn asesydd. Yn sgil ei brwdfrydedd dros hyfforddiant, mae sawl un o’i chydweithwyr wedi penderfynu dilyn prentisiaethau hefyd.

Mae Julie Mundy o Seren Cyf, Blaenau Ffestiniog, wedi troi’r siom o golli ei swydd yn gyfle i ddilyn gyrfa newydd lewyrchus gydag elusen yn y gogledd sy’n helpu oedolion sydd ag anableddau dysgu. Mae hi’n arweinydd tîm yn yr uned ailgylchu dodrefn yn Seren Cyf, ac mae ei brwdfrydedd dros ddysgu gydol oes wedi’i harwain i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Systemau a Rheoli Gweithrediadau, a hynny gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian.

Roedd Mitchell Rees, 21, o Ferthyr Tudful ac a enwebwyd gan Goleg Penybont yn torri cwys newydd wrth astudio yn y maes addysg uwch a mentro i’r byd marchogaeth. Yn hytrach na dilyn llwybr Safon Uwch, canolbwyntiodd ar addysg alwedigaethol, gan astudio am gymwysterau marchogaeth ar lefelau addysg bellach ac addysg uwch. Ar ôl cael Diploma Estynedig Lefel 3 mewn rheoli Ceffylau a HND mewn Astudiaethau Ceffylau, mae bellach yn fyfyriwr TAR.

Y rheini sydd yn y rownd derfynol yng Ngwobr Hyfforddwr VQ y Flwyddyn, sef gwobr sy’n cydnabod hyfforddwyr unigol sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig wrth helpu dysgwyr yn y gweithle i ragori, a hynny gan wella eu sgiliau a’u gwybodaeth eu hunain ar yr un pryd, yw:

Gwenno Jones, 28, o Portal Training, Caerdydd, sy’n canolbwyntio ar helpu a herio dysgwyr i gyflawni eu potensial. Mae’r cyn-bennaeth ffiseg mewn ysgol uwchradd bellach yn ysbrydoli pobl eraill i ddysgu, a hithau’n hyfforddwraig prentisiaethau lefel uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheoli. Mae ei dulliau o fentora sy’n unigryw i bob person, ynghyd â’r cymorth dwyieithog y mae’n ei roi, yn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu hamcanion mewn ffordd sy’n addas iddynt hwy fel unigolion.

Enwebwyd Lisa Winter, o Arthur J. Gallagher yn Llantrisant, sef cwmni yswiriant a rheoli risg, gan Acorn Learning Solutions, Casnewydd. Cyflawnodd 98% o’i dysgwyr eu fframwaith llawn yn 2015-16. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi ennill pedwar cymhwyster ei hun, gan gynnwys y Diploma Lefel 4 CII a Gwobr Lefel 4 mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol.

Enwebwyd Matthew Booth, sy’n arwain hyfforddiant galwedigaethol yn Electroimpact UK Ltd, Penarlâg, gan Goleg Cambria, Wrecsam. Mae’n credu mewn arwain drwy esiampl a dilynodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth cyn disgwyl i uwch brentisiaid yn y cwmni ddilyn cymwysterau galwedigaethol eu hunain. Mae’r rheini wedyn wedi ennill gwobrau am wneud hynny.

Y rheini sydd yn y rownd derfynol yng Ngwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn, sef gwobr sy’n canolbwyntio ar gyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud gwir gyfraniad tuag at wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol, yw:

Arthur J. Gallagher, Llantrisant, a enwebwyd gan Acorn Learning Solutions, Casnewydd. Mae twf mawr yn y cwmni yswiriant a rheoli risg hwn dros y pum mlynedd ddiwethaf – cwmni sydd wedi ennill llu o wobrau – wedi’i sbarduno gan raglen brentisiaethau. Mae 75 o weithwyr wedi cwblhau prentisiaethau yn ystod y cyfnod hwnnw ac mae 37 arall ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ennill cymwysterau. Mae refeniw’r cwmni wedi cynyddu o £3.56 miliwn yn 2012 i £8.4 miliwn a nifer y staff wedi codi o 68 i 155, a hynny yn ei safleoedd yn Llantrisant, Caerdydd, Casnewydd a Thonysguboriau.

Enwebwyd Electroimpact UK Ltd, Penarlâg gan Goleg Cambria. Ers i’r cwmni peirianneg awyrofod hwn ymroi’n llwyr i gymwysterau galwedigaethol bedair blynedd yn ôl, mae wedi tyfu’n sylweddol, ac mae’n dweud mai’r hyfforddiant a roddwyd i’w staff sy’n uniongyrchol gyfrifol am hynny. Mae gweithdy’r cwmni wedi cynyddu yn ei faint 50 y cant yn fwy na’r cynllun gwreiddiol. Mae prentisiaid y cwmni hefyd wedi ennill gwobrau aur, arian ac efydd yng nghystadlaethau WorldSkills a medaliwn rhagoriaeth yn EuroSkills.

Enwebwyd Mainetti, Wrecsam, gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian. Ers lansio rhaglen brentisiaethau yn y cwmni ailgylchu hwn bedair blynedd yn ôl, mae cynhyrchiant wedi gwella. Mae’r cyfan hefyd wedi rhoi hwb i ysbryd y gweithwyr, a’r trosiant ymhlith staff wedi gostwng. Mae gan y cwmni weithlu o 230 sy’n dod o sawl cenedl wahanol, a’i waith yw ailgylchu ac ailddosbarthu bachau hongian dillad i siopau mawr. Mae cynhyrchiant wedi cynyddu 20 y cant ers i’r cwmni gyflwyno ei raglen brentisiaethau.

Dyma’r ddegfed flwyddyn yn olynol i’r gwobrau gael eu cynnal, ac maent yn cyd-fynd â Diwrnod VQ ar 7 Mehefin, diwrnod sy’n dathlu cymwysterau galwedigaethol ymhlith dysgwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr. Anogir colegau a darparwyr dysgu drwy Gymru i drefnu digwyddiadau lleol i ddathlu Diwrnod VQ ac i sicrhau bod dysgwyr o bob oed yn rhan o’r rheini.

Meddai Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Mae Diwrnod VQ yn dathlu cymwysterau galwedigaethol sy’n agor y drws i ddysgwyr i’r diwydiant y maent am weithio ynddo. Mae’r cymwysterau hyn hefyd yn eu paratoi at astudiaethau galwedigaethol neu’r brifysgol. Rhaid i’r hyfforddiant adlewyrchu anghenion y diwydiant ac ymateb i’r rheini os yw am fod o fudd i gyflogwyr a busnesau.

“Mae sector busnes cryf, economi gryf a chyflogwyr cryf yn hanfodol er mwyn cael sector addysg galwedigaethol cryf. Felly, nod Diwrnod VQ a’r gwobrau hyn yw cydnabod yr hyn y mae’r sector yn ei wneud a rhoi’r cyfle i ymwneud â dysgwyr o bob oed.

“Ni fu cymwysterau galwedigaethol erioed mor bwysig i’r economi ac i unigolion, gan eu bod yn darparu’r gweithwyr hyfforddedig a thalentog y mae busnesau mor awyddus i’w cael, a chan eu bod hefyd yn sicrhau bod gan unigolion y sgiliau i lwyddo yn y byd addysg a’r byd gwaith.”

More News Articles

  —