Cynhadledd genedlaethol yn targedu cyflogwyr a darparwyr prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Sarah John, Chair NTfW

Sarah John, Cadeirydd NTfW

Recriwtio Prentisiaid ac uwchsgilio’r gweithlu fydd prif bwnc cynhadledd genedlaethol a gynhelir yng Nghaerdydd ddiwedd y mis gan ddwyn ynghyd gyflogwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru.

Ers cyflwyno’r ardoll brentisiaethau, mae cyflogwyr yng Nghymru’n dangos mwy o ddiddordeb nag erioed mewn cymryd rhan yn y Rhaglen Brentisiaethau.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n cynrychioli dros gant o sefydliadau sy’n ymwneud â chyflenwi dysgu seiliedig ar waith, yn gobeithio denu cyflogwyr o bob maes i’w gynhadledd flynyddol yn Stadiwm Pêl Droed Dinas Caerdydd ar 29 Mehefin.

‘Prentisiaethau yng Nghymru – Sylfaen economi ar gyfer y dyfodol’ yw thema’r gynhadledd a’i nod yw annog cyflogwyr a darparwyr dysgu i gydweithio er budd gweithwyr, busnesau ac economi Cymru yn ehangach. Bydd y gynhadledd yn apelio at gyflogwyr sydd eisoes yn cyflogi prentisiaid a rhai sy’n dymuno gwneud hynny.

Ymhlith y siaradwyr fydd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn Llywodraeth Cymru, Sandra Sexton, Uwch Reolwr Rhaglen Brentisiaethau Grŵp BT yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, a fydd yn sôn am effeithiau’r ardoll brentisiaethau a Sarah John, cadeirydd NTfW.

Bydd Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes yn Llywodraeth Cymru, yn siarad am ddatblygu’r economi yng Nghymru a bydd Edwyn Williams, pennaeth rhaglen Datganoli Cyflogaeth Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar y Cynllun Cyflogadwyedd Pob Oed.

Yn ogystal, bydd y gynhadledd, a noddir gan Pearson, yn cynnwys cyfres o weithdai’n ymwneud â pholisi prentisiaethau yng Nghymru, yr Awdurdod Addysg Drydyddol, datblygu gweithlu proffesiynol, dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, deall y ddyletswydd Atal ar gyfer gwrthderfysgaeth, datblygu Rhaglen Brentisiaethau o safon uchel, dylanwadu ar y system gymwysterau, fframwaith arolygu newydd Estyn, deall anghenion dysgwyr, a gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol i ryddhau potensial.

“Yn y flwyddyn y mae’r Deyrnas Unedig wedi mynegi ei bwriad ffurfiol i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r heriau sy’n wynebu economi Cymru yn fwy nag erioed,” meddai Sarah John, cadeirydd NTfW. “Er bod llawer iawn o drafod wedi bod yn 2017 ar fater gadael Ewrop, bu cryn drafod ar rywbeth a fydd yn dychwelyd hefyd – prentisiaethau.

“Ers cyflwyno’r ardoll brentisiaethau, mae cyflogwyr yng Nghymru’n dangos mwy o ddiddordeb nag erioed mewn cymryd rhan yn y Rhaglen Brentisiaethau. Mae’r ddau beth hyn wedi digwydd mewn cyfnod pryd y mae dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei ddatblygiad sef, yn bennaf, proffesiynoli’r gweithlu.”

O 1 Ebrill ymlaen, mae ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cael eu cydnabod yn addysgwyr proffesiynol trwy gael eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod ei thymor presennol. Mae’r prentisiaethau’n canolbwyntio’n arbennig ar anghenion diwydiant, yn enwedig wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, sef sectorau lle mae prinder sgiliau.

Bwriedir buddsoddi mwy hefyd i hybu twf mewn sectorau allweddol yn cynnwys y diwydiannau creadigol, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, adeiladu, logisteg, a gwasanaethau ariannol ac amgylcheddol. Caiff prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai dwyieithog eu cefnogi hefyd.

Gall cyflogwyr a darparwyr dysgu gadw lle yn y gynhadledd trwy fynd i https://www.ntfw.org/wel/cynhadledd-ntfw/

More News Articles

  —