Cydweithio’n allweddol er mwyn sicrhau’r sgiliau angenrheidiol i Gymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Sarah John, Chair NTfW

























gan Sarah John, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Bydd darparwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o Gymru’n dod at ei gilydd yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd heddiw (27 Mehefin) ar gyfer cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ‘Sgiliau’r Dyfodol ar gyfer Cenhedlaeth y Dyfodol’. Mae hon yn thema bwysig ac amserol iawn wrth i ni wynebu’r her allweddol o baratoi cyflogwyr ac unigolion i sicrhau bod gan weithlu Cymru y sgiliau newydd y bydd arnynt eu hangen yn y dyfodol.

Daw’r gynhadledd ar adeg o ansicrwydd mawr i economi Cymru, gyda thynged Brecsit yn dal heb ei phenderfynu. Ar nodyn mwy gobeithiol, mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru wedi symud ymlaen yn dda ac mae’n addasu’n barhaus i gwrdd â’r galw. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod angen i ansawdd y rhaglen gyfan barhau i wella a datblygu er mwyn diwallu anghenion unigolion a chyflogwyr yn awr ac i’r dyfodol.

Bu sgiliau’n destun trafod allweddol mewn cyfres o adroddiadau yn ddiweddar, yn cynnwys ‘Cymru Fedrus’ yr FSB, sy’n galw am system sgiliau sy’n rhagweld anghenion y dyfodol mewn cydweithrediad â busnesau. Mae ‘Dyfodol Gwaith yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, yn ystyried y gwaith o ddarparu sgiliau a pharodrwydd pobl i’w ymgymryd â nhw. Dadl yr adroddiad yw bod angen dysgu gydol oes o hyd gan ei bod yn bosib y bydd angen sgiliau gwahanol ar bobl sy’n gweithio heddiw ymhen pum neu ddeng mlynedd. Dywed y dylid canolbwyntio ar y ffordd y caiff pobl eu cefnogi i feithrin, cynnal a gwella’u haddysg a’u sgiliau trwy gydol eu hoes weithiol.

Mae hyn yn taro tant gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy’n awyddus i bawb gael yr un cyfleoedd i ddysgu a chyflawni yn ystod eu hoes, wrth i’r galw newid, yn enwedig yn yr economi ddigidol.

Mae sgiliau’n hanfodol i lwyddiant economi Cymru, ond rwy’n derbyn bod angen i’r ddarpariaeth fod yn fwy rhagweithiol nag ymatebol. Er mwyn cyflawni hyn, credaf fod angen i ni gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun strategol o anghenion sgiliau’r dyfodol. Mae hynny’n cynnwys cyfrif cost eu cyflenwi, canfod a oes gan Gymru ddigon o adnoddau i’w cyflenwi ar draws y rhwydwaith ôl-16 ac, os nad oes, nodi’n glir pa waith meithrin gallu fydd yn angenrheidiol er mwyn diwallu’r anghenion hynny o ran sgiliau.

Mae angen i ni ddwyn ynghyd y datrysiadau y mae ar economi Cymru eu hangen ond, er mwyn llwyddo, mae’n rhaid ein bod yn gallu gweithio ar draws sectorau ac ar draws adrannau’r llywodraeth.

Credwn ei bod yn hanfodol cadw sgiliau ym mhortffolio Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC. Mae’r gwaith traws-adrannol i sicrhau’r dull gweithredu rhagweithiol hwn yn perthyn i bortffolio un Gweinidog erbyn hyn ac felly mae eisoes yn fwy tebygol o lwyddo. Yn y gynhadledd, byddaf yn galw am fwy o feddwl cydgysylltiedig ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a rhagor o fuddsoddi yn y gyllideb sgiliau er mwyn sicrhau bod anghenion economi Cymru’n cael eu diwallu.

Mae angen buddsoddi yn ansawdd y prentisiaethau a gynigir. Mae’n iawn galw am brentisiaethau mwy technegol, o ansawdd well, ond mae’n rhaid iddynt fod yn fforddiadwy, nid yn unig i ddarparwyr ond i Lywodraeth Cymru hefyd.

Er mwyn sicrhau bod dros 30,000 o bobl y flwyddyn yn dal i gychwyn ar brentisiaethau fel sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae angen rhagor o arian. Wrth symud ymlaen, dylid canolbwyntio ar ansawdd yn hytrach na niferoedd oherwydd bydd hynny’n hollbwysig wrth i ni symud i gyfeiriad economi ddigidol gyda dyfodiad awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial.

Rhaid i ni ddadansoddi’r holl sgiliau sydd gennym ar draws y rhwydwaith ôl-16 a chanfod dulliau mwy didrafferth o gydweithio ag Addysg Bellach ac Addysg Uwch er mwyn diwallu’r anghenion am sgiliau ac osgoi dyblygu gwaith. Rwyf am weld Llywodraeth Cymru’n hwyluso ac yn annog mwy o gydweithio wrth ddefnyddio adnoddau presennol.

Ni wyddom eto yn union beth fydd effaith Brexit ar Gymru, ond mae angen i’n rhaglenni sgiliau a chyflogadwyedd fod yn ddigon hyblyg i ymateb i’r gofynion a all godi os bydd y sefyllfa’n amharu ar yr economi.

Gan fod y ddarpariaeth brentisiaethau wedi cynyddu ers cyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau yn 2017, mae’r galw gan gyflogwyr am ddysgu seiliedig ar waith yn amlwg. Ond er mwyn sicrhau system brentisiaethau gynaliadwy sydd gyda’r gorau yn y byd, mae’n rhaid iddi gael yr adnoddau a’r seilwaith a fydd yn galluogi darparwyr i gydweithio â’r llywodraeth i ateb y galw.

More News Articles

  —