Cyfrifo, addasu neu oedi – trefniadau arfaethedig ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Prif Weithredwr, Philip Blaker, Cymwysterau Cymru

Nodyn gan Prif Weithredwr, Philip Blaker, Cymwysterau Cymru

Yn ein gwaith fel rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, rydym yn monitro cydymffurfiaeth cyrff dyfarnu, yn adolygu cymwysterau presennol, yn goruchwylio’r gwaith o gynllunio cymwysterau newydd, ac yn cefnogi’r system gymwysterau. Drwy wneud y gwaith hwn, rydym yn sicrhau y gall dysgwyr, ymarferwyr a’r cyhoedd yng Nghymru fod yn ffyddiog bod cymwysterau, a’r system gymwysterau, yn diwallu eu hanghenion.

Yn dilyn cyhoeddiad Gweinidog Addysg Cymru ynghylch cau canolfannau a chanslo cyfres arholiadau haf 2020 er mwyn helpu i frwydro yn erbyn lledaeniad y coronafeirws (COVID-19), rydym wedi bod yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid, ar draws y DU, i ganfod y trefniadau gorau posibl ar gyfer dyfarnu graddau’r haf hwn. Dros amser, rydym wedi gallu rhannu atebion i’r cwestiwn ‘beth nesaf?’ sy’n cael ei ofyn gan ddysgwyr a rhanddeiliaid ehangach.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Ofqual ganllawiau i ganolfannau ynghylch dyfarnu cymwysterau galwedigaethol a thechnegol, a chymwysterau cyffredinol eraill, yn haf 2020.

Mae’r trefniadau’n berthnasol i’r rhan fwyaf o’r cymwysterau galwedigaethol a ddilynir mewn ysgolion, colegau a gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae’r trefniadau’n berthnasol i’r rhan fwyaf o’r cymwysterau galwedigaethol a ddilynir mewn ysgolion a cholegau a gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae’r cymwysterau hyn ar gael ledled y DU, felly mae’n bwysig ein bod yn sicrhau cysondeb er tegwch i ddysgwyr.

Bydd cyrff dyfarnu yn defnyddio tystiolaeth amrywiol i sicrhau bod y canlyniadau mor ddibynadwy a chyson â phosibl, fel y gall y cyhoedd ymddiried ynddynt ac fel bod darparwyr addysg a chyflogwyr yn rhoi yr un gwerth arnynt ag mewn unrhyw flwyddyn arall.

Y prif nod yw sicrhau y gall dysgwyr dderbyn graddau yr haf hwn fel y gallant symud ymlaen i’w cam nesaf, gan roi sicrwydd ar yr un pryd bod y graddau’n cael eu cydnabod a bod y dull gweithredu’n deg.

Bydd cymwysterau’n cael eu dosbarthu i un o dri chategori gwahanol

O ystyried cymhlethdod ac amrywiaeth y sefyllfa o ran cymwysterau galwedigaethol, nid yw’n bosibl gweithredu’r un dull ar gyfer pawb. Felly mae cymwysterau’n cael eu dosbarthu fel y gellir defnyddio’r dull gorau gyda’r cysondeb mwyaf posibl.

Categori 1 – Cymwysterau a ddefnyddir ar gyfer symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch
Categori 2 – Cymwysterau sy’n cyflawni dibenion cymysg
Categori 3 – Cymwysterau sy’n dyfarnu cymhwysedd galwedigaethol

Bydd cyrff dyfarnu yn penderfynu pa rai o’r dulliau canlynol y dylid eu defnyddio:

  • Gradd wedi’i chyfrifo, os yw’n bosibl (Cyfrifo) – caiff hwn ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o gymwysterau categori 1
  • Lle nad oes modd cyfrifo, dylid ystyried addasu asesiadau sy’n bodoli eisoes (Addasu)
  • Aildrefnu asesiadau lle mae’n amlwg nad yw cyfrifo nac addasu yn bosibl (Oedi)

Cynigiwyd dull rheoleiddio llai cyfarwyddol, a fydd yn “fframwaith eithriadol” sy’n hyblyg ac wedi’i seilio ar egwyddorion. Gyda’r dull hwn, caiff y cyfrifoldeb am benderfynu sut i gyflwyno canlyniadau i ddysgwyr ei ddirprwyo i’r cyrff dyfarnu. Bydd gan yr holl ddarparwyr a chanolfannau rôl allweddol wrth sicrhau bod unrhyw drefniadau newydd yn gweithio’n effeithiol ac y gellir darparu canlyniadau, neu drefniadau asesu eraill, i ddysgwyr.

Defnyddiwyd yr un egwyddorion gennym wrth wneud penderfyniadau am gymwysterau galwedigaethol sydd wedi’u cynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru. Mae’r gwaith a wnaethom yn ddiweddar o ran cytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn enghraifft dda o sefyllfa ble’r oedd rhaid cydbwyso’r awydd i gyhoeddi canlyniadau yr haf hwn â’r angen i sicrhau bod dysgwyr wedi dangos y cymhwysedd proffesiynol angenrheidiol i weithio yn y sector pwysig hwn.

Yr opsiwn Oedi yw’r opsiwn lleiaf ffafriol. Fodd bynnag, ar gyfer rhai cyrsiau, hwn fydd yr unig opsiwn ymarferol, yn enwedig lle nad yw cyfrifo nac addasu yn briodol a lle mae’n rhaid dangos cymhwysedd galwedigaethol. Bydd pob corff dyfarnu yn cynnig canllawiau penodol pellach ar ei weithdrefnau ei hunan.

Rwy’n gwbl ymwybodol o’r heriau cymhleth sy’n wynebu darparwyr dysgu seiliedig ar waith a’u dysgwyr yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, a byddwch, gobeithio, eisoes yn gweithio gyda’ch cyrff dyfarnu ar y broses a ddewiswyd ganddynt ar gyfer trefniadau haf 2020.

Gydag un llygad ar heddiw, rydym hefyd yn paratoi ar gyfer yfory, gan gynllunio ar gyfer pob senario bosibl o ran y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn 2020–2021.

A ninnau’n rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, byddwn yn monitro’r ffordd y gweithredir y ‘trefniadau eithriadol’ ar gyfer dysgwyr yng Nghymru dros yr haf. Byddwn yn parhau i gyfathrebu â chi drwy ein gwefan, ac os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau penodol, cysylltwch â cyfathrebu@cymwysteraucymru.org

More News Articles

  —