Cefnogaeth i brentisiaid a hyfforddeion Cymru’n parhau er gwaetha’r cyfyngiadau symud

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bethan Evans-Conway (dde) a’i mam Linda Evans, cyfarwyddwyr 1st Steps Day Care yn Rhymni.

Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru’n llwyddo i barhau â’u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud Covid-19, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol.

Sefyllfa’r dysgwyr sydd flaenaf ym meddyliau’r darparwyr hyfforddiant ac maent wedi bod yn arbennig o hyblyg yn addasu eu dulliau dysgu fel na fydd eu rhaglenni dysgu’n cael eu dal yn ôl oherwydd y cyfyngiadau symud.

Mae platfformau ar-lein fel Google Hangouts, Smart Rooms, Zoom, Microsoft Teams a Facebook yn galluogi darparwyr hyfforddiant i gadw mewn cysylltiad â phrentisiaid a hyfforddeion a’u cefnogi wrth iddynt gyflawni, adolygu ac asesu unedau eu Prentisiaethau a’u Hyfforddeiaethau.

Wrth ddysgu sgiliau mewn ffordd hyblyg fel hyn, bydd y dysgwyr mewn sefyllfa dda i gwblhau eu rhaglenni dysgu pan godir y cyfyngiadau symud.

Mae gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gontractau gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu sy’n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch.

Yn ystod y cyfyngiadau, nid ydynt yn gallu trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â’u dysgwyr sy’n perthyn i dri dosbarth: ar ffyrlo neu eu swydd wedi’i dileu; yn dal i weithio a heb lawer o amser i barhau i ddysgu oherwydd pwysau gwaith yn y rheng flaen; ac yn gweithio fel arfer naill ai gartref neu yn eu gweithle arferol.

Mae darparwyr dysgu yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau i dysgu, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio tuag at Hyfforddeiaethau, ac yn trefnu rhithgyfarfodydd grŵp i sicrhau eu bod yn iawn ac i roi gwaith iddynt i’w wneud gartref.

Ychydig iawn o sylw a gafodd cyfraniad gwerthfawr darparwyr hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda’r sylw’n canolbwyntio ar y GIG, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr rheng flaen eraill. Fodd bynnag, bydd gwaith y darparwyr yn amhrisiadwy wrth iddynt helpu i ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i roi hwb i’r economi pan godir y cyfyngiadau symud.

Jeff Protheroe yw cyfarwyddwr gweithrediadau’r NTfW, sef sefydliad y mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau ohono ac sydd â chysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.

“Mae’n gyfnod heriol a phryderus ond mae darparwyr dysgu’n brysurach nag erioed ac maen nhw’n haeddu clod am newid eu ffordd o weithio dros nos,” meddai. “Mae’r ffyrdd newydd o weithio yn effeithiiol iawn oherwydd mae’r darparwyr yn gwasgu llawer iawn o waith i’w diwrnod trwy beidio â gorfod teithio o le i le.

“Pan godir y cyfyngiadau symud, dylem fod mewn lle gwell o lawer o ran gweithio’n ddigidol a ffyrdd newydd o weithio a bydd hynny’n fanteisiol yn y pen draw. Mae dysgwyr wedi dangos awydd mawr i barhau â’u prentisiaethau a’u hyfforddeiaethau.”

Minister for Economy, Transport and North Wales, Ken Skates.


 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae prentisiaid a hyfforddeion yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a byddant yn hollol hanfodol wrth i ni ddod dros yr argyfwng hwn.
 
“Ein nod ni yw, nid yn unig adennill ein sefyllfa flaenorol ar ôl y pandemig, ond cyrraedd sefyllfa well trwy greu economi genedlaethol lle caiff cyfoeth a ffyniant eu rhannu’n fwy cyfartal ledled Cymru – mae gan brentisiaid a hyfforddeion ran allweddol i’w chwarae yn hyn.
 
“Er bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, mae wedi tynnu sylw at ddoniau, ymroddiad a gwytnwch anhygoel y darparwyr hyfforddiant sy’n cefnogi pobl yma yng Nghymru. Rydym yn cydnabod eu cyfraniad ac mae eu hymdrechion yn rhoi hyder i mi yn y dyfodol.”

Dywedodd John Nash, cadeirydd dros dro NTfW, ac un o gyfarwyddwyr TSW Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn croesawu’r ffaith fod Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod y rhan allweddol y bydd prentisiaid a hyfforddeion yn ei chwarae wrth i ni adfer economi Cymru, oherwydd gwyddom y gall effeithiau dirwasgiad amharu’n fawr ar bobl ifanc.

“Wrth i ni ailgychwyn ar ôl y pandemig, bydd mwy o angen sgiliau nag erioed ar Gymru. Mae’r NTfW a’i aelodau’n barod i gydweithio’n agos â’r Gweinidog a’i dîm i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ac i ddiogelu dyfodol prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.”

Mae’r ffyrdd newydd o weithio wedi bod o fudd, nid yn unig i’r dysgwyr, ond i’r darparwyr hyfforddiant hwythau sydd wedi gwella’u sgiliau a datblygu rhai newydd.

Yn Ystrad Mynach ym mae canolfan grŵp Educ8, sy’n cynnwys ISA Training, ac mae ganddynt 165 o staff sy’n dysgu 1,600 o brentisiaid mewn gwahanol sectorau – iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, arwain a rheoli, cyngor a chyfarwyddyd, busnes, a gwallt a harddwch.

Mae’r buddsoddiad a wnaed mewn datblygu platfformau digidol yn talu ar ei ganfed i’r grŵp gan fod y dysgwyr yn gallu manteisio ar adnoddau dysgu a defnyddiau ar gyfer eu cyrsiau, a bod cyflogwyr a dysgwyr yn cael defnyddio porth ar-lein i gyflwyno, marcio a chadw golwg ar waith cwrs.

Fis diwethaf, lansiodd y grŵp blatfform ar-lein arloesol sy’n defnyddio technoleg adnabod wynebau a dulliau diogelach o drafod data ac yn galluogi cyflogwyr a dysgwyr i lenwi ac e-lofnodi dogfennau digidol er mwyn ymgeisio am gyllid i ddilyn prentisiaeth.

Gall cyflogwyr ddilyn proses ar-lein i dderbyn gweithwyr i wneud prentisiaethau ac mae dysgwyr yn treulio llai o amser yn llenwi gwahanol ffurflenni, gan ei wneud gartref ar y system ar-lein.

Grant Santos, Educ8

“Diolch i’r platfformau technolegol hyn, cafodd Covid-19 ddim gymaint o effaith ar allu dysgwyr Educ8 i ddefnyddio’u hadnoddau a symud ymlaen â’u cymwysterau,” meddai’r prif weithredwr, Grant Santos. “Yn wir, ers cyflwyno’r cyfyngiadau ar symud, mae 90% o ddysgwyr Educ8 wedi parhau â chyrsiau eu Prentisiaethau – mae hynny’n rhyfeddol!

“I lawer o gyflogwyr, bu’n hanfodol i’w busnes eu bod yn dal yn gallu dilyn rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn sectorau fel iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, lle mae’n rhaid cael cymwysterau er mwyn gweithio.”

Llwyddwyd i gynnal y berthynas rhwng staff grŵp Educ8 a’r dysgwyr yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud trwy gynnal sesiynau un-i-un trwy gyswllt fideo a chynnal gweithdai ar gyfer criwiau o ddysgwyr.

“Oherwydd Covid-19 bu’n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru addasu eu ffyrdd o weithio’n gynt nag erioed er mwyn sicrhau y gellir parhau â’r rhaglen brentisiaethau,” meddai Mr Santos. “Er bod llu o heriau wedi codi, cafwyd nifer o ddatrysiadau gwych hefyd a fydd yn cael effaith fawr ar y sector yn y dyfodol.

“Mae’n debygol y bydd datblygiadau sy’n gwneud y gwaith yn fwy hwylus ac yn gwella’r gwasanaeth ac ansawdd y dysgu, gan leihau ôl troed carbon y genedl, yn para ymhell ar ôl codi’r cyfyngiadau a arweiniodd at eu cyflwyno.”

Mae gan y grŵp ddau brentis yn 1st Steps Day Care yn Rhymni, Tredegar. Dywedodd Bethan Evans-Conway, cyfarwyddwr, bod y gwasanaeth dysgu ar-lein a gynigiwyd gan Educ8 yn golygu bod y staff yn gallu parhau â’u prentisiaethau yn ystod y pandemig.

“Dechreuwyd gwneud cynlluniau cyn gynted ag y cyflwynwyd y cyfyngiadau,” meddai. “Mae hwn yn gyfnod rhyfedd iawn ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar i Educ8 am sicrhau nad yw’r pandemig wedi cadw fy staff rhag dysgu a datblygu.”

Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa trwy gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor. Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth.

More News Articles

  —