Cymorth i geiswyr gwaith ledled de-ddwyrain Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bu sefydliadau o bob cwr o dde-ddwyrain Cymru yn cydweithio i gynnal ffair swyddi rithwir ar-lein am ddim ar Facebook ar 16 Medi.

Nodau’r ffair rithwir oedd:

  • Galluogi cwsmeriaid i gael mynediad at swyddi gwag a chael cymorth gyda’u hanghenion cyflogadwyedd, gan gynnwys y rhai ar seibiant, y di-waith neu’r rhai mewn perygl o golli eu swyddi o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.
  • Cynorthwyo cyflogwyr yn y rhanbarth i recriwtio, gan gynnwys y rhai sy’n ei chael yn anodd llenwi swyddi gwag.
  • Amlygu’r cyfleoedd hyfforddi, addysg bellach (AB)/addysg uwch (AU), prentisiaeth/hyfforddeiaeth, addysg oedolion a chymorth cyflogaeth.

Cynhaliwyd y digwyddiad am ddim gan Cymru’n Gweithio, sy’n dod o dan adain Gyrfa Cymru, mewn partneriaeth â thimau Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Ganolfan Byd Gwaith ar draws de-ddwyrain Cymru. Y partïon eraill oedd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), darparwyr dysgu seiliedig ar waith, awdurdodau lleol a sefydliadau AB ac AU.

Yn cwmpasu ardaloedd Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, cafodd y rhai a fynychodd y digwyddiad fynediad at amrywiaeth o swyddi gwag mewn 24 o sefydliadau o wahanol ddiwydiannau/sectorau, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, manwerthu, gwasanaethau brys, adeiladu a’r sector creadigol.

Cafwyd gwybodaeth hefyd am brentisiaethau/hyfforddeiaethau/AB/AU yn ogystal â chyngor gyrfaoedd arbenigol i gynorthwyo pobl i chwilio am swydd. Cafodd y rhai a fynychodd gyfle i ofyn cwestiynau’n uniongyrchol i gyflogwyr yn ogystal â chael mynediad at gymorth pellach gan Cymru’n Gweithio ac asiantaethau eraill yn ystod y digwyddiad ac ar ôl y digwyddiad.

Denodd y digwyddiad dros 600 o fynychwyr a chyrraedd dros 22,000 o bobl ar Facebook.

Ymysg y cyflogwyr/sefydliadau a fu’n cymryd rhan roedd Tesco, Asda, ITV Cymru ac S4C, My Care My Home, Wales England Care Ltd, Q-Care, Royal Educare, Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Pineshield, Hyfforddiant Torfaen, Calon Cymru Fostering, Bailey Care, Randstad Inhouse Services, Gwasanaethau Dysgu Apollo, Supply Desk, Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Busnes Cymru, The Utility Warehouse, Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Faithful+Gould, Valley to Coast, Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy – Cyngor Caerffili, Change Grow Live, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Hyfforddiant Educ8, Y Prentis, Hyfforddiant Cambrian, Hyfforddiant ALS, ACT, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), Y Coleg Merthyr Tudful, Coleg Caerdydd a’r Fro, Prifysgol De Cymru.

Er bod y digwyddiad eisoes wedi’i gynnal, gall unrhyw un sydd â diddordeb weld y swyddi drwy ddefnyddio’r dolenni isod. Dewiswch ‘yn mynd’ a sicrhewch eich bod yn yr adran ‘trafodaeth’ i weld yr holl swyddi.

Digwyddiad Cymraeg | Digwyddiad Saesneg

Meddai prif weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence: “Er bod y cyfyngiadau wedi’u codi ledled Cymru, mae’n rhaid i ni barhau i ohirio neu ganslo ffeiriau swyddi traddodiadol wyneb-yn-wyneb. Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae ceiswyr gwaith a chyflogwyr yn dibynnu ar gymorth ar-lein i ddod o hyd i swyddi ac i lenwi swyddi gwag.
 
Rydym felly yn falch o gael gweithio gyda’n partneriaid yn ne-ddwyrain Cymru i gyflwyno’r digwyddiad hwn. Mae ein cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn rhan hanfodol o gefnogi’r economi yn ystod y pandemig hwn, ac mae’r digwyddiadau hyn ar-lein yn ein galluogi i barhau i gyrraedd a chynorthwyo ein cwsmeriaid yn effeithiol ac yn ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Ariennir Cymru’n Gweithio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop ac fe’i lansiwyd gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates ym mis Mai 2019.

Mae Cymru’n Gweithio, sydd ar gael i unrhyw un dros 16 oed, yn darparu gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd cyflogadwyedd un-i-un wedi’i deilwra, gan gynorthwyo pobl ledled Cymru i chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, hyfforddi ac uwchsgilio yn ogystal â chael cymorth ar ôl colli eu swydd.

I gael rhagor o wybodaeth am Cymru’n Gweithio ewch i: cymrungweithio.llyw.cymru neu ffoniwch 0800 028 4844.

More News Articles

  —