Cymwys ar gyfer y dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio ymdrech ymgynghori fawr i glywed barn y bobl am y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Mae’r ymgynghoriad 12 wythnos, Cymwys ar gyfer y Dyfodol, yn awgrymu egwyddorion a fydd yn llunio’r ystod o gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 16 oed.

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar agweddau allweddol ar ddull y rheoleiddiwr o benderfynu ar y cymwysterau a fydd ar gael i bobl ifanc 16 oed o dan y cwricwlwm newydd. Mae’n amlinellu cynigion i:

  • gadw cymwysterau TGAU yn rhan ganolog o gymwysterau, ond eu hailgynllunio fel eu bod yn cyd-fynd yn dda â’r cwricwlwm newydd;
  • y dylai fod yn ofynnol i gyrff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau ar gael yn ddwyieithog;
  • cynnwys cymhwyster annibynnol sy’n cefnogi datblygu ac asesu’r sgiliau ehangach a ddiffinnir yn y cwricwlwm newydd fel rhan o’r cynnig cymhwyster; a,
  • sefydlu set o egwyddorion i symleiddio’r ystod o gymwysterau sydd ar gael i ysgolion.

Cynhelir yr ymgynghoriad tan a dydd Gwener, 7 Chwefror ac rydym yn awyddus i glywed gan ddarparwyr dysgu yn y gwaith.
Mae manylion llawn, gan gynnwys y dogfennau ymgynghori, cyfweliadau fideo a gwybodaeth am sut i ymateb, ar wefan Cymwysterau Cymru

More News Articles

  —