Cymwysterau galwedigaethol yn allweddol i lwyddiant y salon gwallt i’r dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith

Janine O’Callaghan (right) and business partner Donna Friend, joint owners of Spirit Hair Team.

Janine O’Callaghan (dde) a’i phartner busnes Donna Friend, cyd-berchnogion Spirit Hair Team.

“Bydd ein busnes ond yn ffynnu yn y dyfodol os cadwn ychwanegu gwerth ato trwy hyfforddiant galwedigaethol.”

Dyna oedd geiriau Janine O’Callaghan, cydberchennog y salon gwallt proffesiynol, Spirit Hair Team yn Ystrad Mynach, cwmni sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae’r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd â Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol – dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr – a gynhelir ar 10 Mehefin.

Mae gan Janine a’i phartner busnes, Donna Friend, frwdfrydedd mawr am gymwysterau galwedigaethol a datblygiad proffesiynol parhaus i gyflawni gwasanaeth trin gwallt o safon a gwasanaeth proffesiynol i gwsmeriaid. Anogir aelodau’r tîm i gymryd rhan mewn prentisiaethau ac i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a chystadlu.

O gael trafferth recriwtio staff da a medrus pan ddechreuon nhw’r busnes, sefydlon nhw eu rhaglen brentisiaeth eu hunain, gan weithio gyda’r darparwr hyfforddiant ISA Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ysgolion a cholegau lleol.

Mae’r busnes, a chanddo dîm o 18 o bobl, wedi cymryd 34 prentis dros y 10 mlynedd diwethaf ac yn bwriadu recriwtio mwy fel rhan o raglen i ehangu. Mae Janine yn cyfrifo bod prentisiaid y salon wedi cyfrannu oddeutu £400,000 at y busnes trwy gyflwyno 1,400 o gleientiaid dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Ni fyddai gennym fusnes heb gymwysterau galwedigaethol,” meddai. “Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau gyda nhw er mwyn cefnogi’n cynlluniau i arbenigo ac ehangu i wahanol feysydd.

“Mae arnom angen aelodau o’r tîm sy’n rhagweithiol ac sydd eisiau cynyddu eu sgiliau ar draws yr ystod, wrth i ni ddatblygu arweinwyr tîm a staff sy’n canolbwyntio ar wasanaethau cwsmeriaid ac sydd wedi’u hyfforddi mewn busnes a rheolaeth.

“Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi datblygu strwythur i annog datblygiad a llwyddiant ac mae pawb yn cael yr un cyfleoedd i symud i fyny’r ysgol. Rydym wedi creu amgylchedd lle sylweddola’r prentisiaid fod hyfforddiant yn allweddol i’w llwyddiant i’r dyfodol.

“Harddwch cymwysterau galwedigaethol yw eu hyblygrwydd a’r cyfleoedd am brofiadau dysgu ychwanegol sy’n cynhyrchu gweithlu sy’n hynod gyflogadwy gyda chyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy.”

Y cyflogwyr eraill sydd yn rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ Flwyddyn yw: cynhyrchydd bwyd Dailycer UK o Lannau Dyfrdwy a meithrinfa plant Little Inspirations o Lantrisant. Mae’r wobr yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud cyfraniad go iawn, o’i gymharu â’u maint, i wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol.

Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Julie James y tri chwmni ysbrydoledig sydd yn y rownd derfynol ac mae hefyd yn canmol yr holl gyflogwyr a oedd wedi cynnig am y Gwobrau VQ eleni.

“Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,” meddai. “Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmnïoedd, a chwsmeriaid.

More News Articles

  —