Saer dawnus a pherchennog meithrinfeydd ysbrydoledig yn ennill Gwobrau VQ

Postiwyd ar gan karen.smith

Enillwyr Gwobrau VQ gyda’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg. CH-Dde Simon McCall, Julie James AM a Jenine Gill, Little Inspirations

Enillwyr Gwobrau VQ gyda’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg. CH-Dde Simon McCall, Julie James AM a Jenine Gill, Little Inspirations

Roedd saer o Sgwad Deyrnas Unedig Worldskills a pherchennog ysbrydoledig tair meithrinfa i blant yn dathlu neithiwr (9 Mehefin) ar ôl iddynt ennill y prif Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) yng Nghymru.

Enwyd cyn fyfyriwr Coleg Sir Gâr, Simon McCall yn Ddysgwr VQ y Flwyddyn. Mae Simon yn 21 oed ac o Gapel Dewi ger Caerfyrddin, yn enillydd medal arian Ewropeaidd ac fe gafodd le yn Sgwad y DU Worldskills yn gynharach eleni.

Enwyd Jenine Gill, sy’n cyflogi 55 aelod o staff ym meithrinfeydd plant Little Inspirations yn Llantrisant, Rhydyfelin a’r Barri, yn Gyflogwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Cynhaliwyd y Gwobrau VQ, sy’n dathlu cyflawniadau dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru, ar noswyl Diwrnod VQ ledled y DU.

Mae’r gwobrau, a drefnir gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru, yn helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, yr enillwyr ysbrydoledig a’r saith a ddaeth yn agos at y brig.

“Mae gennym draddodiad hir yng Nghymru o ddatblygu sgiliau trwy lwybrau galwedigaethol,” meddai. “Rydym yn parhau’n ymroddedig i helpu pobl ifanc a chyflogwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyfrannu at economi Cymru sy’n tyfu.

“Mae Diwrnod VQ yn ein hatgoffa ni faint o gyflogwyr a dysgwyr Cymru sydd eisoes yn mynd y filltir ychwanegol pan ddaw hi i ddatblygu eu sgiliau. Dangosodd pob un o’r rhai a enwyd ar gyfer y gwobrau eleni’r hyn y gellir ei gyflawni trwy waith caled ac ymroddiad.

“Cymwysterau galwedigaethol yw’r safon aur mewn rhagoriaeth broffesiynol a rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â chyraeddiadau academaidd.

Mae cystadleuaeth Ryngwladol WorldSkills, a gynhelir ym Mrasil ym mis Awst, yn rhoi lle amlwg i addysg alwedigaethol a bydd y pedwar cystadleuydd o Gymru sydd yn y sgwad yn tynnu sylw at bwysigrwydd Cymru i gymwysterau galwedigaethol ar lwyfan y byd.”

Enillwyr VQ a’r Rownd Derfynol 2015

Enillwyr VQ a’r Rownd Derfynol 2015

Cwblhaodd Simon McCall brentisiaeth gwaith coed CITB gyda Jones and Johnson, Caerfyrddin, gan astudio yng Ngholeg Sir Gâr. Fe’i hanogwyd i berffeithio’i sgiliau ymhellach trwy gystadlu mewn cystadlaethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gan ennill medal aur yn rownd ranbarthol WorldSkills UK/Rownd Derfynol Cymru’r llynedd ac arian yn Euroskills yn Lille, Ffrainc.

Ar ôl sicrhau lle yn Sgwad y Deyrnas Unedig Worldskills, aeth yn hunangyflogedig fis Hydref diwethaf a’i nod yw cyflogi prentis ym mis Medi er mwyn trosglwyddo’i sgiliau a’i brofiad.

Bythefnos yn ôl yn rownd derfynol dewis Tîm Deyrnas Unedig Worldskills, y cyd-Gymro Owain Jones oedd yr unig un i sicrhau lle yn y gystadleuaeth gwaith coed ar gyfer Worldskills Brasil 2015.Mae Simon wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi ei gydwladwr wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol, sy’n dyst i haelioni ei gymeriad.

“Mae’n cymryd cryn dipyn o ymroddiad ond nid llawer o bobl all ddweud eu bod ym meddiant medal Ewropeaidd a’u bod yn Sgwad y DU ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol Worldskills,” meddai.

Hanner stori fyddai dweud bod Jenine Gill yn arwain trwy esiampl. Mae’r fam i ddau o blant wedi cwblhau Uwch Brentisiaeth mewn Gofal Plant ac NVQ lefel 3 mewn Rheolaeth y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Sefydlodd Little Inspirations yn 2003, ac mae wedi bod yn gweithio gyda’r darparwr hyfforddiant Educ8 Ltd dros yr wyth mlynedd diwethaf – sef darparwr sy’n cyflwyno cyrsiau mewn gofal cwsmeriaid, gofal plant, sgiliau hanfodol, gwaith chwarae a hyfforddiant rheoli.

Mae dros 50 o aelodau staff wedi’u hyfforddi, sydd wedi arwain at lefel uchel o barhad a throsiant staff isel iawn. Ariennir y rhaglenni prentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

“Anogir y staff yn Little Inspirations i ddysgu ar hyd eu gyrfaoedd er mwyn sicrhau bod ein plant yn cael y gofal gorau a’n bod ni’n perfformio ar y lefel uchaf,” meddai. “Mesurir ein holl hyfforddiant ac wrth i’r staff gwblhau eu rhaglenni, edrychwn iddynt ddod â thri syniad yn ôl i’r feithrinfa.

“Helpa ein hymrwymiad i hyfforddiant i ni gadw a gwerthfawrogi staff a fydd, o ganlyniad, yn uchel eu cymhelliant i ddysgu a datblygu yn y busnes.”

Y rhai nesaf at y brig ar gyfer Cyflogwr VQ y Flwyddyn oedd y cynhyrchwyr bwyd Dailycer UK yng Nglannau Dyfrdwy, y mae eu twf yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cyd-daro â chydweithrediad hyfforddi staff llwyddiannus gyda Choleg Cambria a’r salon gwallt proffesiynol Spirit Hair Team o Ystrad Mynach, sy’n dweud bod cymwysterau galwedigaethol a datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol i’r busnes ffyniannus.

Ymhlith y rhai nesaf at y brig yng ngwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn oedd Casey Coleman, 28 oed, cyfarwyddwyr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd a gafodd eu hyfforddi yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, James Pepper, 39 oed, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd a Paul Wiggins, 35 oed, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig yn BPW Insurance Services, Casnewydd a gafodd ei hyfforddi gan Acorn Learning Solutions a’r cynfyfyrwyr o Goleg Penybont Michael Whippey, 23 oed, y prif hyfforddwr yng Nghanolfan Geffylau Shardeloes Farm, Amersham a Serena Torrance, 23 oed, o Faesteg sy’n dilyn gradd Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Er mwyn dathlu Diwrnod VQ yng Nghymru, bydd y Dirprwy Weinidog yn ymweld â’r cwmni technoleg mawr Sony’s UK Technology Centre (UKTEC) ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr ar fore Mercher. Bydd hi’n teithio’r ffatri ac yn clywed sut mae cefnogaeth y cwmni i hyfforddi a datblygu ei weithlu medrus wedi creu enw gwych am ragoriaeth cynhyrchu.

More News Articles

  —